Codi safonau mewn llythrennedd a rhifedd

Arfer effeithiol

Ysgol Gyfun Gwyr


Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae’r ysgol wedi ymrwymo i godi safonau llythrennedd a rhifedd a gwella cyflawniad disgyblion mwy abl a thalentog (MAT) fel ei phrif flaenoriaethau strategol ers dwy flynedd. Er mwyn cyflawni gwaith effeithiol yn y meysydd hyn sefydlwyd gweithgorau proffesiynol i arwain datblygiadau o ran addysgeg ar lawr y dosbarth yn seiliedig ar dystiolaeth data ac ymchwil empeiraidd gan ddylanwadu’n uniongyrchol ar gyflawniad y disgyblion a adnabuwyd fel rhai mwy abl a thalentog.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Rhannwyd staff yr ysgol i fod yn aelodau o un o’r gweithgorau  llythrennedd, rhifedd a gwella cyflawniad disgyblion MAT.  Natur y strategaeth oedd bod cynrychiolwyr o bob adran ar draws y tri maes yn cyfrannu at waith ymchwil ar lawr y dosbarth a fyddai’n arwain at ddatblygu strategaethau addysgu.  O weithredu’r strategaethau byddai’r athrawon yn adrodd nôl i’r gweithgor ar yr effaith ar gyflawniad y disgyblion yn y dosbarth ac yna’n rhannu arfer dda a ddatblygwyd mewn sesiynau hyfforddiant.  Yn greiddiol i waith y tri weithgor oedd gwaith y triawdau arsylwi cymheiriaid oedd yn arsylwi gwersi ei gilydd y tu hwnt i’w pwnc arbenigol gyda’r nod o rannu  arfer dda yn y tri maes dan sylw ar draws y cwricwlwm.  Trwy hyn hybwyd gallu’r athrawon i arsylwi strategaethau arloesol mewn adrannau eraill.

Ffocws y gweithgor llythrennedd oedd ymchwilio i safonau ysgrifennu Cymraeg ac adnabod y prif wendidau.  Craffwyd ar waith ysgrifennu disgyblion ar draws y cwricwlwm i adnabod y prif wendidau iaith. Rhannwyd i dri is-grŵp â phob un yn gyfrifol am un agwedd gan lunio strategaeth i godi safonau. Yna rhannwyd y strategaeth gyda’r gweithgor i’w gweithredu ar lawr y dosbarth cyn ei gwerthuso a’i rhannu gyda’r staff cyfan.  Ffrwyth gwaith yr is-grwpiau oedd creu ysgol atalnodi, matiau berfau cryno a fideo am reolau treiglo gan ddisgyblion yr ysgol.

Ffocws y gweithgor rhifedd oedd llunio strategaethau i hyrwyddo gwelliant ym medrau rhifedd y disgyblion ar sail tystiolaeth data, ac hefyd datblygu hyder athrawon wrth ddelio gyda rhifedd ar draws y cwricwlwm.  Lluniwyd cynlluniau gweithredu i gwmpasu holl oblygiadau gweithredu’r Fframwaith Rhifedd.  Sefydlwyd sesiynau wythnosol ymbweru rhifedd i ategu sgiliau rhifedd staff yr ysgol.  Cynhaliwyd sesiynau tymhorol datrys problemau MAThemateg i grwpiau MAT cynradd Bl 6.  Arsylwyd gwersi cymheiriaid o fewn y gymuned a rhannwyd arfer dda trwy arwain sesiynau hyfforddi staff yr ysgol gyfan. Ystyriwyd strategaethau i hogi sgiliau datrys problemau rhesymu rhifedd disgyblion. Dosbarthwyd tasgau rhesymu cymwys i bob adran i’w treialu gyda grwpiau gwahanol o ddisgyblion a thrafodwyd effeithiolrwydd y strategaethau gan fireinio arfer dda yn ôl yr adborth.

Ffocws y gweithgor mwy abl a thalentog (MAT) oedd ystyried ffyrdd o hyrwyddo deilliannau dysgwyr mwy galluog yr ysgol ar sail tystiolaeth data’r ysgol. Fel gweithgor, ymchwiliwyd i strategaethau effeithiol o herio disgyblion MAT.  Cynhwysai hyn gyfres o arsylwadau gwersi i ddarganfod  technegau llwyddiannus o fewn pynciau amrywiol . Rhannwyd y prif ddarganfyddiadau o fewn y gweithgor. Yna lluniwyd llawlyfr at ddefnydd athrawon yr ysgol sy’n amlinellu dulliau dysgu gwahaniaethol effeithiol sy’n medru ymestyn y galluog o fewn dosbarthiadau gallu cymysg. Hefyd, sgil effaith gweithgarwch y gweithgor  MAT yw gwneud cais am Wobr Her NACE.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Trwy gysylltu gweithgarwch y gweithgor gyda phrif flaenoriaethau’r ysgol llwyddwyd i gadw’r meysydd hyn yn uchel ar agenda datblygu’r ysgol gyfan dros gyfnod o amser. Gwnaed gwaith ymchwil  i mewn i strategaethau dysgu ac addysgu effeithiol i godi safonau medrau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm ac hefyd wrth wahaniaethu ar gyfer disgyblion MAT. Mae gwaith y tri gweithgor wedi cael dylanwad cadarnhaol ar ein deilliannau, nid yn unig drwy hyfforddi a chryfhau medrau’rstaff ond hefyd drwy wella ein darpariaeth llythrennedd a rhifedd a gwella canlyniadau TGAU a Safon Uwch yr ysgol.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu arfer dda?

Rhannwyd arfer dda o fewn ein Clwstwr Cynradd drwy drefnu diwrnod HMS ar y cyd. Trefnwyd hefyd ymweliadau o fewn ein clwstwr cynradd i athrawon. Cafwyd cyfleon strwythuredig i ddisgyblion MAT cynradd elwa o sesiynau cyfoethogi Rhifedd a Llythrennedd fel rhan o’r trefniadau pontio. Rhannwyd arfer dda hefyd mewn Rhwydweithiau Sirol Llythrennedd, Rhifedd a MAT.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn