Creu rhwydwaith cymorth disgyblion

Arfer effeithiol

Ysgol Bae Baglan


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol:

Mae Ysgol Bae Baglan yn ysgol 3 i 16 oed cyfrwng Saesneg a gynhelir gan awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot.  Agorodd yr ysgol yn 2016 ar ôl uno ysgolion cyfun Cwrt Sart, Glan Afan a Sandfields, ac Ysgol Gynradd Traethmelyn.  Ar hyn o bryd, mae 1512 o ddisgyblion ar y gofrestr, gyda 1226 o ddisgyblion oed uwchradd a 286 o ddisgyblion oed cynradd.  Mae gan yr ysgol ganolfan adnoddau i fwy na 120 o ddisgyblion oed uwchradd sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae’r ysgol yn gwasanaethu cymunedau yn ardal tref Port Talbot.  Mae dros 30% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 16.4% ar gyfer ysgolion uwchradd a 18% ar gyfer ysgolion cynradd.  Mae dros ddwy ran o dair o’r disgyblion yn byw mewn ardaloedd sydd ymhlith yr 20% mwyaf difreintiedig yng Nghymru.  Ychydig bach iawn o ddisgyblion sy’n cael cymorth i ddysgu Saesneg fel iaith ychwanegol neu sy’n dod o gefndir ethnig lleiafrifol.  Ychydig bach iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg yn rhugl.  Mae canran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol tua 26%, sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 22.9%.  Ar hyn o bryd, mae gan oddeutu 9.2% o ddisgyblion ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig, sydd ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 2.2%.

Penodwyd y pennaeth yn Ionawr 2015 i baratoi ar gyfer agor yr ysgol ym Medi 2016.  Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys tri dirprwy bennaeth, tri phennaeth ysgol, rheolwr busnes a chydlynydd anghenion dysgu ychwanegol.  Maent wedi bod yn eu swydd er Medi 2016.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Roedd dwyn pedair ysgol amrywiol iawn ynghyd mewn lleoliad pob oed newydd sbon yn heriol.  Cydnabuwyd y byddai angen llesiant a chymorth di-dor, o ansawdd uchel, i’r holl ddisgyblion, ond yn enwedig i’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.  Cyn uno, roedd yr ysgolion yn gyfrifol am dros 40% o’r holl waharddiadau yn yr awdurdod.  Mae’r ysgol yn creu amgylchedd dysgu lle mae pob disgybl yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad, boed hynny yn ennill A* mewn TGAU neu gymhwyster lefel mynediad, arwain y tîm arweinyddiaeth disgyblion neu dalu am eu nwyddau eu hunain mewn siop.  Mae’r athroniaeth a’r arferion gweithio yn tarddu o’r gred sylfaenol y gall pob disgybl wneud cyfraniad gwerthfawr, ym mhob agwedd ar eu bywyd, a hynny yn eu datblygiad cymdeithasol, sifil ac addysgol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgareddau

Mae’r ysgol yn gwerthfawrogi nad yw pob disgybl yn gweithio yn yr un ffordd.  Gall fod angen dosbarthiadau bach ar ddisgyblion, cefnogaeth i helpu gyda’u problemau dicter, neu’r adnoddau ymarferol sy’n angenrheidiol i fanteisio ar y cwricwlwm.  Mae’r rhwydwaith cymorth eang i ddisgyblion yn cynnwys datblygu rhaglenni pwrpasol a llwybrau cwricwlwm hyblyg, drwodd i gymorth targedig ar gyfer astudio, sgaffaldio ar gyfer ymddygiad a chymorth llythrennedd emosiynol.

Mae’r staff yn adnabod eu disgyblion yn dda trwy’r defnydd ar y cyd o nodiadau bugeiliol ar ddyfeisiau electronig sy’n dal yr holl wybodaeth am ymyriadau, cymorth a rhaglenni pwrpasol.  Mae’r ysgol yn diweddaru gwybodaeth yn rheolaidd i sicrhau darlun llawn a manwl o gynnydd disgyblion.

Mae panel wythnosol ar ddisgyblion yn trafod anghenion disgyblion agored i niwed er mwyn cyfeirio at yr ymyriadau mwyaf priodol.  Mae’r ysgol yn cynnig uned cynhwysiant y ‘Bae’, sy’n helpu disgyblion â phresenoldeb, ymgysylltiad a hunan-barch, yn ogystal â medrau bywyd, cymorth Cynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol a chanolfan medrau astudio benodol.  Mae’r cynlluniau cymorth pwrpasol i bob disgybl, sydd â’r gallu i addasu, adolygu a newid cymorth yn ddyddiol neu hyd yn oed bob awr, yn gryfder y ddarpariaeth hon.  Mae’r dull ysgol gyfan hwn yn cynnwys staff arbenigol, cymuned ehangach yr ysgol, llywodraethwyr ac asiantaethau allanol yn nhaith cymorth pob disgybl.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae ansawdd y gofal, cymorth ac arweiniad yn nodwedd gref o’r ysgol.  Mae disgyblion yn cael rhaglen gymorth gynhwysfawr.  Mae’r ymyriadau pwrpasol yn mynd i’r afael ag anghenion disgyblion unigol yn llwyddiannus iawn, gyda chryn sensitifrwydd.  Mae hyn yn eu helpu i ymroi’n gadarnhaol i’w dysgu a gwneud cynnydd cryf.  Ar draws yr ysgol, mae llawer o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn gwneud cynnydd cryf yn erbyn eu targedau ac, erbyn diwedd cyfnod allweddol 4, mae llawer o’r disgyblion hyn yn gwneud cynnydd rhagorol.

Mae presenoldeb wedi cynyddu ac mae bellach yn cymharu’n dda â phresenoldeb mewn ysgolion tebyg.  Bu gostyngiad o 70% mewn absenoldeb cyson.  Mae cyfran y disgyblion nad ydynt yn mynd ymlaen i addysg, gwaith neu hyfforddiant wedi gostwng yn sylweddol.

Mae gwaharddiadau cyfnod penodol wedi gostwng ers yr uno, wrth ddod i adnabod disgyblion yn well ac wrth werthuso ac adolygu prosesau cymorth.  Pan gânt eu holi, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael cefnogaeth yn yr ysgol, ac o’r farn bod gan yr ysgol ddealltwriaeth glir o anghenion unigolion.

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae arfer wedi’i rhannu mewn fforymau amrywiol, gan gynnwys:

  • Cyflwyniadau yn Fforwm Pob Oed Cymru Gyfan
  • Trafodaethau ag aelodau grŵp y teulu o ysgolion
  • Cynnal ymweliadau gan ysgolion o bob cwr o Gymru