Codi cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau plant sy’n derbyn gofal: adroddiad arfer orau
Argymhellion
Dylai ysgolion:
-
A1 Adeiladu ar arfer orau yn unol â nodweddion ysgolion effeithiol a nodwyd yn yr adroddiad hwn
Dylai awdurdodau lleol:
-
A2 Adeiladu ar arfer orau yn unol â nodweddion awdurdodau lleol effeithiol a nodwyd yn yr adroddiad hwn
Dylai’r consortia rhanbarthol:
-
A3 Wella’r modd y maent yn cynllunio’r Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer plant sy’n derbyn gofal i wneud yn siŵr bod ysgolion yn glir ynglŷn â’r blaenoriaethau ar gyfer defnyddio’r grant a bod eu cynlluniau’n rhoi digon o ystyriaeth i anghenion cymhleth plant sy’n derbyn gofal
Dylai Llywodraeth Cymru:
-
A4 Ystyried ehangu mesurau perfformiad i gynnwys cynnydd o gymharu â man cychwyn y plant ac yn ymestyn y tu hwnt i oedran ysgol statudol
-
A5 Gwneud yn siŵr bod cynlluniau gwariant y consortia rhanbarthol yn briodol i angen lleol ac wedi eu seilio ar ddadansoddiad cadarn o anghenion plant sy’n derbyn gofal