Creu ysgol feithringar trwy ymagwedd gynhwysol at les

Arfer effeithiol

Cadoxton Community Primary

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Tregatwg wedi’i lleoli yn nwyrain y Barri, ym Mro Morgannwg.  Unodd yr ysgol ag Ysgol Feithrin Tregatwg ym Medi 2016.  Ar hyn o bryd, mae 497 o ddisgyblion ar y gofrestr, o 3-11 oed, gan gynnwys 65 disgybl meithrin rhan-amser.  Mae hyn yn cynyddu i 100 yn ystod tymor yr haf.  Mae 14 o ddosbarthiadau blwyddyn unigol a phedwar dosbarth meithrin yn yr ysgol.

Mae tua 38% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae hyn ymhell uwchlaw cyfartaledd yr awdurdod lleol a’r cyfartaledd cenedlaethol.  Mae gan 38% o’r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sy’n uwch na chyfartaledd yr awdurdod lleol a’r cyfartaledd cenedlaethol.  Nid oes gan yr un disgybl ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.

Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn ysgol arloesi ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau i’r cwricwlwm ym maes profiad a dysgu proffesiynol, Iechyd a Lles.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae Ysgol Gynradd Tregatwg yn ymroi i greu cymuned feithringar a chynhwysol i bawb.  Mae pob rhanddeiliad yn yr ysgol yn deall pwysigrwydd hybu lles disgyblion.  Mae’r ysgol yn mynegi pwysigrwydd mynd i’r afael â lles disgyblion mewn addysg, sy’n atseinio datganiad Sefydliad Iechyd y Byd, sef “i gyflawni eu potensial, rhaid i blant ysgol gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau addysgol.  I wneud hyn, rhaid iddynt fod yn iach, yn sylwgar ac yn gadarn yn emosiynol.”  Myfyriodd yr ysgol ar y datganiad hwn o gymharu â’r hyn yr oeddent yn ei weld yn yr ystafell ddosbarth, a phenderfynu bod angen ffordd wahanol arnynt, “un a oedd yn cynnig amgylchedd meithringar i bawb”.

Yn flaenorol, sefydlodd yr ysgol sesiynau ‘grŵp anogaeth’ a gynhaliwyd drwy gydol yr wythnos mewn ystafell anogaeth ddynodedig.  Arweiniwyd y rhain gan ddau gynorthwyydd cymorth dysgu, i ddisgyblion penodedig yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt.  Yna, mae’r disgyblion hyn wedi dilyn rhaglen ysgolion anogol a chânt eu hailasesu ddiwedd pob tymor.

Fodd bynnag, sylwodd yr ysgol mai yn anaml iawn yr oedd y disgyblion a oedd yn destun yr ymyrraeth hon yn ‘graddio’ (sef eu bod yn bodloni’r meini prawf gadael ac nid oedd angen yr ymyrraeth arnynt mwyach) ac, yn aml, roedd angen anogaeth arnynt nid yn unig ar yr adegau dynodedig ond ar amrywiol adegau yn ystod y dydd – yn bennaf oll ar ddechrau ac ar ddiwedd y dydd.  Ystyriaeth arall gan yr ysgol oedd “A ydym ni, o bosibl, yn paratoi’n disgyblion i fethu?” trwy greu ystafell anogaeth lle’r oedd disgyblion yn gallu bwyta, yfed a theimlo’u bod yn cael cefnogaeth.  Pan fyddai eu cyfnod yn y grŵp anogaeth wedi dod i ben, roedd yn rhaid i ddisgyblion ddychwelyd i amgylchedd yr ystafell ddosbarth, nad oedd o reidrwydd yn adlewyrchu amgylchedd yr ‘ystafell anogaeth’.  Ystyriodd staff y buddion cadarnhaol i’r holl ddisgyblion, trwy fynd â’r hyn yr oeddent wedi’i ddysgu o’r grwpiau anogaeth a chymhwyso’r un athroniaeth i bob ystafell ddosbarth, lle mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel ac yn gysurus bob adeg o’r dydd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd y nodwyd ei fod yn arfer sy’n arwain y sector

Un o’r nodau yn Ysgol Gynradd Tregatwg yw “sicrhau bod yr holl ddysgwyr a’r staff yn unigolion iach a hyderus”.  Mae’r ysgol yn ystyried mai cyfrifoldeb pawb yng nghymuned yr ysgol yw meithrin lles disgyblion ac mae wedi creu ethos bod “pob ystafell ddosbarth yn ystafell ddosbarth anogol”, yn fan lle mae disgyblion yn gallu cyflawni eu potensial trwy ddysgu a thyfu gyda’i gilydd.

Cynhaliodd arweinwyr yr ysgol drafodaeth gyda’r disgyblion a fu’n rhan o grwpiau anogaeth yn y gorffennol am y pethau a lwyddodd i’w helpu i deimlo’n ddiogel ac yn gysurus, ac yn barod i ddysgu ac ymwneud ag eraill.  Roedd eu prif ymatebion yn ymwneud â chael man diogel i fynd iddo os oeddent yn pryderu neu angen llonydd, sef man a oedd yn cynnwys soffas, sachau eistedd, clustogau, a blancedi, a pheidio â theimlo bod angen bwyd neu ddiod arnynt.  Gyda hyn mewn golwg, gweithiodd arweinwyr gyda’r ‘Arweinwyr Dysgu’, sef grŵp gweithredu’r ysgol, i greu rhestr o bethau gorfodol i bob ystafell ddosbarth.  Roedd y rhestr hon yn cynnwys mannau cyfathrebu, clustogau a blancedi, ardal byrbrydau gyda bwyd a diod iach, a cherddoriaeth leddfol.  Mae disgyblion yn defnyddio’r cyfleusterau hyn yn synhwyrol ac mae hyn yn helpu bron pob un o’r disgyblion i ymroi’n dda i’w dysgu trwy gydol y dydd.

Caiff disgyblion ag anghenion emosiynol ychwanegol posibl gefnogaeth drwy’r cynorthwyydd cymorth llythrennedd emosiynol yn amgylchedd yr ystafell ddosbarth gan aelod o’r tîm anogaeth.  Fe wnaeth yr ysgol ailddosbarthu ei thîm anogaeth fel y gallai un cynorthwyydd cymorth dysgu gynnig pwynt ‘galw heibio’ i ddisgyblion yr oedd arnynt angen amser, llonydd a lle i ddeall ac ystyried effaith eu gweithredoedd wrth wneud dewisiadau.  Caiff hyn ei reoli gan y disgyblion eu hunain, gan roi gwybod i’r athro pan fyddant yn teimlo bod arnynt angen defnyddio’r ardal o’r enw ‘The Cwtch’.  Mae hyn wedi cael effaith enfawr ar yr holl ddisgyblion sydd angen cymorth.  Hefyd, mae’r tîm yn cynnig pwynt ‘galw heibio’ i’r disgyblion mwyaf agored i niwed yn y bore pan fyddant yn cyrraedd, trwy gydol y dydd, os byddant yn dechrau teimlo bod pethau’n mynd yn drech na nhw, a chyn eu bod yn gadael yr ysgol.

Mae’r ysgol yn ystyried lles disgyblion yn amgylchedd y cartref a’i effaith ar ddysgu’r disgyblion hefyd.  Felly, mae arweinwyr yn defnyddio’r grant datblygu disgyblion i ariannu cynorthwywyr cymorth dysgu sy’n ymgysylltu â theuluoedd ac maent yn rhoi cyfleoedd i deuluoedd gymryd rhan ym mywyd a gwaith yr ysgol.  Er enghraifft, mae grŵp y ‘tadau, ewythrod a theidiau’ yn ymgysylltu ag aelodau gwrywaidd y teulu i gefnogi dysgu’r disgyblion, yn enwedig dysgu’r bechgyn.  Mae cynorthwywyr cymorth dysgu’n cynnal cyfres o raglenni gwerthfawr i rieni i’w helpu i gefnogi dysgu a lles eu disgyblion.

Mae athrawon dosbarth yn asesu agweddau pob disgybl at ddysgu a lles ar adegau interim yn ystod y flwyddyn.  Caiff y rhain eu monitro’n rhan o system olrhain data’r ysgol.  Hefyd, mae rhieni a disgyblion yn ateb holiaduron ar agweddau at ddysgu a lles a thrafodir y ddau fel rhan o nosweithiau’r ysgol i rieni bob tymor.  Mae hyn yn sicrhau bod lles pob disgybl yn cael ei olrhain a’i fonitro’n effeithiol a bod adborth effeithiol yn cael ei roi ar les pob disgybl.

Mae’r ymagwedd ysgol gyfan at les yn mynd y tu hwnt i’r dysgu a’r addysgu yn yr ystafell ddosbarth ac mae’n treiddio i bob agwedd ar fywyd ysgol, gan gynnwys:

  • diwylliant, ethos a’r amgylchedd: caiff iechyd a lles disgyblion a staff eu hyrwyddo trwy’r cwricwlwm ‘anffurfiol’, gan gynnwys arferion arwain, gwerthoedd ac agweddau’r ysgol, ynghyd â’r amgylchedd cymdeithasol a ffisegol
  • dysgu ac addysgu: defnyddio’r cwricwlwm i ddatblygu gwybodaeth, agweddau a medrau disgyblion yn gysylltiedig ag iechyd a lles
  • partneriaethau â theuluoedd a’r gymuned: ymgysylltu’n rhagweithiol â theuluoedd, asiantaethau allanol a’r gymuned ehangach i hybu cefnogaeth gyson ar gyfer iechyd a lles disgyblion a phobl ifanc

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau disgyblion?

Mae’r dull ysgol gyfan o ymdrin â lles wedi galluogi disgyblion i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain ac i feithrin datblygiad cymdeithasol ac emosiynol, a pherthnasoedd cadarnhaol, sy’n annog cydweithio.  Mae hyn yn golygu bod bron pob disgybl yn barod i ddysgu ar ddechrau pob gwers.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae llawer o ysgolion ar draws Cymru wedi ymweld â darpariaeth yr ysgol trwy ddiwrnodau agored ac mewn rhaglenni hyfforddiant mewn ysgolion a gynhelir ar ran Consortiwm Canolbarth y De.  Yn ogystal, mae’r ysgol yn rhan o’r maes dysgu Iechyd a Lles fel rhan o’r datblygiadau ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru.
 

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn