Cyd-destun a chefndir yr arfer - Gwaith cydlynus o warchod a gwella lles dysgwyr - Estyn

Cyd-destun a chefndir yr arfer – Gwaith cydlynus o warchod a gwella lles dysgwyr

Arfer effeithiol

Isle of Anglesey County Council

Mae Gwasanaeth Dysgu awdurdod Ynys Môn wedi gwneud camau breision yn ystod y tair blynedd diwethaf. Mae’r ail-strwythuro bwriadus i ychwanegu nifer yr Uwch Reolwyr wedi caniatáu i’r Gwasanaeth Dysgu gyflogi Uwch Reolwr sydd â chyfrifoldeb  penodol ar gyfer cydlynu a gwarchod lles dysgwyr. Mae uwch arweinwyr y Gwasanaeth Dysgu yn gosod pwyslais mawr ar hybu lles plant a phobl ifanc yr ynys; yn cydweithio’n agos a llwyddiannus gyda gwahanol adrannau o fewn yr awdurdod yn llyfn a heb unrhyw ffiniau.

Mae diwylliant cryf o gynllunio gwasanaethau sydd yn cyfateb yn agos â’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  Mae’r Gwasanaeth Dysgu wedi datblygu ethos a meddylfryd ‘Tîm Môn’ lle mae cydweithio a chyfraniad pawb yn cael ei werthfawrogi, ei feithrin a’i ddefnyddio er budd plant a phobl ifanc yr ynys.

O fewn y Gwasanaeth Dysgu penodwyd Uwch Swyddog i roi sylw penodol ar hyrwyddo llesiant ac i gydweithio ar draws gwasanaethau a phartneriaethau. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ganolog i holl gynlluniau’r gwaith. Mae ysgolion yn ymwybodol sut mae eu cyfraniadau i arfogi darpariaeth gynhwysol yn eu hysgolion yn cyfrannu o fewn cyd-destun ehangach mewn blaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol.  

Mae’r egwyddor o weithio yn ataliol yn greiddiol i holl waith yr awdurdod. Er enghraifft mae dull integredig o gyd weithio wedi sicrhau bod teuluoedd mewn angen yn derbyn mynediad cyflym at fanciau bwyd.

Mae’r cydweithio cryf rhwng gwahanol adrannau ac asiantaethau yn darparu un profiad integredig o gefnogaeth i holl ddysgwyr y Sir gan gynnwys disgyblion sydd mewn perygl o ymddieithrio, a’u teuluoedd. Mae’r Gwasanaeth Dysgu yn cydweithio’n gynhyrchiol â phartneriaid gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, swyddogion lles, gwasanaeth cynhwysiad Gwynedd a Môn a gwasanaethau ieuenctid.  Maent yn gweithio’n  rhagweithiol i atal problemau yn gynnar er mwyn ymateb i anghenion dysgwyr bregus sy’n arddangos symptomau gôr bryder i annog presenoldeb.

Mae ‘Hwb Ymyrraeth Gynnar’ sy’n cynnwys oddeutu ugain o asiantaethau gwahanol, yn fodd da o gydweithio a chydgynllunio cefnogaeth effeithlon i ddysgwyr bregus a’u teuluoedd, heb ddyblygu’r gefnogaeth yn ddiangen. Mae hyn yn ei dro yn sicrhau bod plant a phobl ifanc Môn yn gallu parhau gyda’u haddysg yn yr ysgol ac mae gwaharddiadau oherwydd ymddygiadau gwrth gymdeithasol yn lleihau.

Mae ffocws cryf ar ddatblygu ymwybyddiaeth holl ymarferwyr o drawma, ac effaith trawma ar blant a phobl ifanc. Mae hyfforddiant yn cael ei gydlynu ar sawl lefel gan gynnwys athrawon a chymhorthyddion mewn ysgolion a lleoliadau nas gynhelir yn ogystal â rhan ddeiliad eraill o fewn y cyngor sy’n cefnogi plant a phobl ifanc.  Mae’r ymarfer hwn wedi arfogi’r gweithlu i allu cyfathrebu’n glir wrth drafod effaith profiadau niweidiol ar ddatblygiad, hunanddelwedd a hyder unigolion.

Mae’r strategaeth ataliol yn sicrhau bod swyddog ieuenctid ym mhob ysgol uwchradd yr ynys. Maent yn hwyluso’r gwasanaeth ‘galw mewn’ i ddysgwyr ac yn cefnogi darpariaeth addysg bersonol a chymdeithasol. Yn ogystal maent yn paratoi cyrsiau at gyflogaeth i ddysgwyr sydd mewn perygl o ymddieithrio er mwyn iddynt ennill cymwysterau a phrofiadau amgen. Darparwyd unedau Agored Cymru, Tystysgrif John Muir a Chymorth Cyntaf.  Mae gweithwyr ieuenctid yn sicrhau fod gan bob ysgol uwchradd grŵp lesbiaid, hoyw, deurywiol  thrawsrywiol a chydraddoldeb +  (LHDTC+)   wedi eu sefydlu ac mae clybiau ieuenctid min nos yn cryfhau’r cyswllt i bobl ifanc o weithgareddau yn y gymuned a chyswllt ysgol. O ganlyniad mae prosiectau fel  ‘Prison Me No Way’ a ‘Gangs Getaway wedi cael dylanwad o fewn y cymunedau. 

Mae cynllun ‘Y Daith i Saith,’ gan y Tîm Cefnogi Teuluoedd yn hyrwyddo datblygiad a lles y plant ieuengaf, ac yn cael ei ddatblygu ar y cyd gydag amrediad o ran ddeiliaid gan gynnwys gwasanaeth iechyd a grŵp o ysgolion cynradd. O ganlyniad mae’r gwaith yma’n cryfhau ethos Ysgol Bro a’r strategaeth ataliol yn gynnar ac yn rhoi’r cyfle gorau i blant ar hyd eu taith dysgu. 

Mae’r Gwasanaeth Dysgu’n sicrhau cyswllt cryf rhwng blaenoriaethau cenedlaethol, rhanbarthol a chorfforaethol ynghylch llesiant a’r gwaith ymarferol ac ataliol sy’n digwydd mewn lleoliadau nas cynhelir ac ysgolion ar draws yr awdurdod. Mae’r cydweithio agos gyda gwahanol adrannau o fewn yr awdurdod yn hwyluso gwaith ysgolion o sicrhau bod y ddarpariaeth gynhwysol ar lawr y dosbarth yn hylaw.   Mae’r strategaeth gorfforaethol o ddarparu hyfforddiant i wella dealltwriaeth ymarferwyr o effaith trawma a phrofiadau niweidiol mewn plentyndod ar gyflawniad a lles disgyblion yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd y ddarpariaeth mewn ysgolion a bellach ar draws gwasanaethau.

Un o gryfderau’r gwaith cydlynus yw’r modd mae’r gwasanaeth Dysgu yn llwyddo  cynnwys penaethiaid mewn fforymau gwahanol er mwyn canfod eu barn, dylanwadu,  siapio a chynllunio darpariaeth newydd. Er enghraifft, mae Pencampwyr Diogelu wedi llwyddo i godi statws gwaith ataliol o fewn maes diogelu ar draws eu clystyrau ac o ganlyniad i hynny:

  • mae pob ysgol yn cyflwyno cyfeiriadau diogelu safonol pan mae pryder yn codi
  • mae buddsoddiad mewn platfform electroneg safonol wedi rhoi cysondeb i gofnodi achosion o bryder ar draws y Sir
  • mae pob ysgol wedi mabwysiadu arddulliau wybodus i drawma cadarn sy’n gweddu ag ethos diogelu da.

Yn ychwanegol i hyn mae ysgolion yn gweithredu’n  hyderus i wneud cyfeiriadau at Hwb Ymyrraeth Gynnar Gwasanaethau Plant ar y cyd gyda rhieni pan yn briodol. Mae hyn oll yn cryfhau gwaith ataliol mewn ysgolion ac mae ymrwymiad pharhaus i warchod a gwella lles dysgwyr. O ganlyniad, mae’r disgyblion sydd fwyaf bregus yn derbyn y cyfleoedd gorau i ymgysylltu gyda’u haddysg.

 

 

 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn