Cwricwlwm hyblyg sy’n ymateb i anghenion dysgwyr unigol

Arfer effeithiol

Fitzalan High School


 

‘Mae’r cwricwlwm yn Ysgol Uwchradd Fitzalan yn hynod hyblyg ac ymatebol i anghenion disgyblion unigol.’ Estyn 2017.

Cyd-destun a chefndir

Mae Ysgol Uwchradd Fitzalan yn ysgol gymysg cyfrwng Saesneg i ddisgyblion 11 i 18 oed a gynhelir gan awdurdod lleol Caerdydd.  Ar hyn o bryd, mae 1,721 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 344 yn y chweched dosbarth, o gymharu â 1,440 o ddisgyblion, gan gynnwys 254 yn y chweched dosbarth, adeg ei harolygiad diwethaf.

Mae’r ysgol wedi’i lleoli gerllaw canol y ddinas ac mae’n gwasanaethu dalgylch sydd â lefelau uchel o ddifreintedd cymdeithasol ac economaidd.  Cyfran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 32.7%, sy’n uwch o lawr na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 17.4%.  Mae tua 60% o ddisgyblion yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.  Mae gan oddeutu 35% o ddisgyblion angen addysgol arbennig, sydd uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 25.1%.  Cyfran y disgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig yw 2%, sy’n is na’r cyfartaledd o 2.5% yng Nghymru.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Cyfnod allweddol 3

Mae darpariaeth y cwricwlwm yn Ysgol Uwchradd Fitzalan yn cael ei gwahaniaethu yn ôl potensial, cynnydd a lefel gallu pob disgybl.  Nod yr ysgol yw bodloni anghenion yr holl ddisgyblion, bod yn hyblyg ac yn ymatebol, cynnig ehangder a dyfnder, a sicrhau’r deilliannau gorau posibl i bawb.  Mae natur ddynamig a hyblygrwydd y cwricwlwm yn golygu bod staff yn gallu ymateb i amgylchiadau unigol ac anghenion disgyblion trwy gydol y flwyddyn academaidd.  Mae hyn yn arbennig o bwysig yn Fitzalan, gan fod disgyblion yn dod o amrywiaeth eang iawn o gefndiroedd ieithyddol gyda lefelau gwahanol o addysg flaenorol.  Hefyd, mae lefel uchel o symud o fewn pob blwyddyn academaidd.  Felly, mae angen i gwricwlwm yr ysgol addasu i gyfateb i anghenion disgyblion sy’n newydd i’r ysgol neu’n newydd i Gymru.

Yng nghyfnod allweddol 3, mae’r disgyblion mwyaf galluog yn astudio Lladin a Sbaeneg yn ogystal â Ffrangeg, a holl bynciau craidd a sylfaen eraill y Cwricwlwm Cenedlaethol.  Mae gan ddisgyblion â diffygion llythrennedd neu rifedd wersi ‘prosiect’ penodol yn eu hamserlen, lle maent yn gwella’u medrau trwy wersi thematig sy’n gysylltiedig â meysydd y cwricwlwm fel hanes neu wyddoniaeth.  Mae gwersi wedi’u cynnwys bob dydd yn amserlen y rhai sydd â heriau arwyddocaol er mwyn gwella’u medrau darllen ac ysgrifennu, gan gynnwys ffocws ar ffoneg i sicrhau eu bod yn caffael llythrennedd gweithredol.  Hefyd, mae’r disgyblion hyn yn dilyn cwrs integredig y dyniaethau ac mae ganddynt lai o athrawon.

Mae ‘Tîm Mynediad i’r Cwricwlwm’ yr ysgol yn arwain ymyriadau ychwanegol: mae grwpiau ymyrraeth grŵp bach yn canolbwyntio ar ddisgyblion ag anawsterau dysgu penodol, nam ar y golwg, anghenion iaith a lleferydd, ac anghenion emosiynol.  Mae disgyblion ym mhob blwyddyn sydd angen anogaeth yn cael sesiynau yn eu hamserlen yn ‘Cartref’ i wella’u gallu i reoli’u hymddygiad a’u hemosiynau, a ffynnu mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.  O Flwyddyn 8 ymlaen, mae disgyblion ag anghenion ymddygiadol arwyddocaol yn cael eu hintegreiddio i raglen ‘cyfleoedd estynedig’ fel rhan o ‘ymateb graddedig’ i’w hanghenion ymddygiadol.  Mae disgyblion ar y rhaglen cyfleoedd estynedig yn dilyn cwricwlwm llawn.  Cânt eu haddysgu gan arbenigwyr pwnc a derbyniant gymorth dwys ar gyfer eu hymddygiad gan arbenigwyr ar anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol.

Mae disgyblion sy’n dysgu Saesneg am y tro cyntaf yn cael eu haddysgu mewn grwpiau sefydlu penodol ar gyfer y rhan fwyaf o’u pynciau, gyda phwyslais ar ddatblygu’u medrau iaith Saesneg.  I helpu’r disgyblion hyn i integreiddio i’r ysgol yn ei chyfanrwydd, maent yn cael amser dosbarth, addysg gorfforol a gwersi mathemateg gyda gweddill eu grŵp blwyddyn.  Mae disgyblion sy’n dysgu Saesneg am y tro cyntaf, ond sydd â medrau mathemateg da, yn gallu symud yn gyflym i fyny’r setiau mathemateg a chael y cymorth y mae arnynt ei angen ar yr un pryd i ddysgu hanfodion Saesneg.

Mae disgyblion o bob gallu, gan gynnwys disgyblion ar y rhaglen cyfleoedd estynedig, yn cael cynnig hyfforddiant yn eu hiaith eu hunain a, lle y bo cwrs arholi priodol, cyfle i ennill achrediad allanol.  Yn ogystal, mae’r ysgol wedi cyflwyno ‘opsiwn creadigol’ i Flwyddyn 9 yn ddiweddar: mae disgyblion yn dewis cwrs cerdd, drama, technoleg neu gelf.  Fe’i cyflwynwyd i ategu cyrsiau arholiadau creadigol, i gynnal symbyliad disgyblion trwy gydol Blwyddyn 9 ac i sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn datblygu’r medrau y mae eu hangen i astudio ar gyfer achrediad allanol a’i ennill.

Cyfnod allweddol 4

Yng nghyfnod allweddol, mae cyfuniad o opsiynau dewis rhydd a llwybrau wedi’u gwahaniaethu yn golygu bod y cwricwlwm yn symbylol ac yn ysgogi dyheadau, a’i fod yn bodloni diddordebau disgyblion.  Mae amrywiaeth eang o gymwysterau TGAU traddodiadol a galwedigaethol ar gael ac mae disgyblion yn dechrau’u cwricwlwm cyfnod allweddol 4 yn ystod tymor yr haf Blwyddyn 9.

I sicrhau bod pob disgybl yn cael ehangder, dyfnder a chydbwysedd rhwng pynciau craidd a dewisiadau opsiwn, mae’r ysgol yn cynnal cwricwlwm pythefnos, 60 gwers.  Mae pedwar pwnc opsiwn, gan gynnwys Lladin, hanes yr hen fyd ac astudiaethau cyfrifiadurol, yn cael eu cynnig i ddisgyblion mwy abl yng nghyfnod allweddol 4.  Mae pob disgybl yn rhydd i wneud dewisiadau sy’n apelio iddynt a chânt arweiniad unigol i’w cynorthwyo i wneud y dewis gorau a chyrraedd eu potensial llawn.  Mae bron pob disgybl yn sefyll arholiad allanol mewn Llenyddiaeth Saesneg, gan gynnwys disgyblion ar y rhaglen cyfleoedd estynedig a disgyblion sy’n dysgu Saesneg am y tro cyntaf.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ennill achrediad allanol yn y cwrs Cymraeg llawn a’r cwrs addysg grefyddol llawn.  Mae llwybrau wedi’u gwahaniaethu a ffocws ar ddatblygu medrau wedi galluogi deiliannau disgyblion i aros yn uchel, yn enwedig y rhai sy’n croesi’r trothwy pump A*-A, lefel 2 a mwy a lefel 2.

Mae disgyblion sy’n dysgu Saesneg am y tro cyntaf neu sy’n datblygu eu cymhwysedd mewn Saesneg yn ymgymryd â rhaglen SSIE yr ysgol.  Dilynant gyrsiau TGAU a a chyrsiau galwedigaethol sydd wedi’u hachredu’n allanol, gyda phwyslais ar ddatblygu a gwella’u medrau Saesneg. 

Y chweched dosbarth

Mae proses opsiynau dewis rhydd yn golygu bod disgyblion yn gallu dewis amrywiaeth eang o bynciau, y mae rhai ohonynt wedi’u cynnig mewn partneriaeth ag ysgolion eraill, neu gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd neu Glwb Criced Morgannwg.  Mae cynnig pob disgybl wedi’i seilio ar ei ddeilliannau yng nghyfnod allweddol 4.  Gall disgyblion ddilyn rhaglen AS/A2 a Bagloriaeth Cymru, rhaglen alwedigaethol lefel 3, rhaglen lefel 2, neu ddarpariaeth gymysg, sy’n gyfuniad, wedi’i addasu yn ôl gallu pob disgybl. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Yn Fitzalan, mae darpariaeth y cwricwlwm ynghyd ag ymroddiad staff, cefnogaeth rhieni a lefel uchel yr ymgysylltiad gan ddisgyblion oll wedi cyfrannu at lwyddiant yr ysgol.  Yn Fitzalan, mae disgyblion ‘yn dysgu gyda’i gilydd i fod y gorau gallant fod’.

Dros y pedair blynedd diwethaf, yng nghyfnod allweddol 4, mae perfformiad yr ysgol yn ei gosod yn hanner uchaf yr ysgolion tebyg yn y rhan fwyaf o ddangosyddion, ac yn y chwarter uchaf yn y mwyafrif ohonynt.  Mae disgyblion mwy abl, disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cyflawni’n uchel iawn.  Mewn gwersi, mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cadarn yn eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u medrau.

Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn rhagorol ac yn arddangos lefelau uchel o ymgysylltiad â’u dysgu.  Mae cyfraddau presenoldeb yn eithriadol o uchel.