Creadigrwydd wrth gofnodi asesiadau disgyblion

Arfer effeithiol

Radnor Valley C.P. School


 

Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Dyffryn Maesyfed wedi’i lleoli yn ardal wledig Maesyfed yn Sir Powys.  Mae 70 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd.  Mae bron pob un o’r disgyblion o gefndir gwyn ethnig a daw ychydig iawn o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu gefndiroedd cymysg.  Nid oes unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg fel eu mamiaith.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.

Mae’r ysgol wedi nodi bod gan rai disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, ac mae gan ychydig iawn ohonynt ddatganiad o anghenion dysgu ychwanegol. 

Cam 1:  Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn trefniadau hunanarfarnu ehangach

Yn dilyn eu harolygiad ym mis Mehefin 2014, aeth yr ysgol i’r afael â’r angen i ddatblygu’r tri maes allweddol canlynol:

  • parhau i wella medrau Cymraeg disgyblion
  • darparu profiadau dysgu sy’n bodloni’r ystod gallu lawn ym mhob dosbarth yn gyson
  • darparu mwy o gyfleoedd i ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 2 gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain er mwyn datblygu i fod yn ddysgwyr annibynnol

Pan gyhoeddwyd Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015), teimlai arweinwyr yn yr ysgol eu bod mewn sefyllfa dda i ystyried yr argymhellion, yn enwedig gan eu bod yn teimlo bod eu cynllun gweithredu ôl-arolygiad wedi’i gysylltu’n agos â datblygu pedwar diben yr adroddiad.  Fodd bynnag, ni wnaethant sylweddoli tan haf 2016 bod eu harfarniad presennol o addysgu a dysgu yn rhy arwynebol ac yn rhy hael.  Cytunwyd bod rhaid iddynt ailasesu eu darpariaeth cwricwlwm bresennol yn gyfan gwbl er mwyn darparu cyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion ddatblygu i fod yn ddysgwyr myfyriol annibynnol. 

Y cam cyntaf iddynt oedd ymgysylltu â rhanddeiliaid trwy ofyn i rieni, disgyblion a llywodraethwyr sut byddent yn teimlo am symud oddi wrth addysgu yn seiliedig ar bwnc.  Canolbwyntiodd holiaduron ar gasglu syniadau ynglŷn â darparu cwricwlwm yn seiliedig ar fedrau a oedd yn cysylltu’n agos â themâu a oedd yn newid pob hanner tymor.

O ddadansoddi’r ymatebion, daethpwyd i’r casgliad fod angen i arweinwyr arfarnu’r ffordd y mae athrawon yn cynllunio gweithgareddau os oedd yr ysgol am fynd i’r afael ag argymhellion Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015).  I ddechrau, roedd staff yn amheus ynglŷn â’r angen i newid.  Er eu bod wedi cael eu derbyn fel ysgol arloesi ar gyfer datblygu’r cwricwlwm, roeddent yn poeni ynglŷn â pheidio â rhoi terfyn ar ddysgu, a fyddai’n golygu adolygu’r modd y mae athrawon yn herio disgyblion. 

Trwy graffu’n drylwyr ar gynllunio ac arsylwadau gwersi rheolaidd a edrychodd yn agos ar gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu’n ddysgwyr annibynnol, mynegodd y pennaeth bryder.  Teimlai fod nodau ac amcanion gwersi yn aml yn rhy generig ac yn canolbwyntio ar yr hyn yr oedd angen ei gyflwyno o ran cynnwys y cwricwlwm.  Daeth eu hadolygiad o gynllunio i’r casgliad fod angen rhoi’r rhyddid i athrawon gynllunio gweithgareddau a fyddai’n galluogi disgyblion i weithio’n annibynnol ac yn greadigol, er mwyn datblygu cwricwlwm cryf ac arloesol.  Roedd hyn yn benderfyniad dewr ac yn un a oedd yn herio’r rhan fwyaf o athrawon y barnwyd dim ond yn ddiweddar gan Estyn bod eu cynllunio yn ‘drylwyr’.  Esboniodd y pennaeth, er bod adroddiad yr arolygiad yn canmol y staff am eu hymagwedd ar y cyd at gynllunio, fod angen iddynt symud y pyst gôl yn awr i gyflwyno cwricwlwm estynedig a fyddai’n bodloni argymhellion Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015). 

Prif fecanwaith y pennaeth ar gyfer diwygio ar y cyd oedd annog yr athrawon i fod yn greadigol heb ofni cael eu barnu na’u beirniadu. 

Cam 2:  Cynllunio a pharatoi ar gyfer newid

Yn ystod y cyfnod hwn o arfarnu’r cwricwlwm, aeth staff yn gynyddol bryderus am yr angen i asesu gallu a chyrhaeddiad disgyblion.  Roeddent yn teimlo y byddai’r rhyddid i gynllunio gweithgareddau a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu medrau disgyblion yn ei gwneud yn anodd iddynt asesu yn ôl gofynion y cwricwlwm cenedlaethol.

Bu arweinwyr yr ysgol yn adolygu’r ffordd yr oeddent yn cofnodi asesiadau disgyblion, a daethant i’r casgliad na fyddai’n fuddiol gofyn i athrawon barhau i arfarnu cyflawniad yn erbyn set o ddisgrifwyr lefel anhyblyg.  Penderfynon nhw barhau â’u cynllunio yn seiliedig ar fedrau, ond cyflwyno cyfleoedd i ddisgyblion ddewis meini prawf llwyddiant priodol ar gyfer pob gweithgaredd, rhai a oedd yn eu herio’n rheolaidd ac yn sicrhau eu bod yn cynyddu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth yn barhaus.  Datblygodd arweinwyr ymagwedd ‘Cynllun Hedfan’ at asesu hefyd.  Roedd hyn yn cynnwys arfarnu ble mae disgyblion ar eu taith i wella.  Mae athrawon yn defnyddio offeryn masnachol, ar-lein i gofnodi asesiadau er mwyn cofnodi pa fedrau y mae disgyblion wedi’u profi a’r graddau y maent wedi caffael a chymhwyso’r medr hwnnw.  Mae hyn yn darparu lefel o gyflawniad ar gyfer y disgybl y mae’r athro’n ei defnyddio i gynllunio’r camau nesaf yn natblygiad y disgybl.  Mae’r athro yn defnyddio’r lefel hon i lywio ‘Llwybr Hedfan’ y disgybl.  Er enghraifft, os bydd Disgybl A yn cyflawni lefel 3, gallai fod yn teithio ‘ar’, ‘uwchlaw’ neu ‘islaw’ ei ‘llwybr hedfan’.  Mae’n ffordd syml ond effeithiol o drafod cyflawniad gyda’r disgyblion ac yn galluogi athrawon i fynd i’r afael â chyrhaeddiad o ran gwaelodlin y ffurflen gyflawni.  Mae hyn yn ei gyfnod ffurfiannol ac mae arweinwyr wrthi’n arfarnu ei effaith ar gynllunio athrawon yn ôl deilliannau disgyblion ar ddiwedd cyfnod allweddol 2.