Croesawu teuluoedd o dramor - Estyn

Croesawu teuluoedd o dramor

Arfer effeithiol

Pillgwenlly C.P. School

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol fawr yng nghanol dinas Casnewydd yw Ysgol Gynradd Sirol Pillgwenlli.  Mae ganddi 633 o ddisgyblion rhwng 3 i 11 oed, ac mae 94 ohonynt yn mynychu’n rhan-amser yn y pedwar dosbarth meithrin.  Mae 21 o ddosbarthiadau prif ffrwd yn yr ysgol, ac mae chwech ohonynt yn ddosbarthiadau oedrannau cymysg.  Mae’r ysgol yn gartref i uned cymorth dysgu’r awdurdod lleol sy’n darparu ar gyfer hyd at 10 o ddisgyblion ag anawsterau dysgu a chyfathrebu canolig i ddifrifol.  

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae’r cyfartaledd tair blynedd ar gyfer disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ychydig dros 40%, ac mae hyn ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol (21%).  Mae’r ysgol yn nodi bod anghenion dysgu ychwanegol gan ryw 36% o ddisgyblion, sydd uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 22%.  Mae datganiad o anghenion addysgol arbennig gan bob un o’r disgyblion yn yr uned cymorth dysgu ac ychydig iawn o ddisgyblion yn yr ysgol brif ffrwd.  Daw rhyw 90% o ddisgyblion yn yr ysgol o grwpiau lleiafrifoedd ethnig neu gefndiroedd heb fod yn Brydeinig.  Mae llawer o ddisgyblion yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol ac mae rhyw 20% yn dechrau’r ysgol gyda fawr ddim Saesneg neu ddim o gwbl. 

Disgrifiad o natur strategaeth neu weithgaredd

Mae Ysgol Gynradd Pillgwenlli yn gweithio’n ddiymdrech i groesawu a chynorthwyo teuluoedd sydd wedi cyrraedd o dramor.  Nid yw llawer o’r rhain wedi cael profiad o System Addysgol y Deyrnas Unedig, ac ychydig iawn o brofiad addysgol y mae llawer wedi’i gael yn eu mamwlad.  Fel ymgais i helpu rhieni a phlant gyda’r pontio i addysg amser llawn, mae Pillgwenlli yn cynnig amryw o fentrau effeithiol iawn i ymgysylltu â theuluoedd.

Mae’r mentrau hyn yn cynnwys:

  • Grŵp Anogaeth i Deuluoedd
  • Grwpiau Anogaeth
  • Cwrs Dysgu fel Teulu Cymhwyster Rhwydwaith y Coleg Agored, yn arbenigo mewn Saesneg
  • Dysgu
  • Dysgu Ymyrraeth Deuluol: Dosbarthiadau Hybu Darllen a Dosbarthiadau Gemau Mathemateg
  • Llyfrgell Benthyca Teuluol
  • Sesiynau Rhianta Ymarferol
  • Iaith a Chwarae a Rhif a Chwarae
  • Clwb Llythrennedd Rhieni’r Dosbarth Derbyn

Grŵp Anogaeth i Deuluoedd

Bu cynnydd sylweddol yn nifer y dysgwyr sy’n cyrraedd Ysgol Gynradd nad ydynt yn siarad Saesneg neu ddysgwyr sydd wedi cael fawr ddim profiad blaenorol o’r ysgol neu ddim profiad o gwbl. Fe wnaeth yr ysgol gydnabod anghenion penodol y dysgwyr hyn ac roedd angen strategaeth arni i gynnwys y teuluoedd ym mywyd a gwaith yr ysgol.  Sefydlodd yr ysgol Grŵp Anogaeth i Deuluoedd i ddarparu cefnogaeth gymdeithasol ac emosiynol i’r teuluoedd a’u cynorthwyo i ymgartrefu yn y gymuned leol a’r ysgol.

Mae’r Ystafell Anogaeth i Deuluoedd yn darparu lle ble gall disgyblion a’u teuluoedd (rhieni neu deidiau a neiniau) ymuno â nhw am ran o’r wythnos.  Mae dosbarth sylfaen gan bob dysgwr.  Mae’r disgyblion yn mynd i’r Ystafell Anogaeth i Deuluoedd am 55% o’u hwythnos, gan weithio ochr yn ochr ag aelodau eu teulu am 10% neu 20% o’r wythnos a mynychu’u dosbarthiadau canolog am weddill yr wythnos gyda chymorth mamiaith.  Cyn gynted ag y bydd y dysgwyr wedi caffael y medrau i’w cynorthwyo gyda’u dysgu a’u lles, maent yn trosglwyddo i’w dosbarth canolog yn llawn amser.  Mae’r Ystafell Anogaeth i Deuluoedd hefyd wedi darparu fforwm i rieni gael defnyddio adnoddau cymorth; er enghraifft – nyrs yr ysgol, bydwraig, deintyddiaeth a gweithwyr proffesiynol eraill.  

Grwpiau Anogaeth

Mae Ysgol Gynradd Pillgwenlli yn cynnig Grŵp Anogaeth i ddarparu amgylchedd dysgu addas ar gyfer rhai o’r disgyblion mwyaf agored i niwed a rhieni ‘anodd eu cyrraedd.’  Mae rhieni yn ymgysylltu’n llawn â’r Grŵp ac yn mynychu sesiynau ‘Chwarae ac Aros’.  Yn y sesiynau hyn, mae’r rhieni/gwarcheidwaid yn mynychu dosbarth am hanner diwrnod ac yn gweithio gyda’u plentyn ac oedolion y Grŵp Anogaeth.  Mae’r ysgol hefyd yn cynnig sesiynau arweiniad darllen i rieni/gwarcheidwaid yn rheolaidd.  Mae’r cyfleoedd hyn yn cynorthwyo rhieni/gwarcheidwaid i ddod yn hyderus yn mynychu digwyddiadau’r ysgol ac mae ganddynt ddealltwriaeth gliriach am ddysgu eu plentyn.  Eleni, aeth Ysgol Gynradd Pillgwenlli ati hefyd i gynnal peilot o brosiect: ‘Ymgysylltu â Rhieni Trwy Ddysgu ar Ipad / Engaging Parents Through Ipad Learning’.  Roedd hwn yn boblogaidd, a dywedodd rhieni ei fod wedi rhoi gwybodaeth iddynt am ddefnyddio Ipad yn bwrpasol gartref.  Cafwyd presenoldeb da ym mhob un o’r digwyddiadau.  Roedd ymatebion rhieni yn cynnwys: ‘rydych chi’n cael ymdeimlad o deulu yn yr ysgol hon’, ‘mae’n gwybod sut i gymryd ei dro nawr a sut i ddysgu yn y dosbarth’; ‘fel rhiant nid wyf yn pryderu ynglŷn â gofyn cwestiynau bellach – mae’r grŵp anogaeth wedi datblygu fy hyder yn ogystal â hyder fy mhlentyn’.  Mae Grŵp Anogaeth y Cyfnod Sylfaen wedi bod yn gweithredu er 2004.  Mae’r ysgol wedi cyflawni Dyfarniad Marc Safon Boxall.

Cwrs Dysgu fel Teulu Cymhwyster Rhwydwaith y Coleg Agored yn arbenigo mewn Saesneg

Mae Ysgol Gynradd Pillgwenlli yn cynnig Sesiynau Dysgu fel Teulu i rieni yn y Cyfnod Sylfaen, gyda ffocws ar fedrau sylfaenol mewn llythrennedd a rhifedd.  Mae rhan gyntaf sesiwn y bore yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth y rhieni o’r Saesneg, ac yn ystod yr ail ran, mae’r rhiant yn dysgu ochr yn ochr â’i blentyn/phlentyn mewn sefyllfa ystafell ddosbarth.  Roedd rhieni a oedd yn mynychu’r gweithdy hwn yn dymuno ennill cymhwyster; felly, mae’r coleg bellach yn ei alw yn Rwydwaith y Coleg Agored.  Mae’r grŵp rhieni hwn yn cynnwys deuddeg teulu ar hyn o bryd.  Erbyn hyn, mae llawer o rieni sydd wedi cwblhau eu cymhwyster Rhwydwaith y Coleg Agored mewn blynyddoedd blaenorol yn ‘fentoriaid rhieni’ ac yn cefnogi teuluoedd newydd i gyflawni eu cymwysterau Rhwydwaith y Coleg Agored.  Mae hyn wedi annog rhieni i ehangu eu hyfforddiant ac ennill cymwysterau ychwanegol yn y coleg. 

Dysgu Ymyrraeth Deuluol, Dosbarthiadau Hybu Darllen a Dosbarthiadau Gemau Mathemateg

Mae disgyblion sy’n cymryd rhan yn y Rhaglen Dal-i-fyny mewn Mathemateg yn cael rhai sesiynau dysgu gyda’u rhieni.  Mae staff yn esbonio i rieni sut i ddefnyddio adnoddau fel ‘sgwâr cant’, ‘grid lluosi’, a llinellau rhif i helpu eu plant gyda mathemateg.  Mae’r sesiwn deulu hefyd yn cynnwys chwarae gemau mathemateg; bydd y rhiant yn gwneud llawer o’r rhain i fynd adref.  O ganlyniad, mae rhieni wedi cael dealltwriaeth glir o gynnwys y Cwricwlwm Mathemateg ac mae plant yn cael y cyfle i rannu eu medrau rhifedd.

Llyfrgell Benthyca Teuluol

Gall teuluoedd fenthyg gemau, posau neu lyfrau yn wythnosol.  Bydd staff yn dangos i ddisgyblion sut i chwarae’r gemau er mwyn iddynt rannu’r gweithgaredd gyda’u teuluoedd.  Mae hwn yn brosiect cyffrous a phoblogaidd ac erbyn hyn mae ar gael yn y Cyfnod Sylfaen ac yng nghyfnod allweddol 2.

Dosbarthiadau Rhianta Ymarferol

Mae Ysgol Gynradd Pillgwenlli yn cynnig help ac arweiniad i deuluoedd i’w cynorthwyo gyda’u harferion a ffiniau yn y cartref.  Mae’n rhoi’r cyfle i rieni wneud amserlenni gweledol ar gyfer y cartref, siartiau arferion i’w cynorthwyo i gael eu plant i fynd i’r gweld a chyrraedd yr ysgol yn brydlon, siartiau ymddygiad cadarnhaol a strategaethau bwyta’n iach.  Mae staff hyfforddedig yn yr ysgol yn gweithio gyda’r disgyblion er mwyn iddynt ymgysylltu â’r gweithgaredd yn y cartref.  Mae rhieni sydd wedi cael y cymorth hwn yn canmol yn fawr y cymorth y mae wedi’i roi iddynt o ran trefnu eu cartref teuluol.

Iaith a Chwarae/ Rhif a Chwarae

Yn nhymor yr Hydref, mae rhieni Meithrin newydd yn mynychu sesiynau Iaith a Chwarae.  Mae rhieni yn mynychu sesiynau ymarferol ochr yn ochr â’u plant er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r modd y mae eu plant yn dysgu, a sut gallant gefnogi’r dysgu hwn gartref.  Bydd rhaglen Rhifedd a Chwarae yn dilyn hyn yn nhymor y Gwanwyn.  Hwylusydd mewnol sydd wedi cael hyfforddiant llawn sy’n cynnal y rhaglen rianta hon.

Llythrennedd Rhieni’r Dosbarth Derbyn

Fel parhad i gynnwys rhieni yn y dosbarth Meithrin, trwy Iaith a Chwarae a Rhifedd a Chwarae, mae rhieni disgyblion mewn dosbarthiadau meithrin yn mynychu sesiynau llythrennedd ar ddydd Mercher yn yr ystafell Dysgu fel Teulu.  Mae rhieni yn parhau i ddatblygu’u gwybodaeth am sut gallant gynorthwyo dysgu eu plant yn y cartref.

Mae Ysgol Gynradd Pillgwenlli yn cydnabod bod mwy i’w wneud o hyd i gynnwys rhieni yn nysgu eu plentyn a’u hagwedd at fywyd ysgol.  Eleni, mae’r ysgol wedi cynhyrchu’r taflenni gwybodaeth ganlynol yn ogystal:

  • Presenoldeb: Mae Pob Diwrnod yn Cyfrif [Attendance: Every Day Counts]
  • Sut i Helpu eich Plentyn gyda Mathemateg: Rhifau Bob Dydd [How to Help your Child with Maths: Every Day with Numbers]
  • Sut i Helpu eich Plentyn gyda Darllen: Geiriau Bob Dydd [How to Help your Child with Reading: Every Day with Word]

Deilliannau / Effaith ar ddysgwyr

Mae’r deilliannau wedi cynnwys ffurfio perthnasoedd ymddiriedus gyda theuluoedd newydd.  Mae eu cyfranogiad ym mywyd yr ysgol wedi arwain at safonau gwell ar gyfer dysgwyr difreintiedig ac mae’r dysgwyr hynny wedi ennill y medrau llythrennedd a’r medrau cymdeithasol sydd eu hangen arnynt i gyflawni yn yr ysgol.  Mae agwedd dysgwyr at ysgol wedi datblygu’n gadarnhaol; mae cyfraddau presenoldeb disgyblion wedi gwella (ystod o 47% i 71% i ystod o 84% i 96%), mae presenoldeb rhieni mewn sesiynau dysgu fel teulu rhwng 94% a 100%, ac mae presenoldeb rhieni mewn nosweithiau ymgynghori wedi gwella’n sylweddol hefyd.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer yn y Grŵp Anogaeth i Deuluoedd a’r Cyfnod Sylfaen gydag ysgolion ledled Cymru a rhai ysgolion ar draws y ffin.  Mae staff o Ysgol Gynradd Pillgwenlli yn mynychu Cyfarfodydd Grŵp y Rhwydwaith Anogaeth ac maent wedi cyflwyno yn y Gynhadledd Anogaeth Genedlaethol ac mewn Cynhadledd Esgeuluster leol.