Creu amgylchedd meithringar i hyrwyddo datblygiad plant - Estyn

Creu amgylchedd meithringar i hyrwyddo datblygiad plant

Arfer effeithiol

Ysgol Nant y Groes Playgroup


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Lleoliad cyfrwng Saesneg yng nghanol Bae Colwyn, Conwy, yw Cylch Chwarae Nant y Groes, sydd wedi’i gofrestru i gymryd 42 o blant rhwng dwy a phedair oed.  Mae’r lleoliad drws nesaf i Ysgol Nant y Groes, ac mae’r rhan fwyaf o’r plant sy’n mynychu’r cylch chwarae yn symud ymlaen i’r dosbarth meithrin yno.  Mae saith aelod o staff.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan unigolyn cofrestredig a rheolwr y lleoliad weledigaeth glir i ddarparu gofal plant ac addysg o ansawdd uchel ar gyfer pob un o’r plant, sy’n diwallu anghenion unigol plant.  Maent yn credu’n gryf y dylid rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn, a cheisio cynorthwyo plant yn eu gofal yn eu holl feysydd lles, gan eu helpu i ddatblygu i’w llawn botensial a gweithio’n agos gyda theuluoedd.  Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod cymuned y lleoliad yn ardal ag amddifadedd cymdeithasol, ac mae’r lleoliad yn gweithio’n agos mewn partneriaeth ag asiantaethau proffesiynol, gan gynnwys Dechrau’n Deg.  Mae hyn wedi helpu i ddatblygu arbenigedd mewn cynorthwyo plant dros y blynyddoedd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae ymarferwyr yn Ysgol Nant y Groes yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau i reoli ymddygiad plant yn eithriadol o effeithiol.  Mae hyn yn golygu bod plant sy’n agored i niwed yn ymgyfarwyddo’n gyflym yn y cylch chwarae bob dydd, gallant wneud y gorau o’r rhan fwyaf o’r profiadau dysgu a gynigir, a gwnânt gynnydd da wrth ddatblygu ystod lawn o fedrau.

Ceir polisi ymddygiad clir yn y lleoliad, sy’n gysylltiedig â threfn gref a rhagweladwy.  Mae’r lleoliad yn gosod ffiniau cadarn ar gyfer plant, ac yn cadw at y rhain yn gyson.  Esbonnir disgwyliadau’n glir, a rhoddir cymorth cadarnhaol i helpu plant gydymffurfio â’r rhain.  Mae ymarferwyr yn dod i adnabod y plant yn dda, ac maent yn deall eu hanghenion a’u pryderon unigol.  Eu nod yw bod yn garedig a pharchus tuag at y plant bob amser, a gwybod sut i dynnu eu sylw’n briodol, eu cadw’n brysur a chynnal eu diddordeb.  Mae hyn yn rhoi ymdeimlad mawr i blant o fod yn ddiogel, ac yn eu helpu i ddatblygu amrywiaeth o fedrau personol a chymdeithasol yn effeithiol, fel dechrau dysgu cydweithredu â’i gilydd ac aros i gael tro â theganau fel y beiciau.   

Mae’r lleoliad wedi datblygu ei arbenigedd a’i ddealltwriaeth o anghenion unigol plant dros y blynyddoedd trwy fyfyrio personol ar ei arfer, a dysgu o hyfforddiant.  Mewn cyfarfodydd staff, caiff pryderon eu hadolygu am blant penodol yn rheolaidd, a gwneir penderfyniadau ynglŷn â’r hyn y gellir ei wneud i’w cynorthwyo orau.  Mae pob un o’r ymarferwyr yn gweithio’n sensitif ochr yn ochr â’r plant, gan ofalu eu bod yn eu cynorthwyo pan fydd angen cymorth arnynt, gan beidio ag ymyrryd yn rhy fuan.

Mae ymarferwyr yn gweithio’n agos gyda rhieni a gofalwyr i ddatblygu cynlluniau penodol ar gyfer plant unigol, sy’n darparu cymaint o barhad rhwng y cartref a’r lleoliad ag y bo modd.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Mae’r ymagwedd gref, gadarnhaol a chyson at reoli ymddygiad wedi creu ethos digynnwrf, effeithlon a pharchus yn y lleoliad, ac wedi galluogi plant sy’n agored i niwed i ffynnu.  Mae plant yn datblygu eu medrau personol a chymdeithasol yn dda, ar lefel sy’n ddatblygiadol briodol.  Er enghraifft, maent yn dechrau derbyn a pharchu’r ffiniau a osodir iddynt yn y lleoliad, ac i ddysgu rhannu’n briodol. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhannwyd arfer dda yn anffurfiol yn nigwyddiadau rhwydweithio’r awdurdod lleol.