Creu’r awyrgylch cywir i siarad am addysgu - Estyn

Creu’r awyrgylch cywir i siarad am addysgu

Arfer effeithiol

Ysgol Pencae


Cyd-destun

Mae Ysgol Pencae yn Llandaf yng Nghaerdydd.  Mae tua 210 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd, rhwng 4 ac 11 oed.  Mae gan yr ysgol saith dosbarth un oedran.  Oherwydd nad oes gan yr ysgol unrhyw ddarpariaeth feithrin, daw disgyblion i’r ysgol o ystod eang o ddarpariaeth cyn-ysgol.  

Mae tua 2% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 13% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Daw ychydig iawn o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.  Daw tua 16% o ddisgyblion o gartrefi Cymraeg eu hiaith.  Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er mis Medi 2008 ac ymunodd y dirprwy bennaeth â’r ysgol ym mis Medi 2016.

Strategaeth a chamau gweithredu

Adnewyddodd yr ysgol ei ffocws ar wella addysgu yn 2013 i ddechrau.  Cyflwynodd arweinwyr ychydig o gynlluniau cyhoeddedig i sicrhau mwy o gysondeb wrth addysgu darllen, ysgrifennu a mathemateg a helpu cryfhau medrau athrawon yn y meysydd hyn o’r cwricwlwm.  Yn dilyn hyn, daeth ffocws ar ddatblygu ymagwedd yr ysgol at asesu ffurfiannol trwy ddeall asesu ar gyfer dysgu. 

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae cynllun datblygu’r ysgol wedi amlinellu blaenoriaethau clir mewn perthynas ag addysgu, gan gynnwys gwella adborth i ddisgyblion a mireinio strwythur gwersi.  Mae’r cynllun presennol yn cynnwys targed i wella safonau addysgu a dysgu ar draws yr ysgol, a’r nod cyffredinol yw y dylai pob gwers fod yn dda neu’n rhagorol a datblygu dysgu annibynnol disgyblion trwy weithgareddau a osodir mewn cyd-destunau go iawn.  Mae gan uwch arweinwyr ddisgwyliadau clir ac mae staff yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau mewn perthynas â gwella addysgu.  Mae athrawon yn cymryd cyfrifoldeb am eu dysgu proffesiynol eu hunain ac maent yn gwybod eu bod yn atebol am ddeilliannau’r disgyblion yn eu dosbarthiadau.

Ym mis Medi 2016, dechreuodd athrawon weithio mewn triawdau gydag athrawon yn yr un grŵp blwyddyn o ddwy ysgol arall.  Diben y gwaith hwn yw rhannu arfer dda a myfyrio ar effeithiolrwydd eu haddysgu eu hunain ac addysgu cydweithwyr. 

Mae arweinwyr ac aelodau eraill o staff wedi gweithio’n galed i ddatblygu agwedd gadarnhaol ac ymagwedd hyblyg at weithgareddau mewnol fel arsylwadau ystafell ddosbarth, craffu ysgol gyfan ar lyfrau disgyblion, a chyfarfodydd tîm a chyfarfodydd staff ysgol gyfan.  Mae hyn wedi galluogi staff i fod yn fwy agored â’i gilydd ac wedi rhoi hyder iddynt fynd i’r afael â phryderon a datrys problemau gyda’i gilydd.  Mae staff bellach yn fwy parod i gydnabod a thrafod cryfderau a gwendidau mewn addysgu ar draws yr ysgol.  Mae cydweithio ag athrawon o ysgolion eraill wedi annog yr ethos hwn o ddidwylledd a myfyrio.  Erbyn hyn, mae gan athrawon fwy o hyder i holi am fethodoleg ac arbrofi â dulliau newydd, a’u haddasu, er budd disgyblion.

Mae arweinwyr yr ysgol yn amlinellu’r strategaethau canlynol sy’n asgwrn cefn dull yr ysgol o wella addysgu, yn eu barn nhw, sef:

  • arsylwi gwersi’n rheolaidd
  • system glir ar gyfer rheoli llinell
  • defnyddio set gytûn o feini prawf i farnu addysgu
  • diwrnodau dysgu proffesiynol mewnol sy’n canolbwyntio ar agweddau ar addysgu
  • cyfarfodydd tîm rheolaidd yn yr ysgol
  • mynychu cyrsiau sy’n canolbwyntio ar addysgeg
  • athrawon yn cydweithio i ddatblygu elfennau amrywiol o addysgu
  • sesiynau cymedroli rheolaidd ar y cyd
  • athrawon â chyfrifoldebau penodol yn mynychu cyrsiau perthnasol ac yn rhannu dysgu â phobl eraill yn yr ysgol
  • cyflogi athro rhan-amser i helpu datblygu a chyflwyno strategaethau i gynorthwyo disgyblion mwy abl thalentog a dawnus. 

Yn dilyn hunanarfarniad athrawon o’u haddysgu yn erbyn meini prawf cytûn o gontinwwm cyhoeddedig, mae athrawon ac arweinwyr yn nodi meysydd i’w datblygu sy’n gyffredin ar draws yr ysgol.  Er enghraifft, fe wnaethant nodi’n ddiweddar fod y ffordd yr oedd athrawon yn defnyddio amcanion gwersi a meini prawf llwyddiant i gefnogi dysgu disgyblion yn anghyson.  I gytuno ar ffordd gyson ymlaen, mae athrawon yn trafod y materion hyn wedyn mewn cyfarfodydd staff ffocysedig neu yn  electronig.  Mae athrawon yn ailedrych ar y camau gweithredu cytûn mewn cyfarfodydd pellach neu mewn sesiwn ddilynol i arsylwi gwers.  Pan fydd y camau gweithredu hyn yn annigonol, mae arweinwyr yr ysgol yn aml yn cynllunio cyfres o sesiynau dysgu proffesiynol ar gyfer staff.

Mae’r ysgol yn defnyddio arsylwadau gwersi i fonitro ansawdd yr addysgu bob tymor.  Mae amserlen ar waith ac mae arsylwadau’n canolbwyntio’n glir ar ddau darged cytûn bob tymor o’u hunanarfarniad ac unrhyw dargedau personol o arsylwadau blaenorol.  Er enghraifft, mae’r ffocws presennol ar gynllunio ar gyfer rhifedd ac effaith adborth i ddisgyblion, a’r tymor nesaf, bydd arweinwyr yn ystyried medrau dysgu annibynnol a’r defnydd o’r awyr agored.

Yn ogystal ag arsylwadau gwersi ffurfiol, mae pob un o’r athrawon yn gweithio mewn triawdau gydag athrawon o’r un grŵp blwyddyn mewn ysgolion lleol eraill.  Yn ei flwyddyn gyntaf, roedd yr arbrawf hwn yn cynnwys pob triawd yn cynllunio cyfres o wersi, yn arsylwi ei gilydd yn addysgu, yn myfyrio ar yr arfer dda a nodwyd ganddynt, ac yn rhannu adnoddau.  Mae’r arbrawf yn ei ail flwyddyn bellach, ac mae’r ffocws ar ddatblygu gwersi a syniadau mewn meysydd dysgu a phrofiad o Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015).  Nod gweithio mewn triawdau yw rhannu medrau, dysgu oddi wrth arbenigwyr a chreu partneriaethau cynaliadwy rhwng ysgolion.

Deilliannau

O ganlyniad i ffocws yr ysgol ar wella addysgu, ceir lefel uchel o broffesiynoldeb ymhlith staff.  Mae pob un o’r athrawon yn ymgymryd ag elfennau o hunanarfarnu, yn enwedig mewn perthynas ag addysgu.  Maent yn cymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu proffesiynol eu hunain, ac maent yn frwdfrydig ac yn barod i roi cynnig ar syniadau a dulliau newydd, yn enwedig yn sgil gweithio mewn triawdau gyda chydweithwyr o ysgolion eraill.  Mae athrawon wedi cynyddu eu dealltwriaeth o fanteision datblygu llais y disgybl, pwysigrwydd cyfathrebu’n effeithiol â rhieni, a’r angen i ymgorffori pob agwedd ar ddiwygio’r cwricwlwm.

Mae athrawon yn teimlo mai datblygu ymglymiad disgyblion yn eu dysgu eu hunain sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar safonau dysgu a lles.  Mae cyfleoedd cynyddol i ddisgyblion arfarnu eu dysgu eu hunain, cyfrannu at gynllunio’r cwricwlwm, ac addasu’r iaith a ddefnyddir gan ddisgyblion i siarad am eu gwaith.  Er enghraifft, mae meddwl am ‘gyfleoedd i wella’, yn hytrach na ‘gwneud camgymeriadau’, wedi arwain at annibyniaeth gynyddol a ‘chytundeb’ gan ddisgyblion.

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

Ystyried pa mor llwyddiannus y mae athrawon yn perfformio mewn perthynas â’r 12 egwyddor addysgegol yn Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015).

 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn