Creu cysylltiadau teuluol rhwng y cartref a’r ysgol

Arfer effeithiol

Ysgol Maes Hyfryd Special School


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Maes Hyfryd yn ysgol arbennig sydd wedi’i lleoli yn Fflint ac a gynhelir gan awdurdod lleol Sir y Fflint.  Mae’n gwasanaethu Sir y Fflint gyfan ac mae hefyd yn darparu ar gyfer nifer o leoliadau o’r tu allan i’r sir.  Mae’r ysgol wedi’i lleoli ar yr un safle ag Ysgol Uwchradd y Fflint ac mae’n rhannu ychydig o’i chyfleusterau.

Mae’r ysgol yn darparu addysg i ddisgyblion 11 i 19 oed sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig.  Mae’r anghenion hyn yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer anhwylderau ar y sbectrwm awtistig, iaith, lleferydd a chyfathrebu, ac anawsterau dysgu cymedrol, difrifol a dwys.  Ar hyn o bryd, mae 110 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae 44% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Daw bron bob un o’r disgyblion o gartrefi lle’r Saesneg yw’r brif iaith a siaredir.

Mae’r ysgol yn gymuned gynhwysol sy’n canolbwyntio ar les a chynnydd pob plentyn a lle rhoddir yr un pwys cyfartal ar bob aelod o’r gymuned.  Mae Maes Hyfryd yn hyrwyddo parch tuag at wahaniaeth ac amrywiaeth trwy weledigaeth, ethos a gwerthoedd yr ysgol, sy’n sylfaen i’r cyfan a wna’r ysgol o ddydd i ddydd.  Nod yr ysgol yw sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd ei botensial llawn yn y pedair agwedd ar ei gweledigaeth: lles, agwedd, gwybodaeth a medrau.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae staff a llywodraethwyr yr ysgol yn ymroi i ddarparu addysg o’r ansawdd gorau posibl wrth fodloni anghenion unigol amrywiol disgyblion, fel eu bod yn adeiladu ar y medrau y mae eu hangen ar gyfer eu lle mewn cymdeithas yn y dyfodol.  Er mwyn rhoi’r cyfleoedd hyn i’n disgyblion, mae’r ysgol yn buddsoddi llawer o amser ac ymrwymiad mewn gwaith gyda rhieni, gofalwyr a theuluoedd, a’r gymuned i gefnogi lles ac annibyniaeth disgyblion yn uniongyrchol.  Mae’r ysgol yn gosod blaenoriaeth ar annibyniaeth disgyblion yn ei chwricwlwm ac mae’n ystyried bod y gwaith gyda’r gymuned yn rhan annatod o hyn.

Y Weledigaeth:

Daeth y weledigaeth o ddarparu profiadau gwerthfawr yn gysylltiedig â gwaith yn flaenoriaeth allweddol i Faes Hyfryd er mwyn ehangu cyfleoedd disgyblion a chynllunio at eu dyfodol.  O ganlyniad, penodwyd cydlynydd profiad gwaith i ddarparu lleoliadau gwaith llwyddiannus ac ystyrlon i lawer o ddisgyblion.  Mae’r gefnogaeth ehangach helaeth yn y gymuned wrth ddarparu profiadau dysgu yn gysylltiedig â gwaith wedi bod yn allweddol i’r llwyddiant hwn.

Yn dilyn llwyddiant y lleoliadau gwaith, fe wnaethom nodi angen â blaenoriaeth am rôl ‘Hyfforddwr Teithio’ i adeiladu ar y medrau annibyniaeth y rhoddodd agwedd profiad gwaith y cwricwlwm i’n disgyblion.  Darparodd y rôl hon ar gyfer aelod staff pwrpasol i gynorthwyo disgyblion i ddatblygu’u gallu i fanteisio ar gynlluniau teithio annibynnol i gynyddu’u potensial i chwarae rhan lawn yn eu cymuned.  Yn y rhan lawnach hon, mae disgyblion yn defnyddio cyfleusterau hamdden fel y sinema leol, siopau a pharc manwerthu, yn ogystal â’r gallu y mae mawr ei angen i fanteisio ar leoliadau profiad gwaith a choleg yn y dyfodol.  Bu llwyddiant y rôl hon i’w gweld mewn llawer o agweddau ar yr ysgol, yn enwedig yn y rhaglen 14-19, lle y mae mwyafrif y disgyblion yn manteisio ar y cymorth hwn.  Bellach, mae llawer o ddisgyblion yn teithio’n annibynnol i’w lleoliad gwaith ac ohono, i’w darparwr coleg ac i’w cyfleusterau lleol; ni wnaethant hyn cyn i rôl yr ‘Hyfforddwr Teithio’ ddechrau. 

Hefyd, nododd yr ysgol yr angen i gyflwyno gweithiwr ymgysylltu â’r teulu i ddatblygu ymhellach y gwaith gyda rhieni, teuluoedd ac amrywiaeth o ddarparwyr amlasiantaeth.  Trwy’r rôl hon, caiff asiantaethau allanol a theuluoedd aelod staff diduedd a all ddarparu gwybodaeth, cymorth a hyfforddiant, a bod yn gyswllt allweddol rhwng yr ysgol, asiantaethau a theuluoedd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

O ganlyniad i angerdd Maes Hyfryd i wella cyfleoedd dysgu a lles disgyblion yn barhaus, mae ymagwedd yr ysgol at ei chwricwlwm a’r penderfyniad i greu rolau’r tu allan i’r dosbarth i ategu twf gwaith yn ymwneud â’r gymuned ac annibyniaeth, a chysylltiadau â theuluoedd, wedi bod yn arloesol. 

I ddechrau, cafodd cydlynydd profiad gwaith ei gyflogi i gynllunio a threfnu lleoliadau profiad gwaith addas i fodloni dyheadau’r disgyblion a rhoddwyd rhwydweithiau cymorth staff ar waith fel bo’r angen i sicrhau profiadau cadarnhaol i’r disgyblion.  Ychydig flynyddoedd yn ôl, cyflwynodd yr ysgol rôl ‘Gweithiwr Ymgysylltu â’r Teulu’ a’i phwrpas oedd cydgysylltu â theuluoedd ac amlasiantaethau, fel prif bwynt cyswllt.  Hefyd, cafodd cydlynydd hyfforddwr teithio ei gyflogi i alluogi disgyblion i ddatblygu medrau pwysig teithio a diogelwch ffordd er mwyn manteisio ar gyfleusterau cymunedol yn annibynnol ac yn ddiogel.  Mae’r hyfforddwr teithio’n gweithio’n agos gyda’r cydlynydd profiad gwaith, fel y gall lleoliadau a theithio annibynnol ddigwydd i’r gwaith ac ohono i wella annibyniaeth, hyder a hunan-barch disgyblion. 

Y gweithiwr ymgysylltu â’r teulu – FEW:  mae wedi datblygu rhaglen o gymorth teuluol i alluogi rhieni i gynorthwyo’u plentyn â’i ddysgu yn effeithiol.  Mae’r cymorth hwn wedi meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda theuluoedd ac wedi datblygu ymhellach y cysylltiad rhwng y cartref a’r ysgol.  Mae wedi annog rhieni, gofalwyr a theuluoedd i ddod yn rhan weithgar yng nghymuned yr ysgol.  Mae’r rôl yn cynnwys cynorthwyo â’r rhaglen bontio, cwrdd â’r teuluoedd cyn bod y disgyblion yn ymuno ag Ysgol Maes Hyfryd drwy ymweliadau â’r cartref, nosweithiau agored yr ysgol ac ymweliadau â’r ysgol.

Mae’r ‘FEW’ yn rhwydweithio’n llwyddiannus gydag amrywiaeth eang o asiantaethau allanol fel iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol, y tîm o gwmpas y teulu a sefydliadau gofal seibiant, gan ddatblygu a chynnal perthnasoedd gweithio da.  Trwy weithio ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr iechyd proffesiynol, mae’r FEW yn mynychu’r grŵp craidd, cynadleddau achos a chyfarfodydd cynllunio gofal a chymorth, gan sicrhau bod cymorth ar waith ar gyfer y teuluoedd.  Mae’r rôl hefyd yn cynorthwyo teuluoedd i recriwtio cynorthwywyr personol a chael gofal seibiant i’r disgyblion a’r teuluoedd, a chynorthwyo ag ymweliadau preswyl posibl ac ymweliadau posibl â cholegau, fel bo’r gofyn.

I wella a chefnogi hyder disgyblion a’u lle yn y gymuned y tu hwnt i’r ysgol, mae’r FEW hefyd yn cysylltu ag asiantaethau allanol fel Gweithredu dros Blant, Barnardo’s, Keyring, Cymunedau am waith a sawl un arall.  Yn ogystal, yn dilyn ymgynghoriad â rhieni, cyflwynwyd gweithdai i rieni ar raglen dreigl yn canolbwyntio ar agweddau allweddol ar ddatblygu’r ysgol a chipolygon i feysydd fel cyrsiau wedi’u hachredu.  Hefyd, mae’r FEW yn rhoi cymorth i deuluoedd mewn meysydd ehangach, fel llenwi ffurflenni grantiau, ymweliadau â’r cartref a chymorth ar gyfer pontio.

Hyfforddiant cludiant a phrofiad gwaith

Mae’r hyfforddwr teithio wedi hyfforddi disgyblion i lefel cymhwysedd sy’n golygu y gallant deithio’n annibynnol i leoliadau gwaith, i’r coleg ac i fanteisio ar eu cymuned leol.

Ar hyn o bryd, mae gan Ysgol Maes Hyfryd gysylltiadau â thros 20 o ddarparwyr gwaith lleol.  Mae’r ddarpariaeth hon wedi galluogi disgyblion i fynychu lleoliadau profiad gwaith ac mae nifer ohonynt wedi cyflawni swyddi rhan-amser yn y lleoliadau hyn o ganlyniad hefyd.  Mae pob lleoliad yn yr ardal leol ac mae llawer ohonynt yn cefnogi mentrau cymunedol fel caffi cymunedol Buzz, prosiect annibyniaeth Sidewalk a chaffi Age connects.  Mae disgyblion yn mwynhau gweithio ochr yn ochr â’r gymuned ac maent yn cymryd rhan mewn llawer o fentrau a phrosiectau ystyrlon.  Er enghraifft, wrth werthuso rhaglenni gwaith, mae staff o’r lleoliadau wedi datgan: ‘Ni fyddem wedi gallu darparu ar gyfer y grŵp heb eu cymorth nhw.’ ‘Rydym wrth ein bod yn cael y myfyrwyr ar gyfer profiad gwaith ac rydym yn dysgu ohonyn nhw, ac maen nhw’n dysgu am yr amgylchedd gwaith hefyd’. ‘Mae pawb sy’n dod i Share Mold, ac sy’n ddigon ffodus i gyfarfod â’r myfyrwyr hyn, wedi cael eu taro gan waith caled ac ymroddiad y myfyrwyr ym mhob tasg maen nhw’n eu cyflawni.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r rolau cyfunol hyn wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar berfformiad, lles ac annibyniaeth disgyblion, yn ogystal â chryfhau gwaith gyda rhieni, y gymuned ac asiantaethau allanol.  Er enghraifft, mae’r FEW wedi ymyrryd yn gynnar ar gyfer disgyblion y mae pryderon yn dod i’r amlwg am eu presenoldeb ac wedi helpu disgyblion sydd wedi bod yn absennol o’r ysgol am amser hir i ymgynefino eto, yn aml trwy ddarparu cymorth mentora unigol.  Trwy effeithiolrwydd y gweithiwr ymgysylltu â’r teulu, Ysgol Maes Hyfryd yw’r ysgol arbennig gyntaf yng ngogledd Cymru i gyflawni marc ansawdd cenedlaethol sy’n cydnabod y gwaith a wna gyda theuluoedd a’r gymuned.

Mae’r gweithdai i rieni a ddatblygwyd i gynorthwyo’r teuluoedd â’u plant wedi cael effaith gadarnhaol hefyd.  Mae hyn yn cynnwys gweithdai mewn amrywiol feysydd fel rheoli ymddygiad a ‘Sleep Tight’ i rieni â phlant sy’n cael trafferth ag arferion amser gwely a phatrymau cysgu.  Mae’r gweithdai hyn wedi cynnig arweiniad defnyddiol i rieni i reoli ymddygiad eu plant yn y cartref ac yn y gymuned, ac mae wedi cyfrannu at ddealltwriaeth gyffredin o ddisgwyliadau ynghylch ymddygiad.

Yn gyffredinol, mae’r hyfforddiant cludiant a rolau’r lleoliadau profiad gwaith wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr tu hwnt at symbyliad, cyrhaeddiad a dilyniant disgyblion yn y rhaglen 14-19 oed.  Er enghraifft, dros y tair blynedd diwethaf, mae nifer ac ystod y cymwysterau y mae disgyblion yn eu hennill wedi cynyddu ac mae’r holl ddisgyblion sy’n gadael yr ysgol wedi mynd ymlaen i addysg bellach a/neu i ddarpariaeth coleg arbenigol.  Yn bwysig, mae disgyblion wedi datblygu annibyniaeth a medrau bywyd gwerthfawr fel rhan o’r mentrau partneriaeth llwyddiannus hyn i wella ansawdd y ddarpariaeth sy’n helpu i ysgogi’r gwelliannau hyn.

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r fenter hon wedi’i chroesawu gan ddarparwyr coleg ac ysgolion prif ffrwd lleol trwy’r gwaith a’r arfer effeithiol y mae’r ysgol yn eu rhannu gyda nhw yn rheolaidd.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn