Creu amgylchedd darllen cyfoethog ac ysgogol sy’n ennyn cariad at lyfrau ymhlith plant.
Quick links:
Gwybodaeth am y lleoliad
Mae’r lleoliad gwledig, anghysbell yn Nhrellech, a sefydlwyd ym 1973, wedi cael ei gyd-reoli gan yr arweinwyr presennol er 2020. Maent yn addysgwyr profiadol sy’n arwain tîm sydd ag ymrwymiad cryf i ddysgu a datblygiad mewn plentyndod cynnar.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Roedd taith y lleoliad tuag at ddatblygu darllen yn deillio o angerdd personol yr ymarferwyr am lyfrau, cred ym mhŵer trawsnewidiol llythrennedd cynnar ac arsylwadau o chwilfrydedd naturiol y plant tuag at adrodd storïau a llyfrau. Arweiniodd hyn at benderfyniad ymwybodol i greu amgylchedd meithringar, gyda chariad at ddarllen yn gonglfaen i ethos y lleoliad.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Pa effaith y mae’r gwaith wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?
Trwy ei ymagwedd, mae’r lleoliad wedi sylwi ar effaith sylweddol ar ddatblygiad plant:
Caffael Iaith a Dychymyg:
Mae ymarferwyr wedi sylwi bod plant yn defnyddio geiriau ac ymadroddion o lyfrau yn eu sgyrsiau bob dydd, gan ddangos geirfa ehangach a dealltwriaeth ddyfnach o gysyniadau adrodd stori. Trwy ddarllen llyfrau natur, mae’r plant wedi dysgu geiriau newydd, y maent yn eu defnyddio wrth siarad am eu profiad uniongyrchol gyda phobl eraill.
Ymgorffori Syniadau Stori mewn Chwarae:
Mae ymgysylltiad y plant â llyfrau wedi eu hysbrydoli i ymgorffori’r cymeriadau neu’r digwyddiadau o storïau yn eu chwarae dychmygus, ar eu pen eu hunain neu gyda phlant eraill. Mae’r dull hwn i integreiddio elfennau stori yn annog empathi, cydweithrediad, a meddwl beirniadol wrth iddynt archwilio gwahanol safbwyntiau a senarios.
Hyrwyddo Amrywiaeth a Chynwysoldeb:
Mae’r ystod amrywiol o lyfrau yn y lleoliad wedi hwyluso sgyrsiau am amrywiaeth, cynhwysiant, ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol ymhlith y plant. Mae llyfrau sy’n cynrychioli’r holl deuluoedd wedi ennyn chwilfrydedd, empathi a pharch at bawb. Mae’r plant yn siarad â’r oedolion am y lluniau a’r bobl yn y llyfrau. Mae hyn wedi helpu pawb i deimlo eu bod yn perthyn ac wedi hyrwyddo cynwysoldeb yng nghymuned y lleoliad.
Ymgysylltiad rhieni:
Mae ymgysylltiad plant â llyfrau wedi cynyddu cyfranogiad rhieni mewn gweithgareddau darllen ar y cyd. Trwy annog plant i fynd â llyfrau adref, mae ymarferwyr wedi sylwi ar ymglymiad cynyddol y rhieni. Mae rhieni wedi mynegi brwdfrydedd dros ddarllen gyda’u plant, gan rannu cariad at lyfrau y tu allan i’r lleoliad. Mae rhieni wedi dweud wrth y lleoliad eu bod wedi siarad gyda’u plant am wahanol ddiwylliannau a natur trwy’r storïau y mae eu plant yn dod adref, gan arwain at drafodaeth gyfoethog a phrofiadau dysgu ar y cyd o fewn y teulu.
Archwilio Natur a’r Byd o’u Cwmpas:
Trwy lyfrau sydd â thema natur, mae plant wedi datblygu mwy o werthfawrogiad o’r amgylchedd, gan ddangos chwilfrydedd a rhyfeddod am y byd naturiol. Mae eu hymgysylltiad â’r llyfrau hyn wedi eu hysbrydoli i ofyn cwestiynau, creu cysylltiadau ac archwilio’r awyr agored gyda synnwyr newydd o chwilfrydedd ac ymwybyddiaeth. Trwy ddefnyddio llyfrau i ychwanegu at brofiadau uniongyrchol y plant eu hunain, mae’r lleoliad wedi eu helpu i ennill gwybodaeth gynyddol eang a manwl am y byd o’u cwmpas.
Trosglwyddo Gwybodaeth
Mae ymgysylltu â llyfrau wedi meithrin medrau llythrennedd plant ond hefyd wedi eu helpu i greu cysylltiadau a throsglwyddo’u dysgu i bob maes o’u chwarae a’u dysgu. Yn yr enghreifftiau uchod, mae’n amlwg, trwy storïau a llyfrau ffeithiol, fod plant yn creu cysylltiadau rhwng cynnwys y llyfrau y maent yn eu darllen a phrofiadau bywyd go iawn, a’u chwarae dychmygus a symbolaidd.
Mae effaith hyrwyddo cariad at lyfrau yn y lleoliad wedi bod yn drawsnewidiol, yn datblygu medrau cyfathrebu, iaith a llythrennedd a chwarae dychmygus plant, ac yn meithrin dealltwriaeth ddyfnach o amrywiaeth, cynwysoldeb a’r byd naturiol. Trwy ddarparu amgylchedd llenyddol cyfoethog, mae ymarferwyr wedi arsylwi pŵer llyfrau wrth feithrin creadigrwydd, empathi a chwilfrydedd plant, gan gefnogi eu datblygiad cyfannol.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae ymarferwyr yn mynychu cyfarfodydd rhwydwaith lleoliadau nas cynhelir bob tymor, yn trafod ac yn rhannu arfer â lleoliadau eraill ar draws y rhanbarth. Mae ffotograffau ac enghreifftiau o arfer y lleoliad wedi cael eu cynnwys o fewn cyrsiau rhanbarthol.