Creu cysylltiadau â’r gymuned leol
Quick links:
Gwybodaeth am y lleoliad
Mae Canolfan Deulu Dolgellau yn lleoliad cyfrwng Cymraeg sydd wedi ei gofrestru i ofalu am 48 o blant rhwng 0 – 11 blwydd oed. Mae’r lleoliad ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30 a 6 o’r gloch am 48 wythnos y flwyddyn. Mae mwyafrif y plant yn dod i mewn i’r lleoliad o gartrefi sy’n siarad Saesneg ac yn cael eu trochi yn y Gymraeg tra’n mynychu’r Cylch Meithrin. Cyflogir 19 o staff ac 1 rheolwr.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Mae’r Ganolfan yn cydweithio’n effeithiol gydag amryw o asiantaethau allanol i gefnogi datblygiad cyffredinol y plant. Mae wedi datblygu perthynas fuddiol gyda chartref yr henoed lleol ac mae plant o’r lleoliad wedi ymweld â nhw yn rheolaidd ers tair blynedd. Mae hyn wedi datblygu medrau cymdeithasol y plant yn llwyddiannus yn ogystal â gwella’u medrau llafar a’u hyder i ddefnyddio’r Gymraeg tu allan i’r lleoliad. Yn ogystal, mae’r profiadau gwerthfawr hyn yn datblygu dealltwriaeth y plant o’u cymuned leol ac yn dysgu nhw am bwysigrwydd parchu’r henoed. Mae’r sesiynau hyn hefyd yn dysgu’r plant am hanes eu hardal ac am fywyd pob dydd yn y gorffennol.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Cynhelir ymweliadau â’r cartref ymddeo yn fisol. Mae’r plant yn cael eu rhannu’n grwpiau o 8-10 ar y tro i ymweld, gyda phawb yn cael mynd yn ystod y tymor. Yn ogystal â chymdeithasu a datblygu eu defnydd o’r Gymraeg wrth sgwrsio â’r trigolion, mae’r plant yn cael cyfle i gadw’n heini trwy gerdded i’r cartref. Mae hyn yn gyfle da i’r plant arsylwi a gwerthfawrogi’r byd o’u cwmpas a sgwrsio â’r staff. Mae hyn hefyd yn gyfle da i ddysgu’r plant am ddiogelwch y ffordd. Tra yn y cartref, mi fyddant yn chwarae gemau sgwrsio a chanu rhigymau Cymraeg â’r trigolion. Maent yn rhannu eu profiadau gyda’i gilydd ac yn cael sgyrsiau am fywyd pob dydd. Mae staff y gegin yn paratoi byrbryd iachus ar eu cyfer sydd hefyd yn gyfle da i’r plant gymdeithasu. Yn ogystal â’r ymweliadau misol, pasiwyd yn unfrydol gan drigolion y cartref eu bod am wahodd holl blant y Cylch i’w parti nadolig. Mae hyn yn digwydd yn flynyddol a’r plant a’r henoed wrth eu boddau yn cymdeithasu a chanu.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae’r ymweliadau â chartref yr ymddeo yn datblygu medrau cymdeithasol, emosiynol ac ieithyddol y plant yn llwyddiannus iawn. Mae’r plant yn dysgu ac ymarfer caneuon a rhigymau traddodiadol Cymreig mewn ffordd hwylus a phwrpasol. Yn ogystal, mae ychydig o blant swil hefyd wedi magu hunanhyder i sgwrsio ag eraill trwy’r Gymraeg. Mae ychydig o’r henoed oedd ddim yn cymdeithasu ag eraill yn flaenorol yn edrych ymlaen at yr ymweliadau ac yn mwynhau dod i’r lolfa i ganu a chymdeithasu.
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?
Mae’r lleoliad yn adrodd yn ôl yn rheolaidd trwy swyddogion cyswllt Dechrau’n Deg a’r Mudiad Meithrin, yn ogystal ag athrawes ymgynghorol yr awdurdod lleol, er mwyn rhannu ei arferion da â lleoliadau eraill. Hefyd, caiff gwybodaeth ei rhannu gyda rhieni a’r cyhoedd trwy gyfryngau cymdeithasol yn ogystal â’r papur bro.