Creu diwylliant o welliant i ‘wneud hyd yn oed yn well’.
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol / darparwr
Mae Ysgol Gynradd Romilly yn Y Barri yn awdurdod lleol Bro Morgannwg. Mae rhwng 680 a 750 o ddisgyblion ar y gofrestr rhwng 3 ac 11 oed, trwy gydol y flwyddyn. Mae 21 dosbarth oedran unigol yn yr ysgol, gyda 4 dosbarth meithrin rhan-amser yn darparu ar gyfer 130 o ddisgyblion. Mae 22 o athrawon amser llawn ac wyth o athrawon rhan-amser, gyda thros 70 o staff addysgu a dysgu i gyd.
Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion o dras gwyn Prydeinig ac yn dod o gartrefi lle siaredir Saesneg fel y brif iaith. Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd. Cyfartaledd treigl tair blynedd disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw tua 15%. Mae hyn yn is na’r ffigur cenedlaethol, sef 22%. Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 4.5% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn is na’r ffigur cenedlaethol, sef 16.1%. Mae tua 3% o’r disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae arweinwyr yn Ysgol Gynradd Romilly wedi buddsoddi yn nysgu a datblygiad proffesiynol pob un o’r staff addysgu, gan eu bod yn cydnabod mai hyn sy’n cael yr effaith fwyaf ar ‘gau’r bwlch’ ar gyfer y disgyblion hynny sy’n byw mewn tlodi, ac yn sicrhau darpariaeth deg i bawb.
Yn Ysgol Gynradd Romilly, mae arweinwyr a staff yn credu mai ‘cwricwlwm’ yw addysgu a dysgu. Yn sgil y newidiadau a ysgogwyd gan Gwricwlwm i Gymru, gofynnodd arweinwyr gwestiynau iddyn nhw eu hunain fel, ‘Ydym ni’n gwneud y peth iawn?’, ‘Sut beth yw asesu nawr?’ ‘A oes angen mwy o ddysgu yn yr awyr agored arnom ni?’ Nodon nhw hefyd fod angen profiadau dysgu mwy dilys ar ddisgyblion, yn cynnwys defnyddio tripiau ac ymwelwyr. Cydnabu arweinwyr a staff mai’r agwedd bwysicaf ar waith yr ysgol yw cael yr addysgu a’r dysgu’n gywir a chadw gwerthoedd a chredoau ar y cyd yr ysgol.
Mae’r ysgol yn aros yn driw i’w gweledigaeth, sef; ‘Sicrhau rhagoriaeth mewn mynediad, agweddau a chyflawniad’, a ymgorfforir yn ei datganiad cenhadaeth, sef ‘Dysgu, tyfu a llwyddo, gyda’n gilydd’. Mae arweinwyr yn credu y bydd pob un o’r athrawon a’r staff dysgu yn cyflwyno addysgu a dysgu rhagorol gyda’r diwylliant a’r cymorth cywir, ac y gallant wneud hynny; trwy ystyried bod datblygiad proffesiynol yn hawl i bawb, gan annog arloesi.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Yn Ysgol Gynradd Romilly, mae arweinwyr yn cydnabod efallai na fydd strategaeth wella sy’n gweithio mewn un ysgol yn gweithio yng nghyd-destun ysgol arall, a bod angen ei theilwra i anghenion unigol ei staff a’r disgyblion.
Mae ethos arweinyddiaeth yn Ysgol Gynradd Romilly yn ymwneud â ‘bygythiad isel, her uchel’, sy’n helpu datblygu’r ymddiriedaeth sydd ei hangen ar gyfer twf personol a phroffesiynol staff. Mae arsylwadau gwersi gan y tîm arweinyddiaeth wedi cael eu disodli â theithiau dysgu ac arsylwadau athrawon mewn triawdau, yn ogystal ag athrawon yn ffilmio’u hunain ac yn myfyrio ar eu harfer. Mae pob un o’r rhain yn canolbwyntio ar feysydd penodol i’w gwella. Mae athrawon yn rhoi gwybod i’r tîm arweinyddiaeth am y meysydd yr hoffent gael adborth a chymorth arnynt. Wedyn, mae arweinwyr yn rhoi cyfle i athrawon ailaddysgu’r gwersi ac adolygu sut mae’r newidiadau hyn wedi effeithio ar gynnydd disgyblion. Mewn llawer o achosion, mae athrawon yn rhannu eu harfer fwyaf effeithiol gyda’u cydweithwyr trwy lyfrgell addysgu electronig. Mae platfform y llyfrgell addysgu yn gronfa adnoddau o arfer effeithiol i athrawon ac athrawon cymorth allu manteisio arni i weld sut beth yw gweithredu da, a nodi at bwy y gallant droi os oes eisiau cymorth arnynt mewn maes penodol. Mae’r math o arfer y bydd staff yn ei rhannu yn amrywio o ddefnydd effeithiol o’r arwydd aros tawel ac arferion ystafell ddosbarth buddiol, a ffyrdd o ddatblygu agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu trwy asesu cyfoedion, hunanasesu, modelu tawel, siarad â phartneriaid, seibiannau byr, a holi o ansawdd da.
Caiff effaith addysgu ar ddysgu a chynnydd ei monitro a’i gwerthuso trwy gydol y flwyddyn trwy drafodaethau proffesiynol, bwrw golwg ar lyfrau, gwrando ar ddysgwyr, teithiau dysgu, fideos, a thrafod data yn ystod cyfarfodydd cynnydd. Mae’r tîm arweinyddiaeth, yn ogystal â staff a llywodraethwyr, yn ymgymryd â’r gweithgareddau hyn. Cyflwynir hyfforddiant i staff a llywodraethwyr ar sut i fwrw golwg ar lyfrau, a’r mathau o gwestiynau i’w gofyn i ddisgyblion yn ystod sesiynau gwrando ar ddysgwyr, i weld a ydynt yn deall eu dysgu a beth yw’r camau nesaf.
Bob blwyddyn, mae arweinwyr yn rhoi cyfle i athrawon benderfynu ar faes yr hoffent ymchwilio iddo, y bydd eu disgyblion yn elwa arno, yn eu barn nhw. Maent yn gweithio’n unigol neu mewn timau. Maent yn rhannu effaith eu hymchwil weithredu gyda’u cydweithwyr a’u llywodraethwyr ar adegau amrywiol yn ystod y flwyddyn, yn cynnwys llwyddiannau a methiannau’r mentrau y maent wedi’u treialu. Mae ffocws eu hymchwil wedi cynnwys cynyddu annibyniaeth ym Mlwyddyn 6, gwella ansawdd asesu cymheiriaid, gwella presenoldeb grwpiau bregus, a datblygu lleferydd ac iaith yn y blynyddoedd cynnar. Rhaid iddynt roi rhesymeg ynglŷn â pham maent wedi dewis y maes hwn, ynghyd â sail dystiolaeth i’w gyfiawnhau, ynglŷn ag anghenion unigol y disgyblion sydd ganddynt yn eu dosbarth.
Nid gweithgarwch tymhorol yn unig yw monitro effaith addysgu ar ddysgu’r disgyblion, mae’n hanfodol i bopeth a wnânt.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae addysgu a phrofiadau dysgu ar draws yr ysgol yn gryf. Mae’r staff yn rhoi adborth ar lafar o ansawdd uchel i ddisgyblion i’w hannog i feddwl yn ddyfnach a’u sbarduno i fyfyrio ar ansawdd eu gwaith ar draws meysydd y cwricwlwm. Er enghraifft, o ganlyniad i adborth ffocysedig ac amserol, mae safonau ysgrifennu disgyblion wedi gwella’n sylweddol.
Ceir diwylliant cryf o hunanwella a myfyrio yn yr ysgol. Mae creu amser a chyfleoedd o ansawdd uchel i bob un o’r staff gydweithio, myfyrio ar eu harfer, a’i gwella er budd disgyblion, wedi cyfrannu’n gryf at gyflawni safonau lles uchel a gwelliannau sylweddol i ansawdd yr addysgu.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae gan Ysgol Gynradd Romilly gysylltiadau cryf â’r ysgol uwchradd leol. Gyda’i gilydd, maent wedi cydweithio i ymestyn dysgu proffesiynol eu staff eu hunain a staff yr ysgol uwchradd ymhellach, trwy rannu arfer ragorol ar draws y lleoliadau. Mae hon yn broses ddatblygiadol ddwy ffordd, lle mae staff yn arsylwi athrawon yn lleoliadau ei gilydd i ddysgu a chael syniadau y gallant eu defnyddio’n ddiweddarach yn eu dosbarthiadau eu hunain o fewn eu hysgolion eu hunain.
Mae’r ysgol yn cefnogi ysgolion eraill o fewn y consortiwm i helpu datblygu darpariaeth deg a gwella ansawdd yr adborth i gyflymu cynnydd disgyblion. Gwnaed hyn trwy deithiau dysgu, rhannu dysgu a deialog broffesiynol a chynllunio gwelliant.