Codi dyheadau ar gyfer addysg i ferched Moslemaidd trwy ddileu rhwystrau canfyddedig - Estyn

Codi dyheadau ar gyfer addysg i ferched Moslemaidd trwy ddileu rhwystrau canfyddedig

Arfer effeithiol

Ummul Mumineen Academy


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae 40 o ddisgyblion yn yr ysgol ar hyn o bryd.  Mae hyn yn cynnwys wyth disgybl yn y sector cynradd, a 32 disgybl yn y sector uwchradd.  Mae disgyblion yn dod o’r ardal leol yng Nghaerdydd yn bennaf.

Daw bron pob un o’r disgyblion o grwpiau ethnig lleiafrifol, gan gynnwys tras Arabaidd, Pacistanaidd, Somali ac India’r Gorllewin.  Mae ychydig o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Mae’r ysgol yn ysgol annetholus, ac mae mynediad i’r ysgol yn seiliedig ar ei gallu i ddiwallu anghenion y disgybl.  Mae’n darparu addysg ag ethos Moslemaidd, a chwricwlwm sy’n cynnwys addysgu Arabeg, y Qur’an ac Astudiaethau Islamaidd.  Arwyddair yr ysgol yw ‘Dysgu, Gwella, Cyflawni’ (‘Learn, Enhance, Achieve’).

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Ers ei hagor yn 2016, mae ethos yr ysgol wedi bod yn eithriadol o ofalgar a meithringar, wedi’i seilio ar werthoedd Islamaidd o ran parch ar y ddwy ochr, a pherthnasoedd cryf a chadarnhaol rhwng disgyblion, staff a’r gymuned ehangach.  Ymgorfforir arwyddair yr ysgol, sef ‘Dysgu, Gwella, Cyflawni’ ym mhob agwedd ar ymagwedd yr ysgol, ac fe’i adlewyrchir yn yr amgylchedd meithringar a’r disgwyliadau uchel o ddisgyblion a bennwyd gan athrawon.

Nododd yr ysgol fod amgylchedd meithringar yn allweddol i sefydlu perthynas gadarnhaol rhwng disgyblion, eu cyfoedion a’u hathrawon, a’i fod yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgu a datblygiad disgyblion.  Gyda’r ethos / diwylliant hwn mewn cof, datblygodd yr ysgol ystod eang o strategaethau i godi dyheadau disgyblion, a dileu rhwystrau canfyddedig rhag addysg i ferched.  Roedd cyfarfodydd misol yr athrawon, lle trafodir cynnydd, pryderon, targedau a gofal bugeiliol pob disgybl, yn allweddol i ddatblygu’r strategaethau.  Dros gyfnod, esblygodd y strategaethau hyn gan ddefnyddio adborth gan ddisgyblion ac athrawon.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Un o’r blaenoriaethau allweddol i’r ysgol yw magu hyder ymhlith disgyblion trwy ddangos effaith llais y disgybl ar waith yr ysgol iddynt.  Mae hyn yn bennaf trwy grwpiau ffocws yr ysgol yn annog disgyblion i gael dylanwad; er enghraifft, mae ‘Arsyllwyr Dysgwyr sy’n Fyfyrwyr’ yn arsylwi gwersi ac yn rhoi adborth sy’n dylanwadu ar arfer ystafell ddosbarth, adnoddau a theithiau.  Caiff yr adborth hwn ei gynnwys yn y broses ddatblygedig i arfarnu athrawon, sy’n ystyried cynnydd disgyblion, hunanwerthusiadau athrawon a myfyrdodau proffesiynol, a chanlyniadau monitro gan arweinwyr.  Mae grŵp ffocws arall, sef y Mentoriaid Gweithgar sy’n Cymell (Motivating Active Mentors (MAMs)), yn cymell ei gyfoedion trwy ddechrau teithiau cymhellol a rhoi adborth i athrawon ar y systemau gwobrwyo mwyaf cymhellol.

Mae cwricwlwm teilwredig sy’n dileu rhwystrau rhag addysg i ferched, ac yn codi dyheadau disgyblion, yn ganolog i ymagwedd feithringar yr ysgol.  Mae’r ysgol wedi datblygu’r cwricwlwm hwn i gynyddu deilliannau addysgol, a chyfoethogi profiadau dysgu disgyblion.  Cyflawnir hyn trwy gynnig ystod eang o brofiadau addysgol y tu allan i’r ystafell ddosbarth trwy gefnogi ffydd Islamaidd y disgyblion.  Er enghraifft, mewn gwersi Addysg Gorfforol, mae disgyblion yn cymryd rhan mewn gwersi hunanamddiffyn, a gynhelir mewn neuadd chwaraeon i fenywod yn unig, gan alluogi’r disgyblion i deimlo’n gyfforddus a hyderus yn cymryd rhan.  Hefyd, mae disgyblion yn gweithio’n agos gyda sefydliadau i hyrwyddo cynwysoldeb a dealltwriaeth o ferched Moslemaidd.  Mae enghreifftiau yn cynnwys y cydweithio fu rhyngddyn nhw a Heddlu De Cymru yn ddiweddar i greu gwisg ar gyfer heddweision Moslemaidd sy’n fenywod, ac ymgyrch ‘Crys i bawb’ Undeb Rygbi Cymru.

Un o flaenoriaethau allweddol yr ysgol yw chwalu rhwystrau canfyddedig rhag addysg i ferched Moslemaidd y tu allan i gymunedau’r disgyblion, ac oddi mewn iddynt.  Ymagwedd yr ysgol at hyn yw darparu profiadau neu weithdai sy’n cyfoethogi y tu hwnt i amgylchedd yr ystafell ddosbarth, gan gadw hunaniaeth Islamaidd y disgyblion mewn cof bob amser.  Mae’r profiadau hyn yn gyfle i ddisgyblion ac aelodau’r gymuned, fel ei gilydd, adnabod a gwerthfawrogi gwahaniaeth pan fyddant yn wynebu pobl â chredoau sy’n wahanol i’w rhai nhw eu hunain.  Er enghraifft, trwy gymryd rhan mewn gweithdy yng nghaffi Wild Thing, dysgodd disgyblion am feganiaeth.  Yn ychwanegol, mae’r profiadau hyn yn creu newid cynnil yn yr amgyffrediad o addysg merched.  Tra’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi hunaniaeth Islamaidd ei disgyblion, mae’r ysgol yn darparu cyfleoedd unigryw ac yn ymweld â lleoedd na fyddai llawer o ddisgyblion sy’n fenywod fel arfer yn cael eu profi’n llawn, fel teithiau i Aberogwr, lle bu’r disgyblion yn nofio yn eu dillad allanol Islamaidd (penwisgoedd hijab).  Yn aml, mae’r ysgol yn rhentu sefydliadau cyfan i gynnig amgylchedd cyfforddus, i fenywod yn unig, er mwyn iddynt allu tynnu eu penwisgoedd hijab, er enghraifft rhentu’r parc trampolinio cyfan a thaith wersylla dros nos ar gyfer athrawon a disgyblion, gan alluogi’r naill a’r llall i gymryd rhan yn llawn mewn gweithgareddau.  Eto, er bod hyn yn magu hyder ymhlith disgyblion, mae hefyd yn gyfle i aelodau’r gymuned ehangach y tu allan i’r ysgol gyfarfod â merched ifanc Moslemaidd, a dod i’w hadnabod.  Nod y profiadau hyn yw datblygu ethos i gynnal eu ffydd tra’n ennill profiadau cadarnhaol gwerth chweil.

Yr hyn sydd wrth wraidd ymagwedd yr ysgol at godi dyheadau merched yw’r ddealltwriaeth gref ac ar y cyd gan yr holl randdeiliaid o’i hymagwedd gyfannol a meithringar.  Mae’r ysgol yn mabwysiadu sawl strategaeth ar gyfer yr ymagwedd hon.

  • Caiff y Cynllun Ymyrraeth ei greu ar gyfer disgyblion sydd â gwendidau sylweddol neu sy’n perfformio’n is na’r disgwyl.  Yn y cyfarfodydd misol, mae pob un o’r athrawon yn rhannu gwybodaeth am gynnydd, pryderon a thargedau pob disgybl, ac yn targedu a dyfeisio cynllun ymyrraeth, os bydd angen.  Gosodir nodau i’r disgybl yn unol â’i hanghenion, a rhoddir cymorth iddi, sydd naill ai’n cynnwys gwelliannau yn y dosbarth neu gyrsiau ar-lein y gellir eu gwneud yn yr ysgol neu gartref.  Caiff y cynllun hwn ei fonitro a’i adolygu’n rheolaidd hyd nes bodlonir y canlyniad dymunol.
  • Mae’r Cynllun Cymell wedi’i seilio ar ymagwedd gyfannol yr ysgol at feithrin.  Mae’n amlygu meysydd datblygiad personol i’r disgybl gyrraedd ei photensial uchaf a chodi ei dyheadau.  Mae’n ddeialog ar y cyd rhwng y disgybl a’r athro i nodi ble mae angen cymell disgyblion; er enghraifft, cafodd disgybl Blwyddyn 11 ei dadgymell o ganlyniad i straen a phwysau yn sgil arholiadau.  Caiff cynllun cymell ei ddyfeisio i helpu lleddfu straen a dod â chydbwysedd i gynllun ei hamserlen adolygu.
  • Mae’r adroddiad Ymddygiad Cadarnhaol yn amrywiolyn cyfannol a meithringar i’r ‘adroddiad ymddygiadol’ a ddefnyddir yn aml mewn ysgolion.  Esblygodd o weld  y cywilydd roedd disgyblion yn ei deimlo yn sgil yr ‘adroddiadau ymddygiadol’ safonol; felly, crëwyd ymagwedd gydweithredol a mwy cyfannol at gyflawni’r canlyniad dymunol.  Nod yr adroddiad yw bod disgyblion yn dysgu o’u camgymeriadau ac yn gwella yn y pen draw, ond roedd yr ysgol hefyd eisiau rhoi’r medrau i ddisgyblion ddysgu’n annibynnol, yn hytrach na dim ond dweud wrthyn nhw beth i’w wneud.  Mae’r ysgol yn pwysleisio pwysigrwydd y bartneriaeth rhwng yr ysgol, y disgyblion a’r rhieni, trwy gynnwys rhieni trwy gydol y broses hon ac mewn cyfarfodydd dilynol. Wedyn, mae’r disgybl yn dyfeisio ei thargedau ei hun ar y cyd â’i rhiant a’i hathro.  Bob dydd am bythefnos, bydd yr athrawon yn cofnodi p’un a yw’r disgybl wedi bodloni ei thargedau ai peidio, a chynhelir cyfarfod arall â’r rhieni er mwyn adolygu ar ddiwedd y pythefnos.  Os na fodlonir y targedau, cânt eu hadolygu a’u haddasu yn unol â hynny, hyd nes y caiff gwelliannau eu gwneud.  Mae’r addasiadau calonogol i’r ‘adroddiad ymddygiadol’ a’r ymagwedd at fynd i’r afael â’r gwendidau, yn hyrwyddo perchnogaeth disgyblion o’u dysgu a’u gwelliannau, sydd yn ei dro yn cynyddu eu hunanhyder a’u hunan-barch, gan eu hannog i ymfalchïo yn eu cyfranogiad.
  • Crëwyd llyfryn gwella ar gyfer pob disgybl i fod yn ganolbwynt sylwadau cadarnhaol gan athrawon trwy gydol y flwyddyn.  Mae’n caniatàu ar gyfer hunanraddio bob tymor gan y disgybl unigol hefyd.  Ar ddiwedd y flwyddyn, mae’r disgyblion yn mynd â’r llyfrynnau adref, ynghyd â’u hadroddiad ysgol, ac maent yn gofnod personol ychwanegol o’u cyflawniadau yn academaidd ac yn gymdeithasol.
  • Rhoddir y pecyn cyfnod allweddol 4 i ddisgyblion Blwyddyn 10 ar ddechrau’r flwyddyn, ac mae’n cynnwys offer i’w helpu i feithrin medrau trosglwyddadwy sydd eu hangen arnynt mewn byd gwaith neu addysg bellach.  Mae’r llyfrynnau graddau pwnc yn cynnig lle i ddisgyblion werthuso eu hasesiadau, gan edrych ar yr hyn a aeth yn dda a’r hyn y mae angen iddynt ei ddiwygio.  Mae’n helpu disgyblion i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu, a datblygu medrau hunanfonitro a dyfalbarhad.  Mae hefyd yn cynnwys dyddlyfr myfyriol sy’n dogfennu llwyddiannau a chamgymeriadau dysgu disgyblion, ac arferion bwyta a chysgu i fonitro effaith y rhain ar eu cynnydd academaidd.  Mae’r elfennau dysgu annibynnol hyn yn helpu disgyblion i ddatblygu hyder a gwydnwch.  

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Yn yr arolwg diweddaraf o Agweddau Disgyblion Atyn Nhw eu Hunain a’r Ysgol, roedd gan bron bob un o’r disgyblion agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu, ac maent yn hapus yn yr ysgol.  Amlygodd holiaduron a ddyfeisiwyd gan yr ysgol ar gyfer disgyblion a rhieni fod yr ysgol yn darparu amgylchedd dysgu meithringar a chadarnhaol yn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan.  Mae canlyniadau TGAU diweddar yr ysgol yn dangos gwelliant nodedig, y gellir ei briodoli’n rhannol i’r cynlluniau amrywiol a roddwyd ar waith i ddiwallu anghenion pob dysgwr unigol.  Mae’r ysgol wedi gweld effaith ar ddyheadau disgyblion hefyd, o ganlyniad i gynyddu gweithgareddau addysgol, a llais y disgybl.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn rhannu arfer dda gyda’r holl randdeiliaid, ar wefannau cymdeithasol fel Twitter a Facebook, ac ar wefan yr ysgol.