Cwricwlwm seiliedig ar fedrau, gyda mwy o gyd-destunau lleol
Quick links:
Cyd-destun
Mae Ysgol Gynradd Kitchener yn ardal Glan-yr-afon yng Nghaerdydd. Mae 480 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd, sy’n cael eu haddysgu mewn 14 o ddosbarthiadau un oedran, yn ogystal â dosbarth meithrin rhan-amser.
Mae lleiafrif o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim. Mae’r ysgol wedi nodi bod gan leiafrif o’r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol ac mae gan ychydig iawn ohonynt ddatganiad o anghenion dysgu ychwanegol.
Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol. Daw disgyblion o 40 o wahanol grwpiau ethnig o leiaf, ac maent yn siarad dros 27 o ieithoedd gwahanol. Caiff llawer o ddisgyblion gymorth mewn Saesneg fel iaith ychwanegol, ac mae’r mwyafrif ohonynt yn dechrau’r ysgol heb lawer o Saesneg, os o gwbl. Nid oes unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg fel mamiaith.
Cam 1: Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn trefniadau hunanarfarnu ehangach
Mae’r tîm arweinyddiaeth yn sicrhau bod ffocws clir ar ddatblygu cwricwlwm yn seiliedig ar fedrau sydd â chysylltiadau ystyrlon ar draws pynciau a meysydd dysgu er mwyn darparu cyfleoedd rhagorol ar gyfer disgyblion i’w defnyddio yn eu cymuned leol. Mae pob un o’r staff yn rhannu’r weledigaeth hon.
Roedd arweinwyr yr ysgol yn teimlo dan bwysau oddi wrth yr awdurdod lleol i ddechrau i newid y cwricwlwm. Fodd bynnag, gwyddent fod eu darpariaeth yn dda a phenderfynon nhw arfarnu eu cwricwlwm presennol a’u hymagwedd addysgegol yn llawn cyn gwneud newidiadau ar raddfa fawr.
Dechreuodd yr ysgol ar ei thaith i ddatblygu’r cwricwlwm ym mis Medi 2016. Rhoddir blaenoriaeth yng nghynllun datblygu’r ysgol i godi safonau ar gyfer pob un o’r disgyblion trwy ddatblygu ac ymgorffori Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015). Cynlluniodd yr ysgol ei strategaeth a’i chamau gweithredu ar gyfer cyflawni’r flaenoriaeth hon yn ofalus. Mae ymatebion cychwynnol i argymhellion yr adroddiad yn cynnwys:
- ffurfio gweithgor i arwain ar roi’r cwricwlwm newydd ar waith
- arfarnu addysgeg i nodi’r camau nesaf
- gwella’r ffordd y mae athrawon yn cynllunio, cyflwyno ac asesu medrau cymhwysedd digidol
- datblygu darpariaeth yr ysgol ar gyfer yr agweddau cymdeithasol ac emosiynol ar les trwy brosiect cydweithio rhwng ysgolion
- ffurfio partneriaeth gweithio cynaliadwy gydag ysgol arloesi leol
- gwella gweithgareddau menter ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 5 a Blwyddyn 6 i’w helpu i fod yn gyfranwyr mentrus a chreadigol
Arweiniodd ymgynghorydd her yr ysgol ddiwrnod datblygu ar gyfer pob un o’r staff ar Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015), ym mis Medi 2016. Fel rhan o’r diwrnod, cytunodd staff ar restr o gamau gweithredu newydd yr oedd angen eu dechrau, yn ogystal ag arfer bresennol yr oedd angen ei hatal.
Cytunodd staff ddechrau:
- canolbwyntio mwy ar yr hyn yr oedd disgyblion eisiau ei ddysgu
- defnyddio mwy o gyd-destunau lleol ar gyfer dysgu a gofyn i ddisgyblion am y cyd-destun yr hoffent ddysgu trwyddo
- sicrhau bod cysylltiadau ar draws pynciau bob amser yn ystyrlon
- ymgorffori cymwyseddau digidol yn fwy trylwyr ar draws pob maes
- symud tuag at amserlen ddyddiol a fyddai’n caniatáu hyblygrwydd pe bai disgyblion eisiau dysgu mwy am destun
Penderfynodd staff roi’r gorau i:
- geisio gwneud gormod a chwmpasu gormod mewn gwersi
- gorfodi cysylltiadau trawsgwricwlaidd dim ond er mwyn ymdrin â nhw
- defnyddio cyd-destunau penodedig ar gyfer dysgu
- marcio’n ormodol
- addysgu gwersi ar eu pen eu hunain nad oeddent yn rhan o set gytûn o weithgareddau a oedd yn datblygu medrau’n raddol
Cam 2: Cynllunio ar gyfer newid
Ym mis Hydref 2016, sefydlodd y dirprwy bennaeth weithgor i arwain ar roi’r cwricwlwm newydd ar waith. Tasg gyntaf y grŵp oedd arfarnu cryfderau cwricwlwm ac ymagweddau addysgegol presennol yr ysgol, fel yr amlinellir ym mhennod 5 Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015). O ganlyniad i waith y grŵp, mae’r ysgol yn mynd i’r afael â newid i’r cwricwlwm mewn sawl ffordd.
Trefn y diwrnod ysgol
Mae un o arweinwyr y cyfnod sylfaen yn arbrofi â’r ymagwedd trochi at ddysgu. Mae’r ffocws yn gyfan gwbl ar lythrennedd ar ddydd Llun, a’r ffocws ar ddatblygiad mathemategol ar ddydd Mawrth. Yn ystod gweddill yr wythnos, mae disgyblion yn cymhwyso’r medrau a addysgir ar ddydd Llun a dydd Mawrth trwy brosiectau bach. Yn ychwanegol, cynhelir sesiwn ffoneg am 30 munud, a sesiwn mathemateg pen am 30 munud bob dydd.
Mae un athro yng nghyfnod allweddol 2 yn arbrofi ag amserlen hyblyg, gwersi estynedig ac yn eu cyflwyno yn ystod y dyddiau nesaf os bydd disgyblion eisiau archwilio testun yn fanylach neu os byddant yn dewis herio’u hunain ymhellach.
Llais y disgybl
Mae rhai o’r staff a’r disgyblion wedi ymuno â’r Prosiect Arfarnwyr Ifanc. Mae staff wedi derbyn hyfforddiant allanol ar sut i gynnal y prosiect. Cyfarfu disgyblion â disgyblion o ysgolion eraill i rannu syniadau a dysgu am fedrau ymchwil.
Mae’r prosiect yn rhoi llais go iawn i ddisgyblion wrth i’r ysgol ddechrau ffurfio’i chwricwlwm newydd. Mae’r arfarnwyr ifanc yn Ysgol Gynradd Kitchener wedi ymchwilio i syniadau ar y ffordd orau o gyfuno cyfathrebu a llythrennedd digidol mewn gwersi. Maent wedi cynnal arolygon o staff a disgyblion ac wedi adrodd yn ôl am eu dadansoddiad a’u hawgrymiadau trwy grŵp ffocws.
Mae gan yr arfarnwyr ifanc wybodaeth dda am egwyddorion Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015), ac maent yn cytuno bod cyfuno pynciau’n gwneud eu gwersi a’u prosiectau’n fwy difyr ac ystyrlon.
Mae un athro yng nghyfnod allweddol 2 yn arbrofi â fformat cynllunio newydd sy’n darparu cyfleoedd i ddisgyblion ffurfio trywydd eu gwersi a’u prosiectau. Mae’r athro’n rhannu amcanion y testun gyda disgyblion yn ogystal â’r medrau y mae angen i ddisgyblion eu cymhwyso dros gyfres o wersi. Wedyn, mae’r disgyblion yn penderfynu ar y cyd-destun yr hoffent ddysgu trwyddo. Er enghraifft, gallai disgyblion ym Mlwyddyn 5 sy’n dysgu am sut a ble mae afon yn dechrau ddewis astudio cyd-destun eu hafon leol.
Gweithio gydag ysgolion eraill
Mae’r ysgol yn ymwneud â rhai grwpiau gorchwyl a gorffen i ymchwilio i agweddau ar y cwricwlwm. Mae un athro yn y cyfnod sylfaen yn gweithio fel rhan o grŵp ehangach, yn ymchwilio i sut mae amgylchedd yr ysgol yn cefnogi elfen llythrennedd cymdeithasol ac emosiynol y maes dysgu iechyd a lles yn y ffordd orau.
Mae dau o athrawon yng nghyfnod allweddol 2 wedi mynychu sesiynau hyfforddi gydag ysgolion eraill i ddatblygu eu dealltwriaeth o sut orau i gynorthwyo disgyblion i fod yn gyfranwyr mentrus a chreadigol. Mae pythefnos menter yr ysgol yn rhoi cyfleoedd manylach i ddisgyblion gysylltu a chymhwyso eu gwybodaeth a’u medrau i greu syniadau a chynhyrchion ac ymgymryd â rolau amrywiol o fewn timau.
Mae staff yn ymgymryd â rôl arweiniol yng ngwaith grŵp gwella’r ysgol. Mae un aelod o staff yn gweithio ar brosiect i ddatblygu iaith fathemategol trwy efelychiadau cyfrifiadurol. Mae disgyblion yn siarad yn frwdfrydig am y modd y mae defnyddio TGCh wedi eu helpu i ddysgu am, a deall, arwynebedd a pherimedr.
Y fframwaith cymhwysedd digidol
Mae cydlynydd TGCh yr ysgol wedi cyflwyno deuddydd o ddysgu ar gyfer pob un o’r staff ar y fframwaith cymhwysedd digidol. Erbyn hyn, mae gan bob un o’r staff ymwybyddiaeth dda o’r fframwaith a’u cyfrifoldeb ar gyfer addysgu’r cymwyseddau. Mae staff wedi cymryd rhan mewn sesiynau ‘Dangos a Brolio’ (‘Bring and Brag’) i rannu gwaith eu disgyblion a dysgu oddi wrth ei gilydd, a gyda’i gilydd. Mae athrawon yn y dosbarth derbyn a Blwyddyn 3 yn arbrofi â fformat cynllunio newydd i sicrhau ymdriniaeth â’r fframwaith. Mae’r grwpiau blwyddyn hyn hefyd yn arbrofi â mapio medrau digidol trwy dasgau cyfoethog.
Codi ymwybyddiaeth rhieni am y cwricwlwm newydd
Mae’r ysgol yn hysbysu rhieni’n dda am newidiadau i’r cwricwlwm a datblygiadau mewn addysgu a dysgu. Mae’n cynnal diwrnodau ‘mamau a thadau yn yr ysgol’ yn rheolaidd. Yn hydref 2016, gwahoddodd yr ysgol y rhieni i’r ysgol i ddysgu am y cwricwlwm newydd. Yng ngwanwyn 2017, canolbwyntiodd y sesiwn i rieni ar y fframwaith cymhwysedd digidol. Fe wnaeth staff helpu rhieni i ddeall sut gallent gefnogi dysgu eu plant trwy lwyfan dysgu digidol Llywodraeth Cymru, sef HWB. Mae nifer dda o rieni’n mynychu’r sesiynau hyn.