Codi safonau yn y Gymraeg
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Gynradd Woodlands yng Nghwmbrân Uchaf yn Nhorfaen. Mae 342 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae hyn yn cynnwys 41 o ddisgyblion rhan-amser yn nosbarth meithrin yr ysgol. Mae’r ysgol yn trefnu disgyblion yn ganolfan ddysgu ar gyfer disgyblion ag anghenion cymhleth, ac yn 11 dosbarth; pum dosbarth oedran cymysg, a chwe dosbarth un oedran. Mae ymwelwyr iechyd yn gweithio yn yr ysgol, ac mae Canolfan Integredig i Blant ar y safle.
Y cyfartaledd tair blynedd ar gyfer disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yw tua 28%. Mae’r ffigur hwn uwchlaw cyfartaledd Cymru, sef 18%. Daw bron pob un o’r disgyblion o gartrefi lle siaredir Saesneg fel mamiaith. Mae’r ysgol wedi nodi bod gan ryw 21% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig. Mae hyn gyfwerth â chyfartaledd cenedlaethol Cymru, sef 21%.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae ‘Criw Cymraeg’ Ysgol Gynradd Gymunedol Woodlands wedi hen ennill ei blwyf ers blynyddoedd lawer. Pan gododd cyfle i’r ysgol weithio tuag at ennill Gwobr Efydd y Siarter Iaith Cymraeg Campus, dangosodd y ‘Criw Cymraeg’ lawer o frwdfrydedd, ac roeddent yn hapus i rannu cyfrifoldeb am roi syniadau newydd ar waith er mwyn codi proffil y Gymraeg. Roedd disgyblion a staff yn gweld bod hyn yn ffordd gyffrous o godi safonau mewn addysgu a dysgu Cymraeg ail iaith.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Dechreuodd y ‘Criw Cymraeg’ ar eu taith trwy gyfarfod â’r holl randdeiliaid i rannu amcan y Siarter Iaith â nhw. Roedd hyn yn cynnwys cynnal gwasanaeth ar gyfer disgyblion a staff, a chyfarfod â staff y clwb brecwast, goruchwylwyr amser cinio a’r llywodraethwr cyswllt ar gyfer y Gymraeg. Fe wnaethant greu taflen addysgiadol i’w hanfon at rieni.
Llenwodd pob un o ddisgyblion cyfnod allweddol 2 holiadur gwaelodlin, gan alluogi’r ‘Criw Cymraeg’ i archwilio safbwyntiau ac arfer bresennol. Ar ôl coladu canlyniadau’r holiadur a’r archwiliad, bu’r ‘Criw Cymraeg’ yn cydweithio i ddyfeisio eu cynllun gweithredu eu hunain er mwyn eu helpu i gyflawni deg targed y Wobr Efydd o fewn y Siarter Iaith. Fe wnaethant ddylunio eu bwrdd eu hunain i arddangos cynnydd, gan sicrhau bod cymuned yr ysgol gyfan yn cael ei hysbysu. Rhoddwyd cyfrifoldeb i ddisgyblion am gasglu a chofnodi tystiolaeth i gefnogi pob un o’r deg targed. Buont yn cymryd rhan mewn teithiau dysgu rheolaidd, yn gwrando ar ddysgwyr eraill, ac fe gawsant eu cynnwys mewn arsylwadau gwersi, pan fyddent yn rhoi adborth i ddisgyblion eraill.
Cyflwynodd y ‘Criw Cymraeg’ fentrau newydd fel y bwrdd ‘Sgriblo Sydyn’, y Dyddiadur Cymraeg, a’r gweithdai gwaith cartref ac iaith ar gyfer rhieni. Roedd ‘Helpwr Heddiw’ yn croesawu disgyblion i bob gwasanaeth, ac roedd y Gymraeg yn cael ei defnyddio’n rheolaidd gan ddisgyblion a staff yn ystod y clwb brecwast, yn y siop ffrwythau amser egwyl, ac yn ystod gemau maes chwarae ar iard yr ysgol amser cinio. Cyflwynwyd darllen yn Gymraeg yn y clwb llyfrgell, gan roi cyfle i ddisgyblion hŷn ddarllen testunau Cymraeg i ddisgyblion iau. Diwygiwyd trefniadau’r ysgol ar gyfer darllen dan arweiniad yn Gymraeg hefyd. Roedd un wythnos bob hanner tymor yn cael ei neilltuo i ddarllen dan arweiniad yn Gymraeg, yn hytrach na sesiynau wythnosol byrrach, a phecynnau addysgu penodol yn cael eu defnyddio i sicrhau bod disgyblion yn cael cyfleoedd rheolaidd ar gyfer darllen yn Gymraeg.
Gwnaed cysylltiadau cryf ag ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg. Mwynhaodd disgyblion ddefnyddio eu medrau llafaredd yn ystod sgyrsiau dros y we-gamera, a datblygu eu medrau ysgrifennu yn ystod gweithdai barddoniaeth a phrosiect ysgrifennu, yn gofyn i ddisgyblion anfon neges e-bost yn Gymraeg. Gyda chymorth adroddwyr stori a chyfansoddwyr dwyieithog, llwyddodd disgyblion cyfnod allweddol 2 i ysgrifennu a pherfformio eu hopera ddwyieithog eu hun, yn seiliedig ar Y Mabinogi. Cafodd y ‘Criw Cymraeg’ eu cyfweld gan glwb cylchlythyr yr ysgol i sicrhau bod rhieni’n cael gwybod yn rheolaidd am eu cynnydd. Ar ôl cyflawni pob un o’r deg targed yn llwyddiannus, dyfarnwyd Gwobr Efydd y Siarter Iaith Cymraeg Campus i ddisgyblion.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae’r ysgol yn nodi y bu gwelliant mesuradwy ym medrau llafaredd, darllen ac ysgrifennu Cymraeg disgyblion. Mae safonau mewn Cymraeg wedi gwella, ar y cyfan, ac mae’r ysgol wedi perfformio’n well na’r holl gymaryddion ar lefel 4 a lefel 5, fel ei gilydd. Mae lefelau hyder staff a disgyblion wedi gwella’n fawr, ac mae’r defnydd o’r Gymraeg ar draws holl feysydd y cwricwlwm wedi cael ei ymgorffori’n llawn.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae’r ysgol yn ysgol arweiniol ar gyfer y Gymraeg. Cafwyd cyflwyniad gan y ‘Criw Cymraeg’ yn y gynhadledd ‘Dwyieithrwydd ar ei Orau’.