Creu sylfeini cadarn i gefnogi twf dysgwyr

Arfer effeithiol

Ysgol Yr Esgob


 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Ar ôl yr arolygiad blaenorol yn 2011, gosodwyd yr ysgol yn y categori statudol angen mesurau arbennig.  Roedd dysgwyr yn oddefgar ac nid oeddent yn cymryd cyfrifoldeb am eu dysgu.  Nid oedd yr ysgol yn ymgysylltu â strategaethau asesu ar gyfer dysgu.  Er bod perthnasoedd yn dda ar y cyfan, roedd disgyblion yn ei chael yn anodd cydweithio â’i gilydd yn ystyrlon.  Nid oedd unrhyw systemau effeithiol i olrhain cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion.  Roedd disgyblion yn cael cymorth ychwanegol; fodd bynnag; nid oeddent yn cael eu nodi’n strategol, ac nid oedd ymyrraeth yn digwydd yn ddigon aml nac yn gweddu’n agos i angen.  Nid oedd llais y disgybl wedi’i ddatblygu’n ddigonol.  At ei gilydd, methodd y cwricwlwm ddarparu ystod o brofiadau a oedd yn bodloni anghenion yr holl ddisgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd  

Gwnaeth athrawon waith helaeth ar strategaethau asesu ar gyfer dysgu.  Ffurfiwyd y sylfaen ar gyfer hunanasesu gan amcanion dysgu.  Cyflwynwyd ysgolion marcio, gan alluogi disgyblion i roi sylwadau ar feini prawf llwyddiant a darparu adborth.  Roedd disgyblion ac athrawon yn defnyddio symbolau marcio, gan gynnwys adborth ar y “camau nesaf” ar gyfer disgyblion.  Mae adborth gan athrawon wedi dod yn gysylltiedig yn benodol â’r amcan dysgu.  Mae’n fanylach a gall disgyblion weld sut i wella eu gwaith.  Mae disgyblion yn aml yn ateb sylwadau marcio athrawon â’u sylwadau eu hunain.  Defnyddir marcio â chodau lliw fel y gall disgyblion weld ble maent yn llwyddiannus a beth mae angen mynd i’r afael ag ef.  Dros gyfnod, mae disgyblion wedi cymryd mwy o reolaeth o’u dysgu, sydd, yn ei dro, wedi cynyddu hyder ac ymdeimlad o gyflawni.  Mae hunanasesu yn hynod ddatblygedig, gan ddarparu effaith gadarnhaol sylweddol ar safonau.  Mae gan adborth llafar ac arfer gadarnhaol ran bwysig mewn gwersi bob dydd, ynghyd â gwasanaethau ysgol.  Caiff parodrwydd disgyblion i ddysgu ei hyrwyddo gan ddathlu cyflawniadau, gyda dathliad â ffocws o fedrau penodol yn cyfrannu at y broses asesu ar gyfer dysgu, gan arwain at ddiwylliant cymhellol cylchol o ddysgu â ffocws a chyflawniad disgyblion.

Mae’r ysgol wedi cael hyfforddiant mewn strwythurau dysgu ar y cyd.  Mae athrawon yn hwyluso dysgu disgyblion mewn parau a grwpiau i annog y defnydd o siarad i gefnogi dysgu.  Mae lefelau cyfranogiad ar gyfer pob dysgwr wedi cynyddu.  Mae athrawon a staff yn defnyddio strategaethau i ddwyn disgyblion i fod yn atebol mewn ffordd anfygythiol, i annog a pherswadio disgyblion i ymgymryd â’u dysgu.  Trwy gydweithio fel ffordd o ddysgu cyfoedion, mae disgyblion yn cynorthwyo ei gilydd i greu a mireinio syniadau.  Mae hyn wedi magu eu hyder yn dda ac mae’r cyfranogiad gwell yn eu hannog i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu.

Mae’r ysgol hefyd yn magu hyder a hunan-barch mewn ffyrdd eraill.  Mae ymarferwyr arbenigol yn gweithio ochr yn ochr â staff presennol yr ysgol, gan alluogi disgyblion i ymgymryd ag amrywiaeth eang o brofiadau creadigol a rhoi cyfle iddynt berfformio.  O ganlyniad, mae disgyblion yn canu a chreu cerddoriaeth i safon uchel yn rheolaidd ac maent yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau dawns a chelfyddydau gweledol.  Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn ymchwilio i sut gellir defnyddio technegau drama i godi safonau mewn ysgrifennu naratif.

Mae’r ysgol wedi datblygu ffyrdd llwyddiannus o olrhain cynnydd a gwirio lefelau cyrhaeddiad.  Mae ganddi ddealltwriaeth glir iawn o safonau cyrhaeddiad disgwyliedig ar gyfer pob grŵp blwyddyn.  Caiff disgyblion eu ‘mapio’ ar gridiau cyrhaeddiad, i alluogi staff i nodi’n glir pa ddisgyblion yw’r rhai nad ydynt ar y trywydd iawn a hwyluso cymorth priodol.  Caiff cynnydd ei fesur yn ofalus hefyd, gan addasu darpariaeth o ganlyniad.  Gall y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol amlygu’r rheiny sydd angen cymorth ychwanegol.  Mae ei gwybodaeth am ymyriadau, yn seiliedig ar brofiad a thrwy ymweld ag ysgolion eraill, wedi arwain at ddatblygu darpariaeth eang a sylweddol ar gyfer ystod eang o anghenion.  Caiff rhaglenni eu hanelu’n fanwl at anghenion unigolion neu grwpiau.  Caiff cynorthwywyr athrawon hyfforddiant o ansawdd da ar strategaethau ymyrraeth newydd cyn cynorthwyo disgyblion, ac arfernir yr effaith trwy ddadansoddi cynnydd disgyblion.  Mae hyfforddi a lleoli cynorthwywyr athrawon yn bwrpasol ar gyfer gwaith ymyrraeth yn galluogi iddynt arwain mentrau ar draws yr ysgol.  Mae effaith eu harweinyddiaeth yn sylweddol.  Ceir ystod eang o ymyriadau cymorth ar gyfer llythrennedd yn yr ysgol, gan gynnwys i gynorthwyo darllen, a rhaglen ffoneg a sillafu ar gyfer disgyblion ag anghenion penodol, fel dyslecsia.

Mae’r ysgol yn llwyddiannus wrth ddefnyddio rhaglenni sy’n targedu gorbryder, hunan-barch isel a datblygiad cymdeithasol, fel y rheiny sy’n cynnwys theori ymlyniad.  Gall rhieni gael hyfforddiant hefyd.  Mae’r ysgol yn defnyddio dulliau penodol i weithio gyda disgyblion sy’n dangos lefelau nodedig o orbryder a hunan-barch isel.  Effaith y gwaith ymyrraeth yw bod disgyblion yn gwneud cynnydd da iawn o’u mannau cychwyn.

Mae’r defnydd o lais y disgybl wedi datblygu’n dda.  Ceir cyfle sylweddol ac eang i ddisgyblion gael dweud eu dweud ynglŷn â materion sy’n effeithio arnyn nhw, gan ddatblygu hyder, hunan-barch a photensial arwain.  Mae disgyblion y cyfnod sylfaen yn awgrymu syniadau ar gyfer gweithgareddau darpariaeth fanylach ac yn helpu cynllunio testunau ac ymchwiliadau.  Mae aelodau’r cyngor ysgol yn cynnal teithiau dysgu, gan edrych ar faterion iechyd a diogelwch, ymddygiad ar gyfer dysgu a’r defnydd o’r Gymraeg.  Maent yn ymgynghori â disgyblion ar ddatblygiadau presennol yr ysgol, er enghraifft ar eu barn am gynllun mathemateg newydd.  Maent wedi datblygu fersiwn ddiweddaraf polisi ymddygiad yr ysgol ac wedi ymgynghori â’r corff llywodraethol a rhieni ynglŷn â bwyta’n iach.

Mae’r cwricwlwm yn cynnwys materion sy’n cynnwys yr ardal leol, gan ddefnyddio sefyllfaoedd go iawn.  O ganlyniad, mae gan ddisgyblion ymdeimlad datblygedig o berthyn.  Mae plant hŷn yn dysgu am bwysigrwydd hanesyddol yr eglwys ac yn llunio taflenni ar gyfer ymwelwyr.  Mae busnesau lleol yn cynnal gweithdai ar y cysyniadau gwyddonol y maent yn eu hyrwyddo.  Mae disgyblion yn ysgrifennu llythyrau at lywodraethwr cyngor y dref, gan ei helpu â chais am gyllid ar gyfer y maes chwarae lleol.  Mae disgyblion yn ystyried sut gallai adeiladu fferm wynt effeithio ar eu cymuned leol.  Mae’r ysgol yn credu bod y gweithgareddau hyn yn meithrin ymdeimlad cryf o berthyn ac ymdeimlad o le mewn cymuned a’u bod yn cael effaith gadarnhaol ar hunan-barch a lles.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae safonau wedi gwella’n fawr.  Roedd hyn yn cynnwys gweithio ar lawer o agweddau ar draws cwricwlwm yr ysgol i drawsnewid darpariaeth yr ysgol.  Yn yr arolygiad diweddar, mae’r farn ar gyfer lles wedi symud o ddigonol i ragorol.  Mae bron pob un o’r disgyblion yn ddysgwyr hyderus a brwdfrydig.  Maent yn cymryd rhan yn llawn mewn gwersi, yn dal ati i ganolbwyntio’n bwrpasol ac yn dyfalbarhau’n dda pan fyddant yn gweld tasgau’n heriol.  Erbyn hyn, mae gan ddisgyblion lais cryf yn yr ysgol, ac wrth iddynt symud trwy’r ysgol, maent yn datblygu dealltwriaeth eithriadol o gryf o bwysigrwydd cefnogi eu cymuned a lles pobl eraill.

Mae’r farn ar gyfer gofal, cymorth ac arweiniad wedi symud o ddigonol i ragorol hefyd.  Bellach, mae disgyblion yn gwybod beth i’w wneud i wella eu gwaith.  Yn y cyfnod sylfaen, mae disgyblion yn datblygu eu medrau dysgu annibynnol yn llwyddiannus ac mae ganddynt ddealltwriaeth gadarn o ba mor dda y maent wedi cyflawni mewn gwersi trwy gymryd rhan yn rheolaidd mewn hunanasesu.  Mae disgyblion cyfnod allweddol 2 yn siarad yn wybodus am y modd y mae marcio eu gwaith yn eu helpu i ddatblygu eu medrau.  Bellach, mae disgyblion yn gwneud cynnydd cryf mewn dysgu i weithio gyda diben a gwydnwch.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn credu ei bod wedi dylanwadu ar arfer lleoliadau eraill trwy hyfforddiant y mae wedi’i ddarparu.  Mae’r ysgol wedi trefnu hyfforddiant ar gyfer ysgolion eraill ar strategaethau dysgu ar y cyd a’r rhaglenni llythrennedd penodol, ac mae staff wedi elwa ar gydweithio ag athrawon eraill.  Fel ysgol fach, mae arweinwyr yn credu bod hyn wedi eu galluogi i fod yn fwy allblyg a rhannu costau.  Darparodd y prosiect Ysgolion Creadigol Arweiniol ragor o gyfleoedd i weithio’n greadigol gydag ysgol leol arall.  Yn yr un modd, mae prosiectau celfyddydau ar y cyd a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru wedi creu cyfleoedd ar gyfer cyfarfodydd staff ar y cyd, dathliadau cymunedol ac arfarnu ar y cyd.  Mae arweinwyr digidol hefyd wedi rhannu eu dysgu ag athrawon o leoliadau eraill mewn digwyddiadau a gynhelir y tu allan i’r ysgol ac mewn digwyddiadau hyfforddi a arweinir gan y cydlynydd TGCh.  Mae’r pennaeth wedi rhannu prosesau gwella ysgol a hunanarfarnu gydag arweinwyr mewn lleoliadau eraill.