Cydweithio i wella lles ar gyfer dysgu yn y gwaith
Quick links:
Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector
Mae’r Vocational Skills Partnership (VSP) yn gonsortiwm o bedwar darparwr preifat dysgu yn y gwaith yn Abercynon. Fe’i datblygwyd i fodloni’r heriau a nodir ar yr agenda ‘Trawsnewid Addysgu a Dysgu Ôl 16 yng Nghymru.
Mae hyrwyddo lles dysgwyr yn gysyniad cymharol newydd ar gyfer dysgu yn y gwaith, ôl-16. Ar y cyd ag Acorn a Babcock, mae’r Bartneriaeth Sgiliau Galwedigaethol wedi nodi angen i allu hyrwyddo’r cysyniad yn effeithiol i ddysgwyr sy’n cael eu cyflogi ac wedi’u lleoli yn y gweithle yn bennaf. Yn dilyn amryw o gyfarfodydd rhwng y tri darparwr, cytunwyd y gallai datblygu un lleoliad lle gallai dysgwyr, cyflogwyr a chyflogeion gael y wybodaeth ddiweddaraf a chyngor ar sut i wella’u lles, neu les eu cyflogeion, fod yn hynod effeithiol.
Yn hytrach na datblygu tair strategaeth ar wahân, gweithiodd y tri darparwr gyda’i gilydd i greu canolfan ganolog o ran gwybodaeth am Les, a alwyd yn ‘My Wellbeing Hub’. I godi arian i ddatblygu’r fenter hon, cyflwynodd y tri phartner gais i Gronfa Gwella Ansawdd Llywodraeth Cymru.
Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector
Yn dilyn y cais llwyddiannus i’r Gronfa Gwella Ansawdd, arweiniodd Partneriaeth VSP y gwaith o ddatblygu ‘My Wellbeing Hub’. Trefnodd y Bartneriaeth gyfarfodydd misol gydag Acorn a Babcock er mwyn cynllunio, lansio, monitro, adolygu a gwella ‘My Wellbeing Hub’ yn barhaus.
Recriwtiwyd gweithiwr prosiect graddedig ‘Go Wales’ gan VSP i archwilio’r themâu niferus sy’n gysylltiedig â lles ac i wneud ymchwil i’r mathau o adnoddau y dylid trefnu eu bod ar gael i’r dysgwyr. Fel rhan o’r broses hon, trefnwyd holiaduron a chynhaliwyd cyfweliadau gyda dysgwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill i bennu’r galw am wybodaeth am destunau penodol a dealltwriaeth o’r meysydd pwysicaf i’w cynnwys yn ‘My Wellbeing Hub’. Fe wnaethom ymchwilio hefyd i ba gymorth y gallai asiantaethau cymorth amrywiol ei ddarparu, a chynhwysom ‘wasanaeth cyfeirio’ defnyddiol at y rhain.
Yn y pen draw, datblygom wefan hawdd i’w defnyddio i ddysgwyr y tu allan i Bartneriaeth VSP, Babcock ac Acorn yn y cyfeiriad canlynol: mywellbeinghub.co.uk. Rydym wedi gwneud y wefan yn rhyngweithiol drwy ei chysylltu â llwyfannau cyfryngau cymdeithasu, gan hyrwyddo trafodaeth am faterion yn ymwneud â lles dysgwyr a’u hannog i ofyn am arweiniad penodol os bydd angen. Rydym wedi sicrhau bod y cynnwys yn parhau’n gyfredol ac yn berthnasol trwy gysylltu porthiannau RSS (Rich Site Summary) i’r wefan gan ddangos y newyddion diweddaraf, erthyglau, cyngor ac arweiniad ar Les.
Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr
Mae ‘My Wellbeing Hub’ wedi cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr drwy roi iddynt y wybodaeth a’r ddealltwriaeth y mae arnynt eu hangen i reoli eu lles eu hunain.
Ers i’r wefan ddod yn ‘fyw’ ym Mai 2012, mae cyfartaledd o 745 o bobl wedi ymweld â’r wefan bob mis. O ganlyniad i ddefnyddio’r wefan, mae tiwtoriaid yn adrodd bod dysgwyr wedi gallu canolbwyntio’n well ar eu dysgu.
Mae llawer o ddysgwyr wedi rhoi adborth cadarnhaol. Mae achosion unigol yn cynnwys dysgwr a oedd eisiau rhoi’r gorau i ysmygu yn cael ei gyfeirio at ‘MyWellbeingHub’ gan ei Hasesydd Sgiliau. Roedd y gefnogaeth a gafodd o ganlyniad yn gymorth mawr ac, yn sgil hynny, nid yw wedi ysmygu ers 4 mis. Hefyd, datblygodd ddealltwriaeth gyffredinol well o sut i gadw’n iach, ac erbyn hyn mae’n gallu dysgu’n fwy effeithiol o ganlyniad i hynny.