Cydweithio rhwng ysgolion a dosbarthiadau chwech a Cholegau Addysg Bellach - 2006 - Estyn

Cydweithio rhwng ysgolion a dosbarthiadau chwech a Cholegau Addysg Bellach – 2006

Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • greu cyrff cynllunio a all wneud penderfyniadau strategol am natur y ddarpariaeth mewn ardal;
  • sicrhau bod mwy o gydweddu rhwng y mecanweithiau cyllid ar gyfer darpariaeth cyn-16 ac ôl-16; ac
  • annog AALlau i weithio gyda phob partner i adolygu natur y ddarpariaeth yn eu hardal.

Dylai awdurdodau lleol:

  • weithio gyda phob partner i adolygu natur y ddarpariaeth yn eu hardal.

Dylai ysgolion a cholegau:

  • weithio gyda’i gilydd er lles dysgwyr yn eu hardal trwy helpu rhesymoli a chydlynu darpariaeth; ac
  • archwilio’r modd y gall gweithgareddau cydweithredol gynyddu ystod y cyrsiau galwedigaethol a gynigir.

Dylai ysgolion:

  • sicrhau bod dysgwyr yn cael gwybodaeth a chyngor llawn, teg a diduedd am y dewisiadau sydd ar gael iddynt yn 16 oed.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn