Creu fframwaith strategol

Arfer effeithiol

Rhos Street C.P. School


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Stryd y Rhos ar gyrion Rhuthun yn Sir Ddinbych.  Symudodd yr ysgol i adeilad newydd yn Ebrill 2018 ar y safle y mae’n ei rannu gydag ysgol cyfrwng Cymraeg, Ysgol Pen Barras.

Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd ers Ebrill 2009. 

Ceir 198 o ddisgyblion 3 i 11 oed yn yr ysgol, gan gynnwys 29 sy’n mynychu’r dosbarth meithrin yn rhan-amser. Mae wyth o ddosbarthiadau un oedran yn yr ysgol.

Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion o etifeddiaeth Gwyn Prydeinig.  Siaredir Saesneg fel iaith ychwanegol gan ychydig iawn o ddisgyblion.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref. 

Tua 9% yw cyfartaledd tair blynedd y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae hyn ymhell islaw cyfartaledd Cymru, sef 18%.  Mae’r ysgol wedi nodi bod anghenion dysgu ychwanegol gan ryw 13% o ddisgyblion, sydd ymhell islaw cyfartaledd Cymru, sef 21%.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Pan gafodd yr ysgol ei harolygu gan Estyn yn 2013, barnwyd bod perfformiad Ysgol Stryd y Rhos yn dda, a bod ei rhagolygon gwella yn rhagorol.  Er mwyn gwella ymhellach, gweithiodd uwch arweinwyr i ddatblygu a chryfhau’r cyswllt rhwng y systemau strategol ar gyfer hunanwerthuso, rheoli perfformiad a gosod a monitro targedau, er mwyn hyrwyddo effaith gwaith yr ysgol i’r eithaf ar ddeilliannau disgyblion a chyflawni safonau rhagorol.

Nododd arweinwyr y byddai cysoni’r meysydd hyn ymhellach yn hwyluso rhagoriaeth gryf a chynaledig mewn cynnydd, deilliannau a safonau disgyblion.  Fe wnaeth yr arweinwyr gynnwys ac integreiddio rhanddeiliaid allweddol yn y broses.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu weithgaredd

Mae ‘Llinyn Aur Strategol Ysgol Stryd y Rhos’ yn fframwaith sy’n sicrhau gweledigaeth yr ysgol a bod blaenoriaethau’n cael eu gweithredu’n effeithiol.  Mae’r fframwaith hwn yn galluogi’r ysgol i gyflawni’r effaith fwyaf drwy gysylltu’r holl brosesau a systemau strategol gyda’i gilydd yn uniongyrchol.  Mae’r rhain yn cynnwys y broses hunanwerthuso holistaidd, sy’n arwain at ffurfio targedau cynllun datblygu’r ysgol (CDY), targedau perfformiad ar gyfer llywodraethwyr, uwch arweinwyr, staff addysgu, staff cymorth a thargedau ar gyfer y disgyblion eu hunain.  Ar bob lefel, mae pob un o’r targedau hyn yn cysoni’n uniongyrchol â blaenoriaethau a nodwyd yn y CDY.

Er mwyn cynorthwyo staff ar bob lefel i gyflawni’u targedau, mae’r hyfforddiant yn canolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol yn ymwneud â’r blaenoriaethau hynny.  Mae’r targedau i’w gweld mewn arddangosiadau dosbarthiadau a choridorau, gan gynnwys capsiynau sy’n crynhoi’r targedau CDY mewn iaith hawdd i blant ei deall, er mwyn gwella’r ffocws ymhellach.  Mae’r arddangosiadau yn cynnwys gwerthusiadau o dargedau’r flwyddyn flaenorol.  Hefyd, darperir fersiwn gryno o’r CDY i rieni, yn amlinellu sut y gallant gyfrannu at gefnogi cynnydd eu plentyn mewn perthynas â phob targed.

Mae llywodraethwyr sydd â chyfrifoldebau penodol yn ymwneud â chynllun gweithredu’r CDY yn ymweld â’r ysgol i ganolbwyntio ar fonitro safonau a darpariaeth.  Mae llywodraethwyr yn adrodd eu canfyddiadau’n ôl i weddill y corff llywodraethol trwy adroddiad ysgrifenedig.  Mae’r gwaith monitro gan uwch arweinwyr wedi’i dargedu’n benodol i werthuso effaith y camau gweithredu yn y blaenoriaethau CDY.  Yn ogystal, mae arsylwadau cymheiriaid staff, sydd wedi’u hamserlennu, yn cynnig cyfleoedd i staff rannu, trafod a gwerthuso’u gwaith mewn perthynas â’r blaenoriaethau, a hynny’n fwy anffurfiol.

Mae arweinwyr yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i rannu cynnydd gyda’r holl randdeiliaid, gan gynnwys hashnodau unigol mewn perthynas â’r blaenoriaethau gwahanol.  Mae’r fenter hon wedi bod yn ffordd lwyddiannus a buddiol i ddiweddaru cymuned yr ysgol a thu hwnt, yn ogystal â darparu sail dystiolaeth ddefnyddiol o’r cynnydd y mae’r ysgol wedi’i wneud.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae targedau strategol sydd â’r nod penodol o ddatblygu safonau a darpariaeth mewn llythrennedd a rhifedd wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar gynnydd disgyblion wrth iddynt symud drwy’r ysgol.

Er enghraifft, yn yr arolygiad diweddar yn 2018, nododd Estyn fod cynnydd mewn ysgrifennu yn y cyfnod sylfaen yn gyflym, a bod disgyblion yn datblygu dealltwriaeth gryf iawn o rif, ffurf, mesurau a data.  Yng nghyfnod allweddol 2, nododd Estyn, erbyn Blwyddyn 6, fod disgyblion mwy abl yn arbennig yn ysgrifennu darnau estynedig o ffuglen ddifyr a threfnus, gan ddefnyddio geirfa rymus i adeiladu ymdeimlad o wewyr meddwl a datblygu troeon annisgwyl i’r plot.  Hefyd, erbyn diwedd Blwyddyn 6, mae medrau mathemategol rhagorol gan leiafrif o ddisgyblion.

O ganlyniad i’r dull strategol a amlinellwyd uchod, mae bron yr holl ddisgyblion yn gadael yr ysgol gyda medrau sy’n unol â’r rheini a ddisgwylir ar gyfer eu hoedran o leiaf, ac mae mwyafrif yn gadael gyda medrau uwchlaw’r rheini a ddisgwylir.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu datblygiad parhaus y model hwn ar sail sirol, consortiwm ac yn genedlaethol, trwy gyflwyniadau, ymgynghoriadau a gweithdai.