Codi safonau lles ymhlith disgyblion a staff - Estyn

Codi safonau lles ymhlith disgyblion a staff

Arfer effeithiol

Ysgol Gymraeg Brynsierfel


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Yn  fuan  wedi  cychwyn  ar  ei  rôl,  sylweddolodd  y  pennaeth  bod  gan  nifer  o  ddisgyblion  anawsterau  emosiynol,  ac  yn  ei  chael  hi’n  anodd  tawelu  ar  ôl  amser  chwarae.    Roeddent  yn  cael  trafferth  canolbwyntio  ar  eu  gwaith,  mynegi  eu  teimladau  ac  ymgysylltu  â  dysgu.    Trwy  gynnal  asesiadau  mewnol,  a  chysylltu  ag  arbenigwyr  a  rhieni,  aeth  y  staff  ati  i  gynllunio  strategaeth  a  threfnu  ymyraethau  penodol  i  wella  lles  a  sicrwydd  emosiynol  y  disgyblion.

Y  mae  gan  yr  ysgol  weithdrefn  effeithiol  i  dracio  a  monitro  lles  disgyblion  yn  ddyddiol,  sy’n  galluogi’r  staff  i  ymateb  yn  syth  i  unrhyw  bryderon  sy’n  codi.    Cynhelir  sesiynau  ymyrraeth  i  hybu  agweddau  cadarnhaol  ymhlith  y  disgyblion,  sy’n  eu  galluogi  i  rannu  eu  gofidiau,  trafod  eu  teimladau  a  modelu  ymddygiad  priodol  sy’n  eu  galluogi  i  fynd  i’r  afael  â’u  teimladau.    Er  mwyn  codi  ymwybyddiaeth  staff,  rhoddwyd  cyfleoedd  defnyddiol  i  arweinwyr  arsylwi  ar  strategaethau  effeithiol  mewn  ysgol  o  fewn  y  consortiwm  rhanbarthol.    Yn  dilyn  yr  ymweliad  hwn,  trefnwyd  hyfforddiant  penodol  i  ddisgyblion,  staff,  llywodraethwyr  a  rhieni.    Ariannwyd  y  prosiect  trwy  grant.

Disgrifiad  o  natur  y  strategaeth  neu’r  gweithgaredd

Cynhelir  asesiadau  cyson  i  fonitro  lles  disgyblion  ar  draws  yr  ysgol.    Yn  ogystal  â  hyn  dosberthir  holiaduron  penodol  i  holi  disgyblion  am  eu  teimladau  a’u  pryderon.    Cynhelir  gwasanaethau  torfol  i  drafod  moesau  ac  elfennau  ysbrydol,  sesiynau  hybu  perthnasoedd  iach  a  chadarnhaol,  sesiynau  therapi,  dosbarthiadau  i  rieni  a  rhaglen  gofal  cofleidiol.    Mae  staff  yn  ceisio  sicrhau  bod  amgylchedd  yn  ysgol  yn  dawel,  cartrefol,  cefnogol  a  gofalgar.    Rhoddir  cyfle  i  ddisgyblion  gyfrannu  at  yr  ethos  hwn  trwy  bostio  negeseuon  mewn  blwch  syniadau  a  chreu  hawliau  a  gwerthoedd  penodol  sy’n  ganolog  i  holl  weithredoedd  yr  ysgol  ac  sy’n  atgyfnerthu  eu  lles  personol,  cymdeithasol  ac  emosiynol  yn  llwyddiannus.    Mae  system  ‘Bydis  Buarth’  yn  annog  disgyblion  i  fod  yn  garedig  ac  i  gynnwys  eu  holl  gyfoedion  mewn  gweithgareddau  yn  ystod  amseroedd  chwarae.   

Un  o’r  gweithgareddau  sydd  wedi  bod  fwyaf  effeithiol  i  sicrhau  bod  disgyblion  yn  gweithredu  hunanreolaeth  yw’r  sesiynau  rheolaidd  a  weithredir  iddynt  ymlacio  a  thawelu  ar  wahanol  adegau  o’r  dydd,  ac  yn  arbennig  ar  ddiwedd  amser  chwarae.    Mae’r  sesiynau  hyn  yn  hybu  safonau  meddylgarwch  effeithiol  y  disgyblion  a’r  staff.    Maent  yn  help  i  wella  sgiliau  canolbwyntio’r  disgyblion,  yn  magu  gwydnwch  ynddynt,  ac  yn  eu  hannog  i  ymgysylltu  â  dysgu,  gan  ychwanegu  gwerth  at  y  rhaglenni  addysg  priodol  sydd  eisoes  yn  bodoli.    Mae’r  athrawon  yn  annod  y  disgyblion  i  ymarfer  y  sgiliau  trosglwyddadwy  hyn  gartref  yn  ogystal  ag  yn  yr  ysgol.   

Pa  effaith  y  mae’r  gwaith  hwn  wedi’i  chael  ar  ddarpariaeth  a  safonau  dysgwyr?

Mae’r  gwaith  hwn  wedi  cyfrannu  at  godi  safonau  lles  y  disgyblion  a’r  staff,  gan  wella  ymddygiad  disgyblion  ar  draws  yr  ysgol.    Mae’r  disgyblion  bellach  yn  tawelu’n  syth  ar  ôl  sesiynau  lles,  yn  ffocysu’n  well  yn  ystod  gwersi,  yn  ymwybodol  o  sut  i  ymlacio  ac  yn  medru  trafod  eu  teimladau  a  rhannu  gofidiau  gyda’i  gilydd  a  chyda’r  staff.    Mae’r  holl  strategaethau  hyn  wedi  cyfrannu’n  sylweddol  at  godi  safonau  ac  ysbrydoli  disgyblion  i  fod  yn  unigolion  iach,  hyderus  ac  uchelgeisiol.   

Mae’r  rhieni  yn  canmol  effaith  gadarnhaol  y  sesiynau  trafod  lles  ar  eu  plant,  gan  dystio  eu  bod  yn  canolbwyntio  am  gyfnodau  estynedig,  yn  ymrwymo’n  well  i’w  ddysgu  ac  yn  mynd  adref  ar  ddiwedd  diwrnod  ysgol  yn  fwy  cadarnhaol  a  thawel  eu  hagwedd.    Yn  y  cyfnod  sylfaen,  mae  llawer  o  fechgyn  a  merched  wedi  gwneud  y  cynnydd  disgwyliedig  neu’n  well  ym  mron  pob  maes  dysgu  ac  mae  bron  pob  disgybl  sy’n  deilwng  i  dderbyn  prydau  ysgol  am  ddim  mewn  llythrennedd  a  datblygiad  mathemategol  eleni.    Yng  nghyfnod  allweddol  2,  mae’r  rhan  fwyaf  wedi  gwneud  y  cynnydd  disgwyliedig  neu’n  well  ym  Mathemateg,  Cymraeg  a  Gwyddoniaeth,  tra  bod  y  rhan  fwyaf  o’r  bechgyn  a  bron  pob  un  o’r  merched  wedi  gwneud  y  cynnydd  disgwyliedig  yn  Saesneg.    Mae  bron  pob  disgybl  sy’n  deilwng  i  dderbyn  prydau  ysgol  am  ddim  wedi  gwneud  y  cynnydd  disgwyliedig  neu’n  well  yn  Saesneg,  Cymraeg,  Mathemateg  a  Gwyddoniaeth  eleni.

Sut  ydych  chi  wedi  mynd  ati  i  rannu  eich  arfer  dda?

Mae’r  ysgol  yn  rhannu  ei  harferion  yn  gyson  gyda’r  rhieni,  y  llywodraethwyr  a’r  gymuned  leol  trwy  gyfrwng  ei  gwefan,  a  chyfrwng  trydar  yr  ysgol.    Mae’r  arfer  wedi  ymddangos  ar  raglen  deledu  cyfrwng  Cymraeg  sydd  wedi  ei  darlledu  ar  draws  Cymru  gyfan.    Yn  sgil  y  rhaglen  honno,  mae  staff  o  ysgolion  cynradd  eraill  yng  Nghymru  wedi  ymweld  â’r  ysgol  i  arsylwi  ar  yr  arfer  dda  o  ran  gwella  lles  disgyblion.

Ymwelodd  Comisiynydd  Plant  Cymru  â’r  ysgol  i  arsylwi  ar  y  ddarpariaeth  a  chafwyd  canmoliaeth  ganddi  ar  sut  aeth  yr  ysgol  ati  yn  annibynnol,  a  heb  ddilyn  unrhyw  gynllun  masnachol,  i  ddatblygu  sgiliau  lles  ei  disgyblion.    Yn  dilyn  yr  ymweliad,  gwahoddwyd  yr  ysgol  i  gyflawni  tasg  arbennig  i  arolygu  profiadau  disgyblion  o  ran  eu  lles  mewn  ffurf  adroddiad  sydd  wedi’i  bersonoleiddio  i  Ysgol  Gymraeg  Brynsierfel.    Mae’r  arolwg  wedi’i  selio  ar  Fframwaith  Hawliau  Plant  y  Comisiynydd.    Bydd  y  Comisiynydd  Plant  yn  defnyddio’r  data  i  ganfod  arfer  dda  yng  Nghymru  ac  i  nodi  themâu  ar  draws  penodol  a  fydd  yn  help  i  gefnogi  ysgolion  eraill.    Bydd  y  wybodaeth  hon  hefyd  yn  help  i  lywio  blaenoriaethau’r  Comisiynydd  Plant  ar  gyfer  plant  a  phobl  ifanc  fel  rhan  o  ymgynghoriad  cenedlaethol  ‘Beth  Nawr?’.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn