Corff llywodraethol yn helpu cryfhau gwelliant ysgol - Estyn

Corff llywodraethol yn helpu cryfhau gwelliant ysgol

Arfer effeithiol

Trinant Primary School


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Trinant ym mhentref Trinant, ger Crymlyn ym mwrdeistref sirol Caerffili.  Mae 153 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 28 o ddisgyblion meithrin rhan-amser.  Caiff disgyblion eu haddysgu mewn pum dosbarth oedran cymysg.  Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae tua 34% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae hyn ymhell uwchlaw cyfartaledd Cymru, sef 18%.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan ryw 30% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sydd ymhell uwchlaw cyfartaledd Cymru, sef 21%.

Dechreuodd y pennaeth yn ei swydd ym mis Tachwedd 2011.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae gan Ysgol Gynradd Trinant hanes cryf o wella dros gyfnod, er gwaethaf lefelau uwch na’r cyfartaledd o brydau ysgol am ddim, a disgyblion y nodwyd bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol.

Mae ein harwyddair, sef ‘Cerrig Camu at Lwyddiant’ (‘Stepping Stones to Success’) yn adlewyrchu’r daith ddysgu y mae disgyblion yn ei chwblhau a bod pob un ohonom yn cymryd gwahanol lwybrau ar wahanol adegau, ond i gyd yn llwyddo.  Yr hyn sy’n ganolog i’r weledigaeth yw ein bod ‘yn trin ein gilydd fel ein teulu’, sy’n golygu bod pawb yn ‘gwneud ymdrech arbennig’ ac nid ydynt eisiau siomi unrhyw un.  Mae hyn wrth wraidd yr ysgol ac yn allweddol i welliant ysgol llwyddiannus parhaus.   

Bu Ysgol Gynradd Trinant yn ffodus o ran cynnal corff llywodraethol sefydlog dros gyfnod, a bu’r cadeirydd yn ei swydd ers dros 20 mlynedd.  Mae’r ysgol yn credu bod hyn yn dyst i’w hymrwymiad i sicrhau bod eu hysgol bentref yn parhau i fod wrth wraidd y gymuned ac yn cyflwyno addysg o ansawdd da i bawb.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r corff llywodraethol wedi gweithio i wella cyfranogiad gweithredol yn yr ysgol.  Mae hyfforddiant llywodraethwyr wedi cael effaith gadarnhaol ar effeithiolrwydd y corff llywodraethol, sydd wedi effeithio ar ei allu i herio a chefnogi’r ysgol yn strategol fel grŵp cydlynol. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd: Rôl y Corff Llywodraethol mewn Gwella’r Ysgol

Mae aelodau’r corff llywodraethol wedi ymrwymo’n llawn i wella’r ysgol.  Neilltuir rolau a chyfrifoldebau penodol iddynt, y maent yn eu cymryd o ddifri.  Maent yn rhannu eu canfyddiadau a’u gwybodaeth mewn cyfarfodydd yn rheolaidd, ac yn dilyn pecyn cymorth yr ysgol ar hunanwella.  O ganlyniad, mae eu gwaith yn bwydo’n uniongyrchol i brosesau hunanwerthuso’r ysgol.

Mae llywodraethwyr Ysgol Gynradd Trinant yn dod ag amrywiaeth o gryfderau ac arbenigedd i’r ysgol.  Mae gan bob un ohonynt rolau penodol, fel cael rôl strategol, neu wella’r ysgol mewn ffordd fwy ‘uniongyrchol’.  Mae gwybodaeth a chyfranogiad llywodraethwyr wrth redeg yr ysgol o ddydd i ddydd yn gryfder.  Er enghraifft, mae’r llywodraethwr sydd â chyfrifoldeb am ddisgyblion mwy abl a thalentog yn ymweld â’r ysgol bob wythnos, ac yn cyflwyno gweithgareddau mathemateg heriol.  Mae llywodraethwyr eraill yn cynorthwyo â gweithgareddau garddio, coginio’n iach, a gweithgareddau eco, a gyda chyflwyno gwasanaethau bob pythefnos.  Mae’r llywodraethwr sydd â chyfrifoldeb am yr AHW  (adroddiad hunanwerthuso) yn ysgogi meithrin gallu i werthuso yn yr ysgol.  Mae’r sesiynau hyn yn galluogi’r disgyblion i ryngweithio â llywodraethwyr, gan alluogi i berthnasoedd da ddatblygu ac i lywodraethwyr gael cipolwg gwell ar fywyd yr ysgol bob dydd.  Mewn cyfarfodydd, mae llywodraethwyr mewn sefyllfa well i rannu eu gwybodaeth gydag aelodau eraill o’r corff llywodraethol, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am gynnydd blaenoriaethau’r CDY (cynllun datblygu’r ysgol), a brwdfrydedd, ymgysylltiad ac ymddygiad disgyblion.

Mae llywodraethwyr yn cymryd rhan yn llawn mewn diwrnod hunanwerthuso ysgol blynyddol yn ystod tymor yr haf.  Yn ystod y diwrnod hwn, maent yn cyfrannu ac yn gwerthuso effaith blaenoriaethau’r CDY ac yn trafod ystod o dystiolaeth a ddarparwyd gan staff.  Caiff llywodraethwyr drafodaeth onest ac agored ar effaith y blaenoriaethau, ac effeithiolrwydd y CDY.  Mae llywodraethwyr yn herio effaith y ddarpariaeth ar safonau, ac yn nodi’r camau nesaf.  Caiff blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod eu nodi’n effeithiol ac mae llywodraethwyr yn trafod goblygiadau cost, cynaliadwyedd a’u perthnasedd i flaenoriaethau cenedlaethol a lleol.  Cytunir ar CDY drafft.

Yn y cyfarfod yn nhymor yr hydref, ystyrir perfformiad yr ysgol o gymharu ag ysgolion tebyg.  Trafodir deilliannau a lefelau cyflawniad disgyblion, a gallai addasiadau gael eu gwneud i’r CDY yn sgil data ar berfformiad.

Nodwedd lwyddiannus yw amlder cyfarfodydd llywodraethwyr, staff a disgyblion i drafod datblygiadau mewn meysydd dysgu penodol.  Yn ystod y sesiynau hyn, mae llywodraethwyr yn mynd ar deithiau dysgu, yn gwrando ar ddysgwyr, ac yn craffu ar weithgareddau dysgu disgyblion.  Mae diweddariadau cynnydd ar effeithiolrwydd y CDY hefyd yn nodwedd gref yn ystod y trafodaethau hyn.

Mae hyfforddiant rheolaidd i lywodraethwyr wedi ategu hunanwerthuso effeithiol y corff llywodraethol, a’r gallu i ofyn y cwestiynau cywir, fel:

Beth ydych chi’n ei wybod?  Beth mae’n ei ddweud wrthych chi?  Sut mae hynny’n cymharu ag unrhyw feincnodi neu gymhariaeth genedlaethol?  Beth mae angen i chi ei wella? 

Mae gan yr ysgol galendr misol strategol o weithgareddau.  Mae monitro llywodraethwyr yn cynnwys:

  • cyfarfodydd misol gydag aelodau o’r pwyllgor cyllid sy’n sicrhau eu bod yn cael gwybodaeth ddiweddar a perthnasol am wariant, a manylion am ddefnydd effeithiol o grantiau a deilliannau ar gyfer disgyblion
  • sesiynau amserlenedig misol gyda’r llywodraethwr sy’n gyfrifol am yr AHW, sy’n caniatáu ar gyfer monitro safonau ar y cyd ar draws yr ysgol ac ar gyfer ymgysylltu’n effeithiol â’r holl arweinwyr pwnc
  • y llywodraethwr sydd â chyfrifoldeb am ADY (anghenion dysgu ychwanegol) yn asesu effaith darpariaeth dymhorol ar gyfer disgyblion ag ADY a grwpiau o ddysgwyr sy’n agored i niwed; trafodir meini prawf ymadael a chofrestru ar gyfer cymorth, a chynhelir trafodaeth wybodus ar y camau nesaf ar gyfer y disgyblion a’r ddarpariaeth
  • y llywodraethwr sydd â chyfrifoldeb am bresenoldeb yn monitro presenoldeb yn agos, yn unol â system Callio (y polisi a’r weithdrefn presenoldeb a gytunwyd yn lleol) ac effaith diweddariadau ac ymyriadau
  • cyfarfodydd bob hanner tymor gyda’r corff llywodraethol llawn, sy’n aml yn cynnwys cyflwyniadau gan ddisgyblion yn arddangos prosiectau, medrau a safonau, sy’n rhoi cyd-destun i wella’r ysgol

Mae ymglymiad llywodraethwyr yn herio’r ysgol yn barhaus i weithredu fel sefydliad dysgu effeithiol. 

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae ymglymiad rheolaidd llywodraethwyr ym mywyd yr ysgol yn galluogi iddynt weithio fel rhan o dîm sy’n rhannu nod cyffredin i geisio lefel uchel o lwyddiant ar gyfer disgyblion.  Mae monitro rheolaidd gan y corff llywodraethol yn sicrhau cysondeb mewn safonau ac o ran cymhwyso medrau yn arloesol ar draws y cwricwlwm.  Mae dealltwriaeth y corff llywodraethol o ran dadansoddi cynnydd disgyblion dros gyfnod, a’r wybodaeth am safonau yn yr ysgol, yn sicrhau eu bod yn herio a darparu cymorth os bydd amrywiadau mewn deilliannau.  Mae eu gwybodaeth uniongyrchol am yr ysgol yn helpu ymgorffori dealltwriaeth fanwl o anghenion y disgyblion a’r gymuned ehangach.  Defnyddir y wybodaeth hon wrth gytuno ar flaenoriaethau tymor byr a thymor hir ar gyfer yr ysgol.

Mae eu hymgysylltiad â hunanwerthuso yn eu galluogi i ddeall anghenion disgyblion, eu cyfraddau cynnydd a’u gallu i ofyn cwestiynau heriol i staff, gan gynnwys arweinwyr canol ac uwch arweinwyr.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Ceir cryn dipyn o weithio rhwng ysgolion o fewn y clwstwr, yr awdurdod lleol ac ar draws y consortiwm.  Rhannwyd hyn ar ffurf Ysgolion Rhwydwaith Arweiniol a thrwy nifer o bartneriaethau pwrpasol.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn