Coleg wedi’i alluogi’n ddigidol
Gwybodaeth am y darparwr
Sefydlwyd Coleg Cambria yn Awst 2013 o ganlyniad i uno Coleg Glannau Dyfrdwy a Choleg Iâl. Mae gan y coleg enw da am ei ddefnydd arloesol o dechnoleg ddigidol ac mae’n aelod gweithredol o sawl grŵp technoleg cenedlaethol. Mae hefyd yn cymryd rhan mewn dau brosiect Ewropeaidd ar ddysgu cyfunol effeithiol. Mae staff Coleg Cambria wedi ennill sawl gwobr addysgu genedlaethol am ddysgu digidol a defnyddio technoleg.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Cyn yr uno, buddsoddodd y ddau goleg yn sylweddol i sicrhau bod gan bob safle wasanaeth wi-fi llawn. Symudodd y ddau goleg adnoddau oddi wrth ystafelloedd TG a thuag at brynu “chromebooks”, gan alluogi i fwy o fyfyrwyr ddefnyddio cyfrifiaduron mewn amgylcheddau dysgu digidol hyblyg. Daeth yr uno ag arfer orau at ei gilydd. Roedd Coleg Iâl wedi datblygu’r defnydd o apiau dysgu ac roedd Coleg Glannau Dyfrdwy wedi datblygu offer technoleg cwmwl. Yn y flwyddyn cyn yr uno, bu Cyfarwyddwr TG Coleg Glannau Dyfrdwy yn gweithio ar draws y ddau goleg i sicrhau bod yr isadeiledd angenrheidiol ar waith, ac roedd yr holl staff a myfyrwyr yn defnyddio un llwyfan cwmwl oedd ag offer swyddfa, cyfryngau cymdeithasol ac addysg. Roedd gan y ddau goleg nifer sylweddol o staff brwdfrydig, a oedd yn hynod hyderus mewn defnyddio technoleg. Ethos Coleg Cambria yw ‘ysbrydoli, arloesi, llwyddo’, ac o’r cychwyn, cafwyd ymrwymiad cryf gan bob arweinydd i ddefnyddio technoleg i ddatblygu cyfleoedd dysgu arloesol ac arferion busnes effeithiol.
Caiff y rhan fwyaf o ddysgwyr yng Ngholeg Cambria gyfle i ddefnyddio “chromebooks” yn eu dosbarthiadau, ac maent yn defnyddio dulliau dysgu cyfunol yn rheolaidd. Defnyddiodd arweinwyr y coleg yr athrawon a oedd eisoes yn manteisio ar dechnoleg newydd i roi cynnig ar offer dysgu digidol newydd. Roedd yr athrawon hyn yn rhannu arfer orau â’i gilydd, ac mae’r canlynol wedi dod i’r amlwg fel cymwysiadau technoleg poblogaidd, sydd bellach yn cael eu defnyddio gan y rhan fwyaf o athrawon:
-
‘cymunedau’ cyfryngau cymdeithasol ar gyfer rhannu
-
offer ‘ystafell ddosbarth’ i rannu adnoddau a chyflwyno aseiniadau
-
technoleg cwmwl ar gyfer cydweithio
-
blogiau dysgwyr i gofnodi a myfyrio ar fedrau a chreu portffolios digidol
-
cwisiau ar-lein ac apiau gemau i wirio dysgu ac ymgysylltu â dysgwyr
Mae rheolwyr y Coleg yn rhannu’r defnydd gorau o ddysgu digidol trwy gyfarfodydd tîm. Mae llawer o staff a dysgwyr yn defnyddio’r offeryn cymunedau yn rheolaidd fel eu ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol o gyfathrebu i rannu adnoddau a syniadau.
Mae wi-fi dibynadwy yn golygu y gall dysgwyr ddefnyddio apiau dysgu a llwyfannau ar y we ar eu dyfeisiau symudol. Mae gan bob dysgwyr eu hofferyn cynllunio dysgu unigol eu hunain, a defnyddiant hwn i osod eu targedau dysgu a’u monitro. Yn y cyfnod ymsefydlu, caiff yr holl ddysgwyr eu cyflwyno i ap ‘guidebook’ y coleg i fanteisio ar eu hapiau dysgu, gwybodaeth bersonol a gwasanaethau myfyrwyr. Caiff diweddariadau newyddion ar gyfer myfyrwyr eu ffrydio trwy dudalen cyfryngau cymdeithasol. Mae dysgwyr sy’n fyfyrwyr yn defnyddio ap pwrpasol i ‘gymryd y tymheredd’ yn rheolaidd a chael adborth gan gyd-fyfyrwyr ar ystod o faterion trwy gydol y flwyddyn. Defnyddir y wybodaeth hon gan reolwyr a grwpiau llais myfyrwyr fel rhan o wella ansawdd.
Caiff y rhaglen fugeiliol ei haddysgu ar draws y coleg trwy raglen bwrpasol ar y we, sy’n galluogi’r holl athrawon i fanteisio ar adnoddau o ansawdd uchel ar addysg bersonol a chymdeithasol, ac yn dangos arfer orau mewn dysgu cyfunol. Mae bathodynnau digidol Coleg Cambria yn gwobrwyo’r holl ddysgwyr am bresenoldeb a chynnydd rhagorol, ac yn achredu gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys hyfforddiant e-ddiogelwch a gweithgareddau entrepreneuriaeth.
Mae datblygiad proffesiynol athrawon yn gyfunol hefyd, ac mae athrawon yn cymryd rhan mewn pecynnau a ddatblygwyd gan y coleg sy’n dangos offer newydd i ennyn creadigrwydd mwy proffesiynol. Mae technoleg ddigidol wedi gwella llawer o weithrediadau busnes, gan gynnwys rheoli perfformiad. Caiff data allweddol ei ffrydio mewn dangosfyrddau byw, gan alluogi staff ar bob lefel i fonitro ystod o fesurau perfformiad allweddol yn agos a nodi a mynd i’r afael â materion yn gyflym. Mae’r coleg yn sefydliad dibapur ar y cyfan, ac yn defnyddio ffolderi a dogfennau cwmwl ar gyfer cyfarfodydd. Defnyddir gwe gynadledda bob dydd ar gyfer yr holl gyfarfodydd ar draws safleoedd i osgoi teithio diangen rhwng safleoedd a galluogi cyfarfodydd rhithwir wyneb yn wyneb.
Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae bron pob un o ddysgwyr Coleg Cambria yn datblygu’r medrau dysgu digidol sydd eu hangen i fynd ymlaen i lefelau dysgu uwch ac i gyflogaeth. Defnyddiant ystod eang o dechnoleg yn hyderus ac fel rhan naturiol o’u dysgu o ddydd i ddydd yn y coleg.
Defnyddir technoleg yn effeithiol iawn yn holl agweddau gweithredol Coleg Cambria. Mae technoleg yn galluogi’r coleg ar bob lefel i rannu arfer orau a gwybodaeth allweddol gyda’i gilydd yn gyflymach. Mae’n sicrhau bod data a gwybodaeth am ddysgwyr yn cael eu cyfleu a’u rheoli yn effeithiol, a ddefnyddir gan yr holl staff a dysgwyr i reoli a gwella perfformiad.