Cydweithio i adnabod cryfderau a chynllunio cwricwlwm effeithiol - Estyn

Cydweithio i adnabod cryfderau a chynllunio cwricwlwm effeithiol

Arfer effeithiol

Ysgol Gynradd Cae Top


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Cae Top, sydd o dan reolaeth yr Eglwys yng Nghymru, wedi’i lleoli ym Mangor.  Mae 234 o ddisgyblion ar y gofrestr, sy’n cynnwys 28 o blant oedran meithrin.  Mae wyth o ddosbarthiadau un oedran yn yr ysgol.
Daw ychydig iawn o ddisgyblion o gartrefi Cymraeg eu hiaith.  Daw tua 25% o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu gefndiroedd cymysg ac maent yn siarad 16 o ieithoedd gwahanol.  Mae tua 24% o ddisgyblion yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol.
Mae deuddeg y cant o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae un deg tri y cant o ddisgyblion ar gofrestr anghenion dysgu ychwanegol yr ysgol.  Ychydig iawn o ddisgyblion sydd â datganiad o anghenion dysgu ychwanegol.

Cam 1:  Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn trefniadau hunanarfarnu ehangach

Mae’r uwch dîm arweinyddiaeth wedi sefydlu dealltwriaeth ar y cyd ar draws yr ysgol ynglŷn â’u gweledigaeth i ddatblygu cwricwlwm sy’n seiliedig ar brofiadau gwirioneddol, uniongyrchol ar gyfer disgyblion na ellir eu caffael yn yr ystafell ddosbarth.  Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae staff wedi cynllunio gweithgareddau a phrofiadau pwrpasol sy’n ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion ac yn cryfhau lefel yr ymgysylltu â’u gwaith.
Yn dilyn cyhoeddi Dyfodol Llwyddiannus, canolbwyntiodd yr ysgol ar ddatblygu’r pedwar diben craidd a amlinellir yn yr adroddiad.
Cynhaliwyd archwiliad gan arweinwyr i farnu cryfderau presennol y cwricwlwm a’r modd y dylid addasu a newid y ddarpariaeth bresennol.  Ymgymerodd staff ag ystod o weithgareddau hunanarfarnu a oedd yn canolbwyntio ar y pedwar diben.  Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnwys:
  • arsylwi gwersi – bu’r pennaeth yn arsylwi pob un o’r athrawon ochr yn ochr ag aelod arall o staff, yn canolbwyntio ar un neu fwy o’r dibenion
  • craffu ar waith disgyblion – cynnwys pob aelod o staff a llywodraethwyr
  • holi disgyblion am eu dealltwriaeth o’r pedwar diben
  • craffu ar gynlluniau gwaith ac arfarnu pa mor dda yr oedd athrawon yn cynllunio i ddatblygu’r pedwar diben
Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd staff i ddadansoddi deilliannau, nodwyd bod yr agweddau hyn yn hanfodol ar gyfer cwricwlwm cyffrous ac arloesol:
  • cyfranogiad disgyblion yn natblygiadau’r cwricwlwm
  • sicrhau bod disgyblion yn elwa ar eu gwaith, ac yn cael mwynhad ohono
  • sicrhau bod ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer codi safonau llythrennedd, rhifedd a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) yn dda
  • sicrhau her gadarn i bob disgybl gan athrawon sydd â disgwyliadau uchel
  • sicrhau bod ethos Cymreig yn rhan annatod o’r ddarpariaeth
Nododd athrawon fod pwysigrwydd cadw disgyblion yn ganolog i’r holl benderfyniadau a gweithgareddau yn allweddol i gwricwlwm llwyddiannus. 
Cynhaliodd yr ysgol nifer o gyfarfodydd arfarnu i athrawon graffu ar waith disgyblion a’u cynllunio eu hunain.  Hwylusodd aelodau o’r uwch dîm arweinyddiaeth y gweithgareddau hyn a rhannu deilliannau â gweddill y staff.  Roedd gweithgaredd grŵp hynod effeithiol yn golygu bod pob un o’r athrawon yn rhoi nodiadau ‘post-it’ ar siart fawr, a oedd yn canolbwyntio ar themâu presennol a’r meysydd dysgu a phrofiad i nodi’r hyn yr oedd yr ysgol eisoes yn ei gyflwyno’n dda.  Rhoddodd staff nodyn ‘post-it’ glas os oeddent yn barnu bod y ddarpariaeth yn ‘dda’, a sticer felen os oeddent yn credu bod angen gwella’r ddarpariaeth.  Roedd staff yn ysgrifennu ‘sylwadau gweithredu’ ar y sticeri melyn ac yn defnyddio’r rhain i ddatblygu blaenoriaethau yng nghynllun datblygu’r ysgol.  Dros gyfnod, ar ôl arfarnu cynnydd yn barhaus, caiff y nodiadau ‘post-it’ melyn eu cyfnewid am rai glas.  Mae staff yn gweld bod hyn yn ddull clir a syml o fonitro newidiadau a gwelliannau yn effeithiol iawn.
Yn ystod y cyfnod cynnar hwn o ddatblygu’r cwricwlwm, roedd arweinwyr yn cynnwys rhieni wrth arfarnu’r ddarpariaeth bresennol a chrëwyd ‘Fforwm Cwricwlwm i Rieni’ i drafod newidiadau arfaethedig a pharatoi rhieni ar gyfer y newidiadau. 
 
Cyfarfu aelodau o’r uwch dîm arweinyddiaeth â chynrychiolwyr rhieni i drafod eu syniadau a’u dyheadau ar gyfer cwricwlwm bywiog a chryf.  Mae deilliannau’r broses hon yn cynnwys:
  • mwy o waith cartref yn seiliedig ar y dyniaethau, ac iechyd a lles
  • mwy o gyfleoedd perthnasol i ddisgyblion ddefnyddio eu medrau llythrennedd a rhifedd y tu allan i’r ystafell ddosbarth
  • rhagor o gyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau celfyddydau creadigol
  • cyfleoedd cynyddol i ddatblygu hunaniaeth Gymreig disgyblion
Mae llywodraethwyr yn cyfarfod bob hanner tymor i drafod datblygiadau.  Mae’r ysgol wedi nodi llywodraethwr sydd â chyfrifoldeb am ddatblygu’r cwricwlwm, sy’n ymweld â’r ysgol yn rheolaidd i ystyried y ffordd y mae’r ysgol yn cynllunio i ddatblygu cymhwysedd digidol disgyblion ar draws y cwricwlwm.  Mae llywodraethwyr yn ymwybodol o’r addysgeg sydd ei hangen i sicrhau bod profiadau dysgu a chyflawniad yn gyson ar draws yr ysgol ac y gellir cadw dilyniant clir a gweladwy. 
Mae’r ysgol yn arfarnu ei chynllunio trwy ddefnyddio triadau dysgu.  Mae athrawon yn gweithio gyda staff o ddwy ysgol arall i arsylwi gwersi, cynllunio, craffu ar waith disgyblion a rhoi adborth.  Caiff hyn effaith sylweddol ar godi safonau yn y cyfnod sylfaen, yn enwedig yn neilliant 6.
Yn dilyn yr archwiliad hwn, trefnwyd hyfforddiant gan y pennaeth i sicrhau bod athrawon yn gwella’u medrau i’w galluogi i addysgu agweddau arbenigol ar y cwricwlwm, neu agweddau nad oeddent yn hyderus ynddynt. 
 

Cam 2:  Cynllunio a pharatoi ar gyfer newid

Buan y sefydlwyd fforwm staff gan yr ysgol i drafod dyheadau, disgwyliadau, gofidiau ac amheuon.  Sicrhaodd y pennaeth fod pob un o’r staff yn cael cyfleoedd rheolaidd i leisio’u barn fel bod cyfarfodydd yn canolbwyntio’n fanwl ar addysgeg.  Roedd athrawon yn pryderu i ddechrau bod diffyg hyfforddiant yn golygu na fyddent yn gallu cynllunio’n effeithiol i roi’r pedwar diben ar waith.  Roedd staff yn teimlo’n ansicr hefyd ynglŷn â sut byddent yn asesu cyflawniad disgyblion ac roeddent yn pryderu ynglŷn â pheidio â dilyn cwricwlwm strwythuredig a oedd yn cynnwys lefelau a deilliannau cytûn ac a gydnabuwyd yn genedlaethol.  Er mwyn lleihau’r gofidiau hyn, penderfynodd y pennaeth y byddai’r ysgol yn parhau i asesu cyrhaeddiad disgyblion mewn pynciau craidd gan ddefnyddio offeryn electronig i gofnodi asesiadau.   
Roedd arweinwyr yn awyddus i sicrhau bod pob un o’r staff yn newid eu dull o gynllunio trwy ystyried y pedwar diben yn ofalus ym mhob gweithgaredd thema.  Mae gweithgareddau dysgu i gyd yn dechrau â ‘phrofiad’, sy’n gysylltiedig â phwnc neu destun penodol.  Dilynir hyn gan gyfres o wersi ar wahân i feistroli medrau penodol, cyn i ddisgyblion fynd i’r afael â her y maent yn cymhwyso’r medrau ynddi.  Mae’r ysgol yn credu mai o fewn yr heriau y bydd y pedwar diben yn cael eu datblygu’n fanylach, pan fydd disgyblion yn arwain y dysgu.  Yn dilyn hunanarfarniad yr ysgol o’r heriau hyn, mae athrawon wedi addasu a chreu heriau newydd, i sicrhau bod disgyblion yn cael cyfleoedd gwerth chweil i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r pedwar diben wrth iddynt arwain y dysgu i gymhwyso medrau.  Mae’r addysgeg hon yn gyson ag athroniaeth y cyfnod sylfaen. 
Mae’r pennaeth yn credu ei bod yn haws newid ymagwedd neu ddull addysgu os yw pob aelod o’r tîm yn newid gyda’i gilydd ac yn rhannu llwyddiannau a methiannau.  Roedd ymagwedd yr ysgol at ddatblygu’r cwricwlwm yn cynnwys galluogi pob un o’r staff i ganolbwyntio ar anghenion y cwricwlwm.  Rhoddwyd dyheadau personol o’r neilltu, ac yn ystod y cyfnod diwygio hwn, roedd trefniadau hyfforddi wedi’u seilio’n gyfan gwbl ar bedwar diben Donaldson.
Sicrhaodd hyfforddiant gwerth chweil fod pob aelod o staff yn arwain ar wahanol agweddau ar y pedwar diben, ac yn canolbwyntio ar ddatblygu addysgeg effeithiol.  Mae arweinwyr wedi datblygu strwythur cadarn i hyfforddi a sefydlu staff, sy’n cynnig cymorth effeithiol i athrawon amhrofiadol gynllunio ar y cyd ac arsylwi athrawon profiadol yn addysgu.  Mae hyn yn sicrhau eu bod yn ymateb yn dda i ddiwygio’r cwricwlwm.
Ym mhob cyfweliad ar gyfer staff newydd, mae arweinwyr yr ysgol yn gofyn cwestiynau penodol am ddatblygu’r cwricwlwm.  Mae gofyn i ymgeiswyr, ac aelodau presennol o staff “Beth fydd plant yn ei gofio am eu cyfnod yng Nghae Top?” yn sicrhau bod athrawon yn cynllunio profiadau ymarferol sy’n galluogi disgyblion i gymhwyso eu medrau. 
Caiff athrawon eu hannog i fentro’n bwyllog ac arbrofi’n rheolaidd â gwahanol ymagweddau at addysgeg.  Roedd arweinwyr yn derbyn na fyddai cynllunio i ddatblygu meysydd dysgu a phrofiad yn berffaith o’r cychwyn.  Mae hyn wedi arwain at hinsawdd lle mae athrawon yn teimlo’n gyfforddus yn trafod y pethau a fu’n aflwyddiannus.  Mae’r pennaeth yn annog staff i fod yn arloesol i sicrhau bod medrau llythrennedd, rhifedd a TGCh disgyblion yn datblygu’n effeithiol trwy brofiadau a gweithgareddau ar draws y cwricwlwm.
Ar hyd taith yr ysgol i ddatblygu’r cwricwlwm, mae arweinwyr yn parhau i arfarnu’r ddarpariaeth a myfyrio ar eu gwaith bob tymor er mwyn ystyried beth fu’n llwyddiannus a beth mae angen ei newid. 
Wrth baratoi ar gyfer y newid hwn, mae pob un o’r staff yn darparu profiadau uniongyrchol ar gyfer disgyblion trwy ddysgu cynlluniedig, ar wahân sy’n eu herio’n effeithiol.  Mae athrawon wedi nodi pwysigrwydd dechrau pob uned waith ag ymweliad neu drwy wahodd ymwelydd i’r ysgol.