Creu amgylchedd anogol - Estyn

Creu amgylchedd anogol

Arfer effeithiol

Clase Primary School


 

Gwybodaeth am yr ysgol/darparwr

Mae Ysgol Gynradd Clase yn ysgol gynradd gymunedol sydd wedi’i lleoli dair milltir i’r gogledd o ddinas Abertawe a milltir o dref Treforys.  Ar hyn o bryd, mae 311 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 36 o ddisgyblion rhan-amser yn y feithrinfa.  Mae gan yr ysgol 12 dosbarth a phedair canolfan addysgu arbenigol i ddisgyblion ag awtistiaeth ac anawsterau dysgu cymedrol. 

Cyfran gyfartalog y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim dros y tair blynedd diwethaf yw 55%.  Mae hyn ymhell uwchlaw’r cyfartaledd i Gymru, sef 18%.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan tua 50% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%.  Ar hyn o bryd, mae gan 11% ohonynt ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. Mae llawer o’r disgyblion hyn yn y pedair canolfan addysgu arbenigol, gydag ychydig yn unig ohonynt mewn dosbarthiadau prif ffrwd. 

Ychydig bach iawn o ddisgyblion sy’n dod o gefndir ethnig lleiafrifol.  Ychydig bach iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref.

Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er Medi 2010.

Cyd-destun a chefndir i’r ymarfer

Mae gan Ysgol Gynradd Clase ethos cryf o hyrwyddo lles disgyblion ac mae hyn yn ganolog i bob agwedd ar fywyd yr ysgol.  Mae’r ysgol wedi gwreiddio diwylliant anogol ac mae’n cefnogi’r holl ddisgyblion yn effeithiol, yn enwedig y dysgwyr mwyaf agored i niwed, trwy ddulliau sydd â’u gwreiddiau mewn theori ymlyniad, niwrowyddoniaeth ac ymarfer seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma.

Sefydlwyd y lleoliad anogaeth, ‘Y Cwtsh’, yn 2011 ac mae wedi datblygu’n ddarpariaeth aml-wedd, bwrpasol, sy’n ymgorffori egwyddorion grŵp anogaeth, dull ‘Thrive’, Ysgolion Coedwig (Cwtsh yn y Goedwig) a gardd yr ysgol / gofal anifeiliaid (Cwtsh yn yr ardd).  Bellach, mae’r ddarpariaeth anogaeth yn ymestyn ar draws yr ysgol, ac yn ychwanegu ato y mae rhaglen gadarn o ymgysylltu â theuluoedd, wedi’i theilwra i fodloni anghenion yr holl ddisgyblion a’u teuluoedd.  Enw’r ysgol ar hyn yw ‘Dull Cwtsh’.

Caiff y ddarpariaeth ei harwain gan uwch athro sydd wedi’i hyfforddi’n briodol ac mae’n cael ei rhedeg gan staff cymorth hyfforddedig iawn, dau ymarferwr amser llawn a dau ymarferwr rhan-amser, sy’n cydweithio i rannu’u harbenigedd.  Mae staff yn ymdrechu i gyflawni’r deilliannau gorau posibl i’r disgyblion y maent yn eu cefnogi, o ran eu datblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol, eu parodrwydd ar gyfer dysgu a’u cynnydd mewn dysgu.  Nodir disgyblion trwy arsylwadau athrawon, trafodaethau proffesiynol a dadansoddiad trylwyr o wybodaeth berthnasol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd y nodwyd ei bod yn arfer effeithiol neu arloesol

Yn wreiddiol, sefydlwyd y ddarpariaeth anogaeth i fodloni anghenion disgyblion y blynyddoedd cynnar.  Datblygwyd y lleoliad yn unol ag egwyddorion anogaeth ac mae’n parhau i ddarparu cymorth dwys i ddisgyblion y cyfnod sylfaen.  Fodd bynnag, mae’r ddarpariaeth wedi’i hymestyn a’i mireinio, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, wedi’u harwain gan yr anghenion sy’n dod i’r amlwg ymhlith unigolion targedig sy’n cael eu cynorthwyo, ar draws yr ysgol.

Mae ystod y ddarpariaeth yn cynnwys:

  • ‘Cwtsh yn y Feithrinfa’, sy’n cael ei gynnal bob bore i roi cymorth cynnar, effeithiol i ddisgyblion penodol a’u teuluoedd, gyda ffocws ar ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol yn ogystal ag ennyn rhieni i feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda’r ysgol ac unrhyw asiantaethau allanol y’u cyfeirir atynt, a chael ffydd ynddynt.
  • ‘Cwtch yn y Cwtsh’, sydd wedi’i ddatblygu i fodloni anghenion disgyblion cyfnod allweddol 2.  Mae ymarferwr amser llawn, yn y lleoliad, yn cynnal sesiynau i grwpiau neu unigolion, yn dibynnu ar eu hanghenion.
  • Cynhelir ‘Brecwast Cwtsh’ a ‘Galw heibio i’r Cwtsh’ yn y cyfnod sylfaen ac yng nghyfnod allweddol 2 i ddisgyblion penodedig.  Mae’r sesiwn yn rhoi cyfle i ddisgyblion alw heibio a rhannu a datrys unrhyw broblemau a allai effeithio ar eu parodrwydd i ddysgu, gan roi iddynt y dechrau gorau i’r diwrnod.  Mae gwybodaeth a rennir wrth alw heibio yn cael ei defnyddio i gefnogi’r disgyblion hyn trwy gydol y dydd, gan nodi amseroedd pan y gallai fod angen cymorth ychwanegol neu ddarpariaeth arall arnynt, er enghraifft gweithgaredd tawel dan arweiniad oedolyn yn ystod amser chwarae.
  • Mae ‘Paned yn y Cwtsh’ yn gyfleuster galw heibio yn ystod amser chwarae i ddisgyblion cyfnod allweddol 2.  Mae aelod o’r tîm anogaeth wrth law bob amser i sgwrsio â’r disgyblion a helpu i ddatrys problemau.
  • Defnyddir ‘Cwtsh yn y Goedwig’ a ‘Cwtsh yn yr Ardd’ gan grwpiau penodol o ddisgyblion cyfnod allweddol 2, sy’n gallu mynychu dwy sesiwn ysgol goedwig bob wythnos.  Mae disgyblion yn lleoliad anogaeth y cyfnod sylfaen yn mwynhau ‘Mercher Mwdlyd’.  Mae rhan o’r ddarpariaeth dysgu awyr agored yn cynnwys plannu, tyfu llysiau, gofalu am ieir yr ysgol a gweithio yn yr ystafell awyr agored/y twnnel polythen.  Mae grwpiau anogaeth yn gweithio’n rheolaidd tuag at brosiectau sy’n cynnwys y gymuned ehangach.
  • Defnyddir ‘Cwtsh yn yr ystafell ddosbarth’ yn effeithiol ledled yr ysgol i sicrhau bod disgyblion yn datblygu gwydnwch a strategaethau ymdopi trwy arferion sy’n annog cyd-ddisgyblaeth a hunanddisgyblaeth, gan gynnwys cyfleoedd rheolaidd i ymarfer anadlu a dysgu adnabod a rheoli effeithiau ffisiolegol methu rheoli emosiynau.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau disgyblion?

Mae’r cynnydd a wna disgyblion unigol yn cael ei olrhain yn ofalus trwy gydol y flwyddyn.  Mae asesiadau parhaus gan athrawon a chasglu gwybodaeth berthnasol o’r Cwtsh yn dangos bod bron pob un o’r disgyblion targedig yn gwneud cynnydd da iawn o ran eu lles a’u dysgu.

Mae pob amgylchedd dysgu yn lle diogel i gefnogi disgyblion sy’n methu rheoli’u hemosiynau neu ddisgyblion sydd angen lle ac amser i ddeall ac ystyried effaith eu gweithredoedd wrth wneud dewisiadau.  Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar yr holl ddisgyblion sydd angen y cymorth hwn, o ran parodrwydd at ddysgu.

Mae’r ysgol wedi sefydlu ffyrdd gwerthfawr o ymgysylltu â rhieni a gofalwyr i lunio perthnasoedd cadarnhaol gyda’r ysgol ac unrhyw asiantaethau allanol.  Mae’r ysgol wedi gweithio’n rhagweithiol i gynnwys teuluoedd mewn gweithgareddau llawn hwyl y gallant eu gwneud gyda’i gilydd, sy’n aml yn cael effaith gadarnhaol ar y rhai sy’n cymryd rhan ac ar yr ysgol.  Mae prosiectau, fel prosiect garddio ‘Tyfu gyda’n Gilydd’, yn cynnwys aelodau’r teulu o bob cenhedlaeth.

Mae perthnasoedd effeithiol gydag asiantaethau allanol, fel tîm y Bartneriaeth Deuluol a’r Tîm o Amgylch y Teulu mewn Ysgolion, yn rhoi cymorth targedig i deuluoedd sydd mewn argyfwng.  

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer gydag ysgolion eraill yn Abertawe trwy ddiwrnodau agored ac ymweliadau ysgol.  Hefyd, mae’r ysgol wedi cynnal noson goffi lwyddiannus i’r holl staff ac i asiantaethau allanol perthnasol i rannu arfer dda.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn