Cryfder cydweithio

Arfer effeithiol

Trinity Fields School & Resource Centre


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae’r Drindod yw’r unig ysgol arbennig sy’n gwasanaethu bwrdeistref sirol Caerffili.  Ar hyn o bryd, mae 159 o ddisgyblion ar y gofrestr rhwng 3 ac 19 oed.  Mae gan bron pob un o’r disgyblion ddatganiad o AAA ar gyfer anawsterau dysgu difrifol, anawsterau corfforol a meddygol, anawsterau dysgu dwys a lluosog, neu anhwylderau’r sbectrwm awtistig (ASA).

Mae bron pob un o’r disgyblion yn dod o’r fwrdeistref sirol a daw ychydig iawn o’r disgyblion o awdurdod lleol cyfagos.  Mae pob un o’r disgyblion o gefndiroedd Saesneg.  Mae tua 40% o ddisgyblion yn cael prydau ysgol am ddim.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.  

Yn ogystal â’r ddarpariaeth ar safle Cae’r Drindod, mae’r ysgol yn gweithredu dau ddosbarth lloeren yn Ysgol Gynradd Cwm Ifor ac Ysgol Gymunedol Sant Cenydd.  Mae canolfan adnoddau arall, sy’n cael ei harwain a’i rheoli yn yr ysgol, ac wedi’i lleoli yno, yn gweithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol i ddarparu ystod o wasanaethau i gynorthwyo disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion prif ffrwd ar draws yr awdurdod lleol.  Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys y Gwasanaeth Sbectrwm Awtistig yng Nghaerffili, clinigau iechyd, gwasanaeth allymestyn a chynhwysiant, gweithgareddau ieuenctid a hamdden, a gwasanaethau seibiant a chymorth cartref.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r awdurdod lleol wedi ymgysylltu â’r holl randdeiliaid i gynnal adolygiad llawn o’i ddarpariaeth AAA.  O’r cychwyn, gwnaeth yr awdurdod lleol ymrwymiad cadarn, wedi’i gefnogi gan benaethiaid ar draws yr awdurdod lleol, i barhau i ddatblygu ei unig ysgol arbennig fel canolbwynt y datblygiadau hyn gyda gwasanaethau AAA eraill sydd wedi’u cysylltu’n agos â’r ganolfan.

Fel rhan o’r dull hwn, parhaodd yr awdurdod lleol i ddarparu cyllid i’r ysgol yn dilyn grant llwyddiannus “Datgloi Potensial Ysgolion Arbennig” i ddatblygu rôl yr ysgol ymhellach i gefnogi datblygiadau AAA ar draws yr awdurdod lleol.  

Mae ymrwymiad ariannol parhaus Caerffili i Gae’r Drindod wedi galluogi iddo ddatblygu’r gwasanaethau hynod effeithiol a gwerthfawr canlynol:

Athro allymestyn/Gweithiwr cymorth cartref-ysgol

Mae Cae’r Drindod yn cyflogi athro allymestyn amser llawn a gweithiwr cymorth cartref-ysgol trwy gydol y flwyddyn.  Mae’r ddwy swydd hyn yn cynnwys gwaith partneriaeth agos iawn gydag ysgolion eraill ar draws yr awdurdod lleol a gyda rhieni, gofalwyr ac aelodau’r teulu ehangach.

Mae gwaith yr athro allymestyn a’r gweithiwr cymorth cartref yn sicrhau bod disgyblion yn elwa ar ddull integredig sy’n galluogi strategaethau a roddir ar waith yn llwyddiannus yn yr ysgol i gael eu cefnogi yn y cartref.  Yn ei dro, mae rhoi arferion cadarnhaol ar waith yn y cartref, er enghraifft amser gwely ac yn y bore, yn effeithio’n gadarnhaol pan ddaw disgyblion i’r ysgol.  Mae’r cyswllt gwell hwn rhwng yr ysgol a’r cartref hefyd yn galluogi teuluoedd i elwa ar gymorth a manteisio ar ffrydiau cyllid arbenigol a chael eu cyfeirio at sefydliadau a gwasanaethau eraill.  At ei gilydd, mae rhieni a gofalwyr o’r farn fod y gwasanaeth yn gyswllt gwerthfawr iddynt drafod materion ehangach ac mae’n sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed.

Gwasanaeth Sbectrwm Awtistig Caerffili

Mae Gwasanaeth Sbectrwm Awtistig Caerffili (CASS) yn cynnig cymorth i blant a phobl ifanc 2-19 oed sydd wedi cael diagnosis o anhwylder y sbectrwm awtistig, sy’n mynychu ysgolion prif ffrwd neu ganolfannau adnoddau arbennig sy’n byw yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.  Mae’n wasanaeth unigryw sy’n cyfuno rôl fwy traddodiadol yr athro allymestyn â chymorth cartref a chymorth cyfathrebu i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.  Mae’r model integredig hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu dull amlasiantaethol o gynorthwyo pobl ifanc, eu hysgol a’u teuluoedd.

Mae CASS yn cydnabod bod angen i bawb sy’n cynorthwyo plant a phobl ifanc sydd wedi cael diagnosis o anhwylder y sbectrwm awtistig ddeall eu hanghenion a darparu cysondeb a sefydlogrwydd ym mhob agwedd ar eu bywydau.  Mae’r gwasanaeth wedi datblygu i fod yn wasanaeth hynod effeithiol sy’n darparu pecyn cymorth arloesol i bobl ifanc, eu teuluoedd ac ysgolion.  Mae’r cymorth hwn yn cynnwys y canlynol:  

Hyfforddiant: Mae CASS yn cynnig ystod o gyrsiau hyfforddi cydnabyddedig a thrwyddedig, y gall teuluoedd eu mynychu ar ôl diagnosis i’w cynorthwyo i ddeall diagnosis eu plentyn a datblygu eu strategaethau i’w cynorthwyo yn y cartref.  Mae CASS hefyd yn cynnal ystod o gyrsiau hyfforddi pwrpasol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda disgyblion ag anhwylder y sbectrwm awtistig.

Cymorth cartref: Mae cymorth cartref yn gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc i weithredu strategaethau a dulliau a gynghorir mewn hyfforddiant i rieni a gofalwyr.  Fel arall, gellir seilio cymorth ar gyngor a benthyca adnoddau, neu gynorthwyo’r teulu â chyfeiriadau at wasanaethau priodol eraill.

Cymorth i ysgolion: Mae CASS yn darparu cymorth i ysgolion a gynhelir i’w helpu i ddiwallu anghenion disgyblion sydd wedi cael diagnosis o anhwylder y sbectrwm awtistig.  Gallai’r cymorth hwn gynnwys modelu arfer dda, cyngor, paratoi neu fenthyca adnoddau a hyfforddiant staff.

Cymorth cyfathrebu: Mae’r ddarpariaeth hon yn aml yn cynnwys gweithio’n agos ochr yn ochr â therapyddion lleferydd ac iaith.  Mae ein gweithiwr cymorth cyfathrebu yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau i hyrwyddo cyfathrebu gartref ac yn yr ysgol.

Gwasanaethau hamdden a gwyliau

Mae ein gwasanaethau hamdden a gwyliau yn rhan o wasanaeth a gomisiynir gan Wasanaethau Plant Caerffili.  Mae’r ysgol yn darparu seibiant tymor byr, chwarae a gwaith ieuenctid o ansawdd uchel ar gyfer plant a phobl ifanc (8-17 oed) ag anableddau ac anawsterau dysgu difrifol a chymhleth.  Darperir amgylchedd diogel ac ysgogol i blant a phobl ifanc gael hwyl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau o’u dewis nhw.  Mae tîm hynod fedrus yn cynorthwyo’r plant a’r bobl ifanc i wella eu medrau cymdeithasol a’u medrau annibyniaeth tra’n elwa ar ystod o gyfleoedd yng nghymuned yr ysgol leol.

Mae gwasanaethau wedi eu cofrestru ar gyfer uchafswm o 20 o blant a phobl ifanc.  Mae 100 o leoedd ar gael rhwng ‘Clwb Sadwrn’ a chynlluniau gwyliau ysgolion ar hyn o bryd, ac mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda thua 65-75 o deuluoedd trwy gydol y flwyddyn. 

Darperir gwasanaethau seibiant arbenigol hefyd ar gyfer uchafswm o dri o blant a phobl ifanc sy’n cael eu cyfeirio gan wasanaethau cymdeithasol.  Mae’r gwaith partneriaeth agos hwn rhwng yr ysgol a’r gwasanaethau cymdeithasol yn sicrhau cymorth teilwredig ar gyfer y plentyn pan fydd y teulu’n wynebu cyfnodau anodd iawn, a bod perygl i’r teulu chwalu.

Canolfannau lloeren mewn ysgolion prif ffrwd

Cysylltodd yr awdurdod lleol â’r ysgol sawl blwyddyn yn ôl i gefnogi rhai o’i ganolfannau adnoddau arbennig mewn ysgolion prif ffrwd.  Roedd y cymorth hwn yn cynnwys recriwtio athrawon sydd â phrofiad perthnasol ac addysgeg arbenigol i arwain dosbarthiadau canolfan adnoddau arbennig.  Fel rhan o’r cymorth hwn, mae’r ysgol wedi datblygu cytundebau partneriaeth teilwredig gyda’r awdurdod lleol a’r ysgolion sy’n derbyn, gan amlinellu rolau a chyfrifoldebau’r ysgol sy’n derbyn, yr awdurdod lleol ac Ysgol Cae’r Drindod.  Er enghraifft, mae’r ysgol yn cadw’r rheolwyr llinell (gan gynnwys rheoli perfformiad a dysgu proffesiynol) athrawon yn y canolfannau lloeren hyn; ac mae’r disgyblion yn aros ar gofrestr yr ysgol sy’n derbyn.

Mae’r dull hwn wedi helpu hwyluso rhannu a datblygu addysgeg arbenigol, yn ogystal â sicrhau bod disgyblion yn y canolfannau adnoddau arbenigol yn elwa ar addysgu ac adnoddau mwy arbenigol.  

Canolfannau lloeren Cae’r Drindod yn Ysgol Gynradd Cwm Ifor ac Ysgol Gymunedol Sant Cenydd

Mae corff llywodraethol Cae’r Drindod wedi gweithio’n agos â’r awdurdod lleol a chyrff llywodraethol y ddwy ysgol leol i sefydlu dosbarthiadau lloeren mewn ysgol gynradd ac ysgol uwchradd.  Yn y dosbarthiadau lloeren hyn, mae’r disgyblion yn aros ar gofrestr Cae’r Drindod, ac mae’r holl staff sy’n gweithio yn y ganolfan loeren yn cael eu cyflogi gan Ysgol Cae’r Drindod. Mae cytundebau partneriaeth teilwredig sy’n dogfennu rolau a chyfrifoldebau’r ysgol sy’n derbyn, yr awdurdod lleol a Chae’r Drindod yn ategu’r dull arloesol hwn o ddiwallu anghenion disgyblion ag anghenion addysgol arbennig.

Mae’r gwaith partneriaeth agos rhwng Cae’r Drindod ac ysgolion prif ffrwd wedi helpu cefnogi datblygiadau AAA ehangach o fewn y tair ysgol, yn enwedig o ran rhannu arbenigedd a dulliau addysgu.  Mae hyder, annibyniaeth a chyfathrebu disgyblion Cae’r Drindod wedi gwella, tra bod disgyblion yn yr ysgolion prif ffrwd wedi datblygu eu dealltwriaeth o anabledd a’i effeithiau.  Yn olaf, mae ymddygiad pob un o’r disgyblion wedi gwella.  Mae disgyblion prif ffrwd yn llawer mwy ystyriol o ddisgyblion Cae’r Drindod, yn enwedig pan fyddant ar yr iard chwarae; maent yn cynnwys disgyblion ac yn eu cynorthwyo yn ôl yr angen.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae ein harferion cydweithredol hynod effeithiol wedi cael eu rhannu’n eang â chydweithwyr o fewn yr awdurdod lleol, y consortiwm a ledled Cymru.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn