Coleg Cambria – adeiladu hunaniaeth newydd - Estyn

Coleg Cambria – adeiladu hunaniaeth newydd

Arfer effeithiol

Coleg Cambria


 

Gwybodaeth am y darparwr

Ffurfiwyd Coleg Cambria yn Awst 2013 ar ôl uno Coleg Glannau Dyfrdwy a Choleg Iâl i fod yn un o’r colegau mwyaf yn y DU, yn gwasanaethu tair ardal awdurdod lleol.  Roedd Coleg Glannau Dyfrdwy wedi uno yn flaenorol â Choleg Garddwriaeth Cymru yn 2009 a Choleg Llysfasi yn 2010.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Y ddau ffactor allweddol o ran sicrhau bod Coleg Cambria yn cael ei uno a’i sefydlu’n effeithiol yw arweinyddiaeth gref a llywodraethu effeithiol.  Deuddeg mis cyn uno, ffurfiodd Coleg Glannau Dyfrdwy a Choleg Iâl fwrdd llywodraethol cysgodol, a weithredodd yn gyflym i benodi’r Pennaeth a’r Prif Weithredwr, wedi ei ddilyn yn fuan gan yr uwch dîm swydd-ddeiliaid.  Fe wnaeth penodiadau cynnar, llywodraethu arbenigol a chynllunio manwl alluogi i isadeiledd gweithredol allweddol fod ar waith ymhell cyn y dyddiad uno, gan gynnwys systemau rheoli data a’r tîm arweinyddiaeth ehangach ar gyfer Coleg Cambria.  Cyn uno, datblygodd y coleg Weledigaeth o Ragoriaeth yn sgil digwyddiadau ymgynghori helaeth â staff, llywodraethwyr a rhanddeiliaid i ddatblygu’r weledigaeth a’r gwerthoedd ar gyfer y coleg newydd.  Fe wnaeth y Weledigaeth o Ragoriaeth amlinellu datganiad cenhadaeth, gweledigaeth a gwerthoedd y sefydliad newydd yn glir, yn ogystal â blaenoriaethau strategol.  Crëwyd enw’r coleg gan y staff a chytunodd llywodraethwyr ar y brand, yn seiliedig ar gysyniad amrywiaeth a chydlyniad.  Crëwyd Coleg Cambria fel brand trosfwaol clir, ond gall safleoedd gadw eu hunaniaeth unigryw â chymunedau lleol o hyd. Sicrhaodd y gwaith helaeth hwn cyn uno gan arweinwyr a llywodraethwyr fod gan y coleg newydd ddiben strategol clir yr oedd staff yn cyd-fynd ag ef o’r cychwyn, yn ogystal â’r isadeiledd allweddol a oedd yn galluogi’r coleg i weithredu’n effeithiol ar ôl yr uno.

Yn syth ar ôl yr uno, rhoddodd yr uwch dîm arweinyddiaeth flaenoriaeth i’r gweithgareddau datblygu proffesiynol a fyddai’n dod â staff at ei gilydd ac yn cael effaith gyflym a chlir.  Cafodd yr holl staff addysgu a staff asesu hyfforddiant, a oedd o gymorth wrth rannu dealltwriaeth ar y cyd o’r hyn sy’n gwneud dysgu effeithiol.  Canolbwyntiodd y tîm cymorth busnes ar wella profiad y dysgwr/cwsmer a datblygu prosesau hynod effeithlon mewn coleg mawr.

Fe wnaeth yr uno alluogi’r coleg i edrych o’r newydd ar bolisïau craidd, ac yn hytrach na mabwysiadu’r arfer gryfaf o’r colegau cyn yr uno, manteisiodd arweinwyr ar y cyfle i chwilio am ddulliau newydd ac fe wnaethant ddefnyddio grwpiau gorchwyl a gorffen i ddatblygu’r rhain yn bolisïau i’w rhoi ar waith.  Fe wnaeth y grwpiau hyn alluogi cyfleoedd pwrpasol ar gyfer adeiladu timau ar draws y coleg a chrëwyd enillion cyflym gydag effaith fawr.

Mae cyfathrebu wedi bod yn allweddol ar gyfer sefydlu ethos clir yn y coleg.  Mae diweddariadau wythnosol y Pennaeth yn rhannu newyddion am y coleg a’r sector, ac mae uwch arweinwyr yn cyfathrebu’n rheolaidd ac yn effeithiol iawn gyda’u timau gan ddefnyddio ystod o offer cyfryngau cymdeithasol.  Mae hyn yn galluogi pob un o’r staff i deimlo cysylltiad a bod yn rhan o’r hyn y mae’r Coleg yn ei alw’n ‘tîm Cambria’.

O fewn chwe mis i’r uno, trodd y coleg ei werthoedd craidd newydd yn set o ddeg ymddygiad.  Galluogodd yr ymddygiadau hyn i staff weld y modd yr oedd y gwerthoedd roeddent wedi eu dewis a’u cynnwys yn y ‘Weledigaeth o Ragoriaeth’ yn rhan annatod o weithrediadau dyddiol y coleg a gellid eu dangos yn eu gweithredoedd.  Buan y daeth yr ymddygiadau yn offeryn defnyddiol iawn ar gyfer staff, rheolwyr a llywodraethwyr, yn cefnogi arweinyddiaeth a llywio gwneud penderfyniadau ar bob lefel.  Maent yn weladwy yn holl feysydd y coleg; caiff pob aelod o staff newydd gyfnod ymsefydlu yn seiliedig ar ymddygiadau’r coleg ac mae staff yn myfyrio’n rheolaidd ar y modd y maent wedi dangos yr ymddygiadau ar waith mewn cyfarfodydd tîm ac yn eu gwerthusiadau.  Mae cynllun cydnabod y coleg hefyd yn dathlu a gwobrwyo staff a thimau sy’n dangos ymddygiad penodol.  Mae defnyddio ymddygiadau wedi galluogi’r coleg i sefydlu ethos a diwylliant cryf yn gyflym.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r camau gweithredu a amlinellir wedi sicrhau uno llwyddiannus iawn ar raddfa fawr.  Mae’r coleg wedi dangos cyfraddau llwyddiant uchel dros gyfnod, sy’n rhoi’r coleg yn chwartel uchaf yr holl golegau yng Nghymru, ac yn dangos tuedd ar i fyny dros dair blynedd.  Mae’r coleg wedi gwneud cynnydd effeithiol yn erbyn ei holl ganlyniadau allweddol ac mae ganddo gategoreiddiad iechyd ariannol gradd A.  Mae camau gweithredu effeithiol cyn yr uno, a sefydlu hunaniaeth, ethos a diwylliant cadarn, yn ategu perfformiad presennol a rhagolygon gwella rhagorol y coleg.

 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn