Gellir grwpio’r rhwystrau y mae dysgwyr anabl yn eu hwynebu yn bedwar maes, yn ymwneud â’r swydd, y cyflogwr, y gweithiwr a’r cymorth. Mae rhwystrau’n bodoli o ran natur y swyddi sy’n cael eu cynnig, y diffyg dealltwriaeth ymhlith cyflogwyr ynglŷn ag anghenion gweithwyr anabl, lefel hunanhyder isel darpar weithwyr, a pha mor anodd yw hi i gael at wasanaethau’r Ganolfan Byd Gwaith.
Mae darparwyr dysgu yn y gwaith ac asiantaethau cyflogaeth yn cynorthwyo cyflogwyr i addasu arferion er mwyn integreiddio cleientiaid ag anableddau yn y gweithle yn gyfartal. Fodd bynnag, nid yw rôl darparwyr wrth chwalu rhwystrau wedi’i sefydlu’n ddigon da ac nid oes digon o gysylltiadau rhwng asiantaethau allanol, cyflogwyr a darparwyr.
Rhwystr mawr i ddysgwyr duon ac ethnig lleiafrifol yw amgyffrediad eu rhieni mai i’r rheiny sydd heb wneud yn dda yn yr ysgol y mae prentisiaethau. Mae darparwyr dysgu yn y gwaith yn mynd i’r afael â’r amgyffredion negyddol hyn trwy gyflogi swyddogion recriwtio arbenigol sy’n darparu gwell gwybodaeth, cymorth ac arweiniad i bobl ifanc.
The report contains a number of case studies on how barriers to apprenticeship can be overcome, including work undertaken by Cwm Tawe Health Board, and Cardiff and the Vale University Health Board.