Creu diwylliant proffesiynol o ddisgwyliadau cyson uchel - Estyn

Creu diwylliant proffesiynol o ddisgwyliadau cyson uchel

Arfer effeithiol

Lliswerry High School


Cyd-destun

Ysgol gymunedol gymysg 11-19 cyfrwng Saesneg yw Ysgol Uwchradd Llysweri, sy’n gwasanaethu ardaloedd preswyl ar ochr ddwyreiniol Casnewydd.  Mae tua 800 o ddisgyblion ar y gofrestr gydag oddeutu 150 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth.

Mae tua 31% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 29% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol ac mae gan bron i 3% o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.

Mae tua 23% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Mae’r gyfran hon yn sylweddol uwch na chyfartaledd yr awdurdod lleol.  Mae un deg chwech y cant o ddisgyblion ar gyfnod caffael iaith A neu B Llywodraeth Cymru; nid oes gan rai o’r disgyblion hyn unrhyw brofiad blaenorol o addysg.  Mae gan yr ysgol ddisgyblion o ystod eang o gefndiroedd ethnig.  Nid yw tua 15% o ddisgyblion o gefndir gwyn Prydeinig.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.

Mae’r tîm arweinyddiaeth yn cynnwys y pennaeth, sydd wedi bod yn ei swydd er mis Medi 2017, dirprwy bennaeth a ymunodd â’r ysgol yn 2013, a dau bennaeth cynorthwyol.  Ymunodd y pennaeth cynorthwyol sydd â chyfrifoldeb am addysgu a dysgu â’r ysgol ym mis Ebrill 2014.

Strategaeth a chamau gweithredu

Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae uwch arweinwyr ac arweinwyr canol wedi canolbwyntio’n ddiflino ar wella addysgeg a chreu diwylliant o ddisgwyliadau cyson uchel ar gyfer addysgu a dysgu.  Mae arweinwyr wedi egluro a chryfhau eu disgwyliadau gofynnol o arfer yn yr ystafell ddosbarth a chyfrifoldebau ar y cyd.  Mae arweinwyr wedi darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol perthnasol ac amserol ar gyfer staff ac maent wedi bod yn ofalus i beidio â gorlethu staff â gormod o newid.

Mae diwylliant arfarnol cryf yr ysgol wedi galluogi arweinwyr i farnu cryfderau a meysydd i’w datblygu yn onest, a nodi anghenion dysgu proffesiynol yn gywir.

Mae gan yr ysgol gynllun tair blynedd manwl ar gyfer gwella addysgu.  Mae hwn yn amlinellu cyfleoedd wedi eu cynllunio ac sy’n amserol i gyflwyno strategaethau newydd i sicrhau cynnydd gwell ar gyfer dysgwyr.  Y prif ffocysau ar gyfer gwella addysgu dros y ddwy flynedd ddiwethaf oedd cyflwyno acronym addysgegol i sicrhau cyflymdra a her, ochr yn ochr ag ystod o strategaethau i herio’r credoau sylfaenol am ddysgu a deallusrwydd a bennwyd ymlaen llaw.  Mae pob un o’r staff addysgu yn glir am eu cyfrifoldebau ar y cyd o ran addysgeg a’u hatebolrwydd personol o fewn y system.

Mae pob un o’r staff yn aelodau o un o rwydweithiau dysgu proffesiynol yr ysgol.  Mae’r rhwydweithiau hyn yn defnyddio ymchwil weithredu i wella agweddau ar addysgu.  Mae’r rhwydweithiau’n dilyn arweiniad Llywodraeth Cymru (Llywodraeth Cymru, 2013) i sicrhau eu bod yn canolbwyntio’n briodol ac y gallant ddangos effaith eu gwaith.  Mae rhwydweithiau diweddar wedi canolbwyntio ar flaenoriaethau cenedlaethol yn ogystal â blaenoriaethau’r ysgol.  Mae pob rhwydwaith yn ysgrifennu adroddiad am eu canfyddiadau, y maent yn ei rannu â phob un o’r staff.  Mae arweinwyr yn ystyried deilliannau ymchwil weithredu’r rhwydweithiau pan fyddant yn adolygu polisi a dulliau’r ysgol.  Oherwydd bod uwch arweinwyr yn ystyried safbwyntiau staff, maent yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys mewn gwella’r ysgol, a gwerthfawrogir eu barn broffesiynol. 

Mae staff yn cymryd rhan mewn sesiynau dysgu arfer ar y cyd hefyd.  Hyfforddi cymheiriaid yw hyn gan ddefnyddio model GROW ac mae hefyd yn ymgorffori agweddau ar astudio mewn gwersi.  Mae cydweithwyr yn cytuno ar ffocws, yn cynorthwyo ei gilydd wrth iddynt baratoi gwelliannau ac yn myfyrio ar arfer ystafell ddosbarth trwy hyfforddi cymheiriaid.  Trwy gymunedau dysgu a grwpiau dysgu arfer ar y cyd, anogir athrawon i ddefnyddio tystiolaeth a defnyddio arfer effeithiol brofedig.  Mae ystod y cymorth sydd ar gael i’r grwpiau yn cynnwys technoleg fideo i gofnodi gwersi a llyfrgell ddysgu gyda chyhoeddiadau perthnasol a chyfle i ymchwilio.

Mae’r ysgol yn cynllunio’i gweithgareddau dysgu proffesiynol yn ofalus iawn.  Mae arweinwyr yn sicrhau bod gan staff yr adnoddau angenrheidiol i gefnogi eu dysgu.  Mae’r arfarnu yn drylwyr a gonest.  Mae pob un o’r staff yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys ac maent yn gwybod bod eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi.  Maent yn deall eu cyfrifoldeb i wella eu haddysgu.  Mae staff yn trafod eu rhan yn y gweithgareddau hyn yn ystod sesiynau rheoli perfformiad sy’n cysylltu â’r safonau proffesiynol newydd.

Mae prosesau arfarnu yn cynnwys olrhain a monitro trylwyr i gynorthwyo a herio pob un o’r staff.  O ganlyniad i weithgareddau hunanarfarnu rheolaidd a thrylwyr, mae gan bob athro broffil addysgu a dysgu personol.  Mae uwch arweinwyr ac arweinwyr canol yn trafod y proffiliau personol mewn cyfarfodydd rheolwyr llinell i ddathlu cryfderau a nodi cyfleoedd dysgu proffesiynol priodol.  Mae staff yn gwerthfawrogi’r rhain gan eu bod yn gwerthfawrogi’r cyfle i siarad am eu harfer a natur bwrpasol y cyfleoedd dysgu proffesiynol manwl gywir a gynigir.  Mae gan bob adran broffil addysgu a dysgu hefyd, sy’n cynorthwyo arweinwyr canol i deilwra eu cynlluniau gwella yn unol â hynny.  Mae addysgu a dysgu yn eitem ar yr agenda ym mhob cyfarfod rheolwyr llinell a chyfarfod adrannol.

O ganlyniad i’r gweithgareddau hunanarfarnu trylwyr a manwl hyn a thrafodaethau rheolwyr llinell, gall yr ysgol gynllunio ac amlinellu gweithgarwch dysgu proffesiynol buddiol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Deilliannau

Adeg yr arolygiad yn 2013, roedd athrawon yn frwdfrydig ac roedd ganddynt ddisgwyliadau uchel o ymddygiad a safonau gwaith disgyblion mewn tua hanner o wersi yn unig.  Yn 2017, mae ansawdd yr addysgu wedi gwella’n sylweddol fel y dangosir gan ganlyniadau arsylwadau gwersi, craffu ar waith disgyblion a chan ymatebion staff a disgyblion i arolygon cyfadrannau am ansawdd addysgu a dysgu. Mae deilliannau disgyblion wedi gwella hefyd; er enghraifft yn 2017, mae’r ysgol yn y chwarter uchaf o ysgolion tebyg sy’n seiliedig ar gymhwyster disgyblion am brydau ysgol am ddim ar gyfer lefel 2, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (Llywodraeth Cymru, 2017c).

Mae disgyblion yn gryf o’r farn fod addysgu ac ymddygiad wedi gwella’n sylweddol yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.  Mae athrawon yn hynod werthfawrogol o’r gweithgareddau dysgu proffesiynol sydd ar gael iddynt a’r modd y mae’r ysgol yn cefnogi eu datblygiad personol yn llwyddiannus.

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

  • Ymgorffori cyfrifoldebau ar y cyd ar gyfer pob un o’r staff sy’n deillio o ddiwrnodau dysgu proffesiynol ac yn cysylltu’n benodol â meddylfryd twf a datblygu llafaredd
  • Datblygu llais y dysgwr trwy ddeialogau tymhorol am addysgu
  • Datblygu edrych ar lyfrau trwy sgwrsio â dysgwyr
  • Ymgorffori iaith y 12 egwyddor addysgegol
  • Cyflwyno proffiliau addysgu a dysgu personol ar gyfer staff cymorth (gan adlewyrchu staff addysgu) i’w galluogi i gymryd perchnogaeth o’u dysgu a’u datblygiad proffesiynol