Creu’r diwylliant ar gyfer cyflawni - Estyn

Creu’r diwylliant ar gyfer cyflawni

Arfer effeithiol

Headlands School


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Ysgol arbennig annibynnol yw Ysgol Headlands, sydd wedi’i lleoli mewn ardal breswyl ym Mhenarth ym Mro Morgannwg. Mae’n rhan o’r elusen ‘Gweithredu dros Blant’. Mae’r ysgol yn darparu lleoliadau dydd a phreswyl ar gyfer disgyblion y mae eu hymddygiad yn heriol iawn a disgyblion sydd ag anawsterau emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol (DECY). Adeg yr arolygiad diwethaf yn Hydref 2012, roedd 48 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol, rhwng 8 ac 19 oed, ac roedd 42 o’r rhain yn fechgyn a 6 ohonynt yn ferched. Roedd pum disgybl yng nghyfnod allweddol 2, 19 yng nghyfnod allweddol 3, 10 yng nghyfnod allweddol 4 ac 14 yn y sector ôl-16.

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr yn anfon disgyblion i’r ysgol. Mae gan ddeuddeg disgybl leoedd preswyl tymhorol. Mae gan bedwar deg saith o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, ac mae 15 o ddisgyblion yn cael gofal gan eu hawdurdod lleoli. Mae gan bob disgybl anghenion dysgu ychwanegol, sy’n cynnwys anhwylderau gorfywiogrwydd a diffyg canolbwyntio (ADHD) ac anhwylderau’r sbectrwm awtistig (ASD).

Saesneg yw prif iaith bron pob un o’r disgyblion. Mae un disgybl yn siarad Cymraeg gartref, a dyma yw ei famiaith.

Nod yr ysgol yw darparu amgylchedd meithringar a chwricwlwm eang a chytbwys i fodloni anghenion dysgu ac ymddygiadol unigol disgyblion.

Amcan cyffredinol yr ysgol yw helpu disgyblion i gyflawni eu potensial gorau a’u paratoi yn effeithiol i symud ymlaen i’r cam nesaf yn eu bywydau.

Mae disgyblion yn mynd i Ysgol Headlands ar ôl methu fel dysgwyr yn y gorffennol. Oherwydd y medrau cymdeithasol ac emosiynol sydd eu hangen i ymdopi â phwysau a gofynion cyrsiau arholi, mae disgyblion yn y sector hwn yn gyffredinol yn ei chael yn anodd cwblhau ac ennill cymwysterau yn unol â’u potensial. Mae staff Headlands yn credu y gall y disgyblion gyflawni’n dda os cânt ddigon o gymorth, a bod ganddynt hawl i wneud hynny. Dros y chwe blynedd diwethaf, mae’r ysgol wedi rhoi pwyslais penodol ar ymestyn y cyfleoedd i ddisgyblion ennill cymwysterau priodol. O ganlyniad, mae’r ysgol wedi creu diwylliant lle mae disgyblion yn disgwyl cwblhau cyrsiau arholi ac ennill dyfarniadau. Trwy greu sylfaen ddiogel a chadarn sy’n gwerthfawrogi cyflawniad academaidd, daw disgyblion Headlands yn ddysgwyr mwy effeithiol. Mae disgyblion yn gwybod sut i lwyddo erbyn hyn, yn hytrach na sut i fethu, ac maent yn disgwyl llwyddo.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Er mwyn iddynt fod yn oedolion llwyddiannus a byw bywydau cyflawn, credwn y bydd angen i ddisgyblion allu manteisio ar addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth pan fyddant yn gadael yr ysgol. Yn y byd heddiw, bydd hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt gystadlu am leoedd ar gyrsiau a swyddi yn erbyn pobl eraill sydd wedi bod i ysgolion sy’n cynnig cyfleoedd eang i ennill cymwysterau. Mae’n bwysig bod disgyblion Headlands o leiaf yn cael cyfleoedd tebyg neu well i ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnynt i gael y swyddi, yr hyfforddiant a’r addysg bellach y maent yn ymgeisio amdanynt. I gefnogi’r weledigaeth hon, mae’r ysgol wedi dechrau ystod o strategaethau.

  • Meithrin y medrau cymdeithasol ac emosiynol sydd eu hangen ar ddysgwyr yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r dull hwn yn helpu disgyblion i ymdopi â’r pwysau a’r gofynion sy’n gysylltiedig ag ennill cymwysterau.
  • Darparu ystod gynhwysfawr o gyfleoedd a chymwysterau ar safle’r ysgol. Mae’r ysgol yn disgwyl i bob athro gyflwyno cyrsiau arholi allanol, ac yn rhoi’r cymorth angenrheidiol i staff i gyflawni’r nod hwn.
  • Efydlu partneriaethau cryf gydag ysgolion, colegau a darparwyr addysg lleol i ymestyn ystod y cymwysterau sydd ar gael. Trwy’r partneriaethau hyn, mae disgyblion yn ennill cymwysterau Safon Uwch, ar raglenni dysgu yn y gwaith a chymwysterau galwedigaethol.
  • Creu diwylliant cadarnhaol o amgylch dysgu, gyda phwyslais cryf ar ddathlu llwyddiant mewn arholiadau. Mae canlyniadau arholiadau cadarnhaol llawer o ddisgyblion yn eu helpu i gymell ac ysbrydoli disgyblion eraill i gyflawni llwyddiant tebyg. Mae’r dull hwn hefyd yn atgyfnerthu disgwyliadau athrawon i ddisgyblion weithio’n galed a dangos ymrwymiad i’w hastudiaethau.
  • Cael disgyblion i gymryd rhan mewn trafodaethau am eu dyheadau yn y dyfodol. Mae’r trafodaethau hyn a chymorth ac anogaeth athrawon yn helpu i gymell disgyblion i ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnynt i gwblhau’r cam nesaf mewn dysgu neu waith.
  • Parhau i addasu a datblygu’r cyrsiau arholi sydd ar gael i ddisgyblion. Mae’r ysgol yn rhoi i staff y cymorth a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu cyrsiau newydd a rhoi amser i sefydlu partneriaethau newydd gyda darparwyr allanol. Mae hyn yn sicrhau bod ein fframwaith cymwysterau yn aros yn hyblyg ac y gellir ei addasu i fodloni llwybrau dysgu pob carfan benodol o ddisgyblion.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Mae gan ddisgyblion gyfle erbyn hyn i adael Ysgol Headlands gydag ystod eang o gymwysterau sy’n berthnasol i’w dyheadau yn y dyfodol. O ganlyniad, maent yn datblygu’r medrau i ddysgu yn annibynnol, maent wedi eu paratoi’n well i symud ymlaen i addysg bellach a hyfforddiant, ac fe gânt y cyfleoedd gorau posibl i lwyddo mewn bywyd.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae disgyblion wedi ennill ystod eang o gymwysterau a dyfarniadau gan gynnwys lefel UG, TGAU, lefel mynediad, Rhwydwaith Coleg Agored, BTEC, Gwobr Dug Caeredin, Prosiectau CBAC a thystysgrifau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Chwe blynedd yn ôl, dim ond tri chwrs TGAU a chwe chwrs lefel mynediad yr oedd disgyblion yn gallu eu hastudio. Yn 2012, llwyddodd disgyblion yn Ysgol Headlands i ennill:

  • cyfanswm o 61 cymhwyster TGAU mewn 10 maes pwnc, gyda thua thraean o’r rhain yn raddau B-D;
  • pedair Gwobr Efydd Dug Caeredin;
  • pedwar cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru ar lefel 2 mewn cymhwyso rhif;
  • deg cymhwyster prosiect CBAC (2 ar radd estynedig C ac E, un ar radd uwch B, a saith ar raddau sylfaen A a B);
  • dau gymhwyster BTEC mewn gwallt a harddwch ar lefel 1, a thystysgrif estynedig BTEC mewn adeiladu ar lefel 2; a
  • CGC mewn perfformio gweithrediadau peirianneg ar lefel 1.

Mae’r deilliannau hyn yn dangos yn glir y modd y mae gwelliannau mewn diwylliant dysgu yn Ysgol Headlands wedi bod o fudd sylweddol i ddisgyblion.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn