Cefnogi ymgysylltiad rhieni trwy weithdai - Estyn

Cefnogi ymgysylltiad rhieni trwy weithdai

Arfer effeithiol

St Julian’s Primary School


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd St. Julian yn ysgol gynradd fawr yn awdurdod lleol Casnewydd.  Mae 687 o ddisgyblion 3 i 11 oed yn yr ysgol, gan gynnwys 75 o ddisgyblion sy’n mynychu’r feithrinfa yn rhan-amser.  Mae 23 o ddosbarthiadau un oedran yn yr ysgol.  Canran y disgyblion sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim yw 18%.  Daw’r rhan fwyaf o’r disgyblion o gartrefi lle siaredir Saesneg fel y brif iaith.  Mae anghenion dysgu ychwanegol gan 20% o ddisgyblion, gan gynnwys 18 disgybl â datganiadau o anghenion addysgol.  Mae ychydig o ddisgyblion yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.  Mae’r ysgol yn Ysgol Arloesi Ddigidol a Dysgu Proffesiynol.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Nododd yr ysgol yr angen i wella ymgysylltiad â rhieni, er mwyn i rieni gefnogi dysgu eu plant eu hunain.  O ganlyniad, sefydlodd yr ysgol Bwyllgor FaCE (Ymgysylltu â Theuluoedd a’r Gymuned / Family and Community Engagement), yn cynnwys staff o’r ysgol, gyda’r nod o wella ymgysylltiad â rhieni drwy ddigwyddiadau gwahanol. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu weithgaredd

Edrychodd y Pwyllgor FaCE ar yr hyn yr oedd yr ysgol eisoes yn ei wneud i hyrwyddo ymgysylltu â rhieni a sut gellid datblygu hyn ymhellach.  I ddechrau, roedd hyn ar ffurf holiadur i rieni, ac yna drwy annog rhieni i lenwi bonyn sylwadau yn ystod digwyddiadau presennol ymgysylltu â rhieni er mwyn gweld sut y gellid eu gwella.  Caiff effaith pob digwyddiad ar safonau a lles disgyblion ei gwerthuso, ac addasir digwyddiadau yn unol â hynny. Ceir cylch o weithdai a digwyddiadau llwyddiannus yn Ysgol Gynradd St Julian sy’n cael eu rhedeg gyda theuluoedd, ac mae’r ysgol o’r farn fod y cyfleoedd hyn yn cefnogi dysgu a lles yn y cartref ac yn yr ysgol.  Y nod yw gwneud i rieni deimlo’n esmwyth yn yr ysgol a’u helpu i fwynhau’r digwyddiadau ochr yn ochr â’u plentyn.  Isod, gwelir enghreifftiau o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn yr ysgol i hyrwyddo dysgu a lles:

Digwyddiad ‘Bake Off’ St Julian: Mae’r digwyddiad hwn, sy’n cynnwys rhiant yn gweithio gyda’r plentyn, yn rhoi cyfleoedd ar gyfer datblygu medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion.  Mae disgyblion yn darllen ryseitiau ac yn dilyn cyfarwyddiadau.  Maent yn cyfleu ac yn egluro beth maent yn ei wneud i’r camera, ac mae hyn yn helpu meithrin hyder.  Mae disgyblion yn pwyso’r cynhwysion, yn cyfrifo cymarebau, ac yn amseru faint o amser sydd angen ar y gacen yn y ffwrn.  Mae cymhwyso’u medrau rhifedd mewn cyd-destunau go iawn yn helpu cyfnerthu a datblygu’u dealltwriaeth.  Hefyd, mae hyn yn helpu annog rhieni i gynnal gweithgareddau tebyg gartref.

Gweithdai mewn Llythrennedd a Rhifedd: Cred yr ysgol ei bod yn bwysig ymgysylltu â theuluoedd mor gynnar ag y bo modd er mwyn sefydlu partneriaethau cryf.  Caiff rhieni eu gwahodd i weithdy 45 munud, a gynhelir yn ystafell ddosbarth eu plentyn.  Mae’r athro dosbarth yn dangos gweithgaredd i’r rhieni a disgyblion, er enghraifft sut maent yn addysgu adio, llunio llythyr, a strategaethau sillafu.  Gosodir byrddau o amgylch y dosbarth gyda strategaethau ar sut y gellir datblygu medrau llythrennedd a rhifedd gartref, fel gyda gwefannau addysgol a ddefnyddir gan ddisgyblion, cardiau llunio llythyrau, a gemau mathemateg.  Mae hyn yn rhoi cyfle i rieni weld beth sy’n cael ei addysgu yn yr ysgol ac i barhau â hyn gartref mewn modd cyson.  Mae pawb sy’n mynychu’r gweithdai yn derbyn bag o adnoddau i barhau i gefnogi dysgu gartref, fel bwrdd gwyn, cloc cardbord, dis a chownteri, pensil, teclyn dal pensil, cyfeiriadau gwefannau, ac arian plastig.

‘Llanciau a Thadau’: Dyfeisiodd yr ysgol raglen chwe wythnos o weithgareddau fyddai’n cael eu cynnal ar ôl ysgol, gyda’r nod o helpu tadau feithrin a thyfu perthnasoedd cadarnhaol gyda’u meibion.  Bob wythnos, mae’r timau yn cymryd rhan mewn her wahanol, gan gynnwys chwaraeon, coginio a heriau goroesi a chyfrifiadura.  Caiff y sesiynau eu ffilmio a’u rhannu gyda’r ‘Llanciau a Thadau’ a’u teuluoedd.  Mae’r ‘Llanciau a’u Tadau’ yn gwerthuso effaith y rhaglen ar ôl y sesiwn olaf.  Yn ogystal â meithrin perthnasoedd gyda’u meibion, mae’r rhaglen yn helpu tadau hefyd i feithrin perthnasoedd gyda staff yr ysgol a rhieni eraill, gan ddatblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu felly. http://www.stjuliansprimary.com/lads-and-dads-programme/

Fideos ‘Helpu Gartref’: Mae’r ysgol wedi cynhyrchu a chyhoeddi nifer o fideos ar wefan yr ysgol, sy’n dangos strategaethau ar gyfer cefnogi disgyblion gyda’u dysgu gartref, fel sut i ddatrys problemau mathemateg amrywiol, llunio llythyrau, caneuon ffoneg a medrau Cymraeg a TGCh sylfaenol.  Gall rhieni wylio’r fideos hyn gyda’u plant a sicrhau eu bod yn defnyddio ymagwedd gyffredin gyda’r ysgol.

Ap ffôn symudol: Mae’r ysgol yn cyhoeddi gwybodaeth fel gwybodaeth gyfredol am bresenoldeb ac asesu drwy ap ffôn symudol i rieni.  Mae rhieni’n gallu mewngofnodi i wefan gysylltiedig i weld gwybodaeth olrhain asesu benodol ar gyfer eu plentyn.  Er enghraifft, gall rhieni weld cynnydd eu plentyn mewn dysgu a chymhwyso tablau lluosi.  Maent yn gwybod wedyn pa dablau i’w hymarfer gyda’u plentyn gartref.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

  • Mae presenoldeb mewn digwyddiadau ymgysylltu â rhieni wedi cynyddu’n sylweddol.  Mae’r ymgysylltu â rhieni sy’n anodd eu cyrraedd, fel rhieni nad ydynt yn gallu dod at ddrws yr ystafell ddosbarth neu fynychu ymgyngoriadau rhieni, wedi gwella hefyd ar ôl meithrin ymddiriedaeth gyda staff.  Mae rhieni’n adnabod yr athrawon ac yn teimlo’n hyderus i fynd atynt.
  • Mae perthnasoedd rhwng staff a disgyblion yn gwella pan fydd perthnasoedd gyda rhieni yn gryfach.
  • Mae hyder rhieni wrth helpu’u plant ddysgu gartref wedi gwella, er enghraifft rhoi cyfle i rieni edrych ar y strategaethau addysgu y mae’r ysgol yn eu defnyddio ac i barhau’r rhain gartref.
  • Caiff y broses effaith gadarnhaol ar les disgyblion, gan arwain at fwy o gynnydd mewn dysgu, a darparu profiadau gydol oes i blant na fyddant yn cael y rhain gartref o bosibl.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol yn rhannu ei harfer dda gyda rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned leol drwy ei gwefan a’i chyfrif Twitter.  Mae ysgolion eraill ar draws y consortiwm wedi ymweld â’r ysgol, ac mae’r arfer dda yn cael ei rhannu gyda Rhwydwaith FaCE y Gwasanaeth Cyflawni Addysg. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn