Creu diwylliant o fyfyrio a dysgu proffesiynol - Estyn

Creu diwylliant o fyfyrio a dysgu proffesiynol

Arfer effeithiol

Hafod Primary School


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Hafod yn Abertawe, ger canol y ddinas.  Mae 247 o ddisgyblion ar y gofrestr, rhwng 3 ac 11 oed.  Mae disgyblion wedi eu trefnu’n saith dosbarth.  Mae’r ysgol yn darparu cyfleusterau meithrin ar gyfer 36 o blant tair a phedair oed sy’n mynychu’r ysgol yn rhan-amser i ddechrau.  Yn ychwanegol, mae’r ysgol yn rheoli darpariaeth Dechrau’n Deg ar y safle.  Mae tua 29% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim. 

Mae tua 60% o’r disgyblion yn wyn Prydeinig.  Mae 40% o’r disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Mae mwyafrif o’r disgyblion hyn o dreftadaeth Asiaidd, Bangladeshaidd yn bennaf.  Siaredir 15 o ieithoedd gwahanol gan ddisgyblion, a’r mwyaf cyffredin o’r rhain yw Sylheti.  Nid oes unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.

Mae gan ryw 35% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae gan rai disgyblion ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig.

Mae’r pennaeth presennol wedi bod yn ei swydd er 2006.  Mae’r dirprwy bennaeth wedi bod yn ei swydd am gyfnod tebyg. 

Strategaeth a chamau gweithredu

Mae llawer o lwyddiant yr ysgol wrth ddatblygu cwricwlwm bywiog a gwella addysgeg addysgu wedi digwydd o ganlyniad i hirhoedledd, cysondeb a chreadigrwydd arweinwyr yr ysgol.  Mae arweinwyr yn adnabod eu disgyblion a’u staff yn eithriadol o dda ac yn creu hinsawdd sy’n annog cymorth, creadigrwydd ac arloesedd ar y ddwy ochr.  

Yn ddiweddar, mae’r ysgol wedi arfarnu ei darpariaeth i sicrhau ei bod wedi paratoi’n llawn ar gyfer y newidiadau i’r cwricwlwm sydd ar y gweill.  Fel rhan o’r gwaith hwn, mae wedi aildrefnu’r uwch dîm arweinyddiaeth i ymgorffori swyddi cyfrifoldeb addysgu a dysgu ar gyfer llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.  Mae wedi datblygu timau ac unigolion sydd â chyfrifoldeb am oruchwylio’r chwe maes dysgu, yn ogystal â staff sydd â chyfrifoldeb am asesu ar gyfer dysgu a sicrhau parhad yn nysgu disgyblion o 3-16 oed.  Er bod timau ar gyfer pob maes dysgu, nid yw’r ysgol yn galluogi staff i weithio ar eu pen eu hunain.  Mae monitro a datblygiad staff effeithiol gan uwch arweinwyr, er enghraifft ar ddiwrnodau dysgu proffesiynol, yn sicrhau bod y meysydd dysgu a dull addysgegol yr ysgol yn parhau yn gysylltiedig.

Mae uwch arweinwyr, arweinwyr meysydd dysgu penodol a’u timau yn arfarnu’r cwricwlwm a’i effaith ar ddysgu trwy galendr o weithgareddau monitro sydd wedi’i gynllunio’n ofalus.  Mae’r rhain yn cynnwys craffu ar lyfrau, arsylwadau gwersi ac, yn fwy diweddar, teithiau dysgu.  Mae’r gwaith hwn wedi nodi camau nesaf clir a phriodol.  Er enghraifft, mae’r tîm cymhwysedd digidol yn deall, er bod medrau cyflwyno a medrau creadigol disgyblion yn gryf, ei bod yn ddyddiau cynharach o ran datblygu gwaith sy’n ymwneud â thrin data.  Mae arweinwyr wedi nodi hefyd fod gormod o waith yn llyfrau disgyblion yn gywir, sy’n golygu nad yw’n herio pob disgybl yn ddigon da yn gyson.  Fe wnaethant nodi na wnaeth eu system olrhain electronig fodloni ei hangen mewn perthynas â llywio camau nesaf disgyblion ar gyfer dysgu yn ddigon da.  Fe wnaethant hefyd nodi problemau â defnyddio’r system i sicrhau trylwyredd yng nghywirdeb asesiadau.  Mae’r ysgol yn gweithio i fynd i’r afael â hyn trwy ddatblygu model asesu newydd.

Mae arweinwyr yn ymgymryd â gweithgareddau monitro tebyg i arfarnu ansawdd yr addysgu.  Trwy’r gwaith hwn, maent yn nodi agweddau ar arfer broffesiynol y mae angen eu gwella ar lefel ysgol gyfan ar gyfer pob un o’r athrawon, yn ogystal â chryfderau a meysydd i’w datblygu ar gyfer athrawon unigol.  I fynd i’r afael â blaenoriaethau gwella ysgol gyfan, mae’r ysgol yn dechrau defnyddio ymchwil weithredu yn effeithiol.  Er enghraifft, ar ôl nodi asesu ar gyfer dysgu ac adborth yn faes i’w wella, dyrannodd arweinwyr gyfrifoldeb am wella i athro.  Defnyddiodd hyn fel rhan o’i waith meistr.  Dechreuodd y gwaith â rhagdybiaethau ac adolygiad llenyddol.  Yn yr achos hwn, canolbwyntiodd y darllen ar b’un a oedd plant pump a chwech oed yn gallu arfarnu eu cynnydd eu hunain yn effeithiol.  Arweiniodd hyn at ddatblygu ystod o feini prawf llwyddiant parhaol i helpu grŵp o chwe disgybl arfarnu agweddau ar eu gwaith ysgrifenedig, er enghraifft atalnodi.  Canfu’r ymchwil fod y gwaith hwn yn effeithiol o ran cynorthwyo disgyblion i arfarnu eu gwaith eu hunain.  Ers yr arbrawf cychwynnol, mae’r canfyddiadau wedi dylanwadu ar bolisïau asesu ar gyfer dysgu a marcio’r ysgol gyfan.  Mae’r ysgol yn adolygu effaith bellach y gwaith hwn yn gyson.

Mewn gwaith ymchwil arall, ymunodd yr arweinydd mathemateg â chydweithwyr o bob cwr o Gymru i nodi meysydd o’r pwnc yr oedd disgyblion yn cael trafferth eu deall.  Fe wnaethant nodi medrau rhesymu a’r anawsterau roedd disgyblion yn eu cael yn datrys problemau yn annibynnol.  Cawsant syniad i ddefnyddio mapiau stori i helpu datrys y problemau.  Arbrofodd pob athro yn y grŵp â’r strategaeth gyda hanner y disgyblion yn eu dosbarth.  O ganlyniad, roedd y deilliannau ychydig yn well ar gyfer disgyblion targedig.  Mae arweinwyr yn Ysgol Hafod yn sicrhau bod staff yn cael amser i rannu canfyddiadau eu gwaith er mwyn trafod y manteision, ac unrhyw beryglon.  Mae hyn yn cefnogi diwylliant o fyfyrio a dysgu proffesiynol yn yr ysgol.  Mae’r ysgol yn ymwybodol o’r angen i arbrofi â’r mentrau hyn yn fanylach i wneud y canfyddiadau’n ddibynadwy.  Mae’r math hwn o waith yn helpu’r ysgol i roi ystyriaeth dda i’r safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.  Er enghraifft, mae uwch arweinwyr yn sicrhau bod pob un o’r athrawon yn cael cyfleoedd i arloesi, cydweithio ac arwain mentrau sy’n effeithio ar arferion addysgu ac addysgegol yr ysgol yn gadarnhaol.

Mae monitro gwaith o arsylwadau gwersi a chraffu ar lyfrau yn sicrhau bod arweinwyr yn cadw golwg agos ar lefelau cydymffurfio â mentrau yn ogystal ag ar eu heffaith.  Mae hyn yn galluogi iddynt herio staff yn effeithiol.  Er enghraifft, mae arweinwyr yn defnyddio system nodiadau post-it i nodi cryfderau neu wendidau penodol yng ngwaith athrawon wrth graffu ar lyfrau.  Mae hyn yn dangos i athrawon bod arsylwadau arweinwyr wedi’u seilio ar dystiolaeth.  Mae deialogau proffesiynol unigol sydd wedi’u seilio ar y ffynonellau tystiolaeth uniongyrchol hyn hefyd yn sicrhau bod gan athrawon unigol dargedau clir ar gyfer gwella.  Y targedau hyn, yn ogystal â thargedau addysgu ysgol gyfan, fydd nodau rheoli perfformiad athrawon yn y pen draw.

Mae disgyblion yn gwneud cyfraniad cryf at waith hunanarfarnu a chynllunio gwelliant.  Er enghraifft, maent yn cymryd rhan mewn arsylwadau gwersi ac yn gwneud arfarniadau addas.  Mae hyn wedi creu awgrymiadau diddorol ar gyfer gwella, er enghraifft trwy nodi bod angen i gynorthwywyr addysgu ymgysylltu’n fwy rhagweithiol â disgyblion mewn rhai achosion yn ystod profiadau dysgu. 

Mae arweinwyr yn hyderus iawn yn y penderfyniadau a wnânt am strategaethau addysgu yn yr ysgol.  Maent yn gwybod beth sy’n gweddu orau i’w dysgwyr.  Er enghraifft, maent wedi cyflwyno dull ffurfiol o addysgu ffoneg sy’n seiliedig ar gynllun cyhoeddedig. Maent wedi hyfforddi pob un o’r staff i ddefnyddio hyn yn effeithiol.  Mae hyn wedi arwain at ddeilliannau gwell ar gyfer disgyblion yn eu gallu darllen ac asesiadau athrawon ar ddiwedd cyfnodau allweddol.  Mae arweinwyr yn gwrthod arweiniad gan bartneriaid allanol i ddiwygio’r dull hwn gan fod eu hunanarfarniad eu hunain yn nodi bod yr arfer hon yn effeithiol. 

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

  • Cyflwyno arsylwadau fideo o addysgu i gefnogi twf proffesiynol
  • Ystyried gydag athrawon fanteision a rhwystrau athrawon yn arsylwi eu dosbarth eu hunain yn ystod eu hamser cynllunio, paratoi ac asesu i lywio eu hasesiad o unigolion a grwpiau o ddisgyblion
  • Datblygu medrau digidol disgyblion ymhellach
  • Cynyddu lefel yr her ar gyfer disgyblion mwy abl

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn