Cefnogi teuluoedd trwy’r argyfwng costau byw

Arfer effeithiol

Western Learning Federation Riverbank Special School


Gwybodaeth am yr ysgol

Lleolir Ysgol Riverbank yng ngorllewin Caerdydd ac mae’n rhan o’r Western Learning Federation, yn gweithio ochr yn ochr ag Ysgolion Tŷ Gwyn a Woodlands. Fe’i cynhelir gan awdurdod lleol Cyngor Dinas Caerdydd. Mae anghenion dysgu ychwanegol amrywiol gan y disgyblion. Mae gan ychydig o dan hanner ohonynt anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu ac mae gan chwarter arall ohonynt gyflwr ar y sbectrwm awtistig. Mae gan ychydig o dan ddau o bob pum disgybl anawsterau dysgu difrifol. Mae gan 14% o’r disgyblion anhawster dysgu cyffredinol a/neu anghenion corfforol a meddygol. Mae gan bron pob un o’r disgyblion Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig neu Gynllun Datblygu Unigol sy’n cynnwys anawsterau corfforol, synhwyraidd, meddygol, emosiynol ac ymddygiadol.

Saesneg yw prif iaith llawer o ddisgyblion. Ar hyn o bryd, nid yw’r un o’r disgyblion yn siarad Cymraeg mamiaith. Daw ychydig o dan un o bob pump o’r disgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol ac mae ychydig dros chwarter o ddisgyblion a’u teuluoedd yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae ychydig dros draean o ddisgyblion yn cael prydau ysgol am ddim.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol yn dod yn fwyfwy ymwybodol y gall rhai teuluoedd fod yn cael trafferth ariannol oherwydd yr argyfwng costau byw.

Cydnabu’r ysgol nad oedd pob teulu’n gwybod am wybodaeth a chymorth a allai fod o ddefnydd iddynt. Deallodd yr ysgol yn llawn fod hyn, o bosibl, yn fater sensitif iawn i deuluoedd.

 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Penderfynodd yr ysgol fod angen iddi gyfeirio rhieni at y gwahanol fathau o gymorth a oedd ar gael.

Cynhaliodd yr ysgol Ddiwrnod Hwyl i’r Teulu, gan wahodd asiantaethau amrywiol i fod yn bresennol. Caniataodd yr amgylchedd anffurfiol hwn i rieni siarad â chydweithwyr o wahanol asiantaethau cymorth. Roedd staff asiantaeth yn gallu rhannu gwybodaeth am gyllid, gan gynnwys grantiau, gyda rhieni. Defnyddiwyd ap cyfathrebu i rannu gwybodaeth hefyd.

Hefyd, mae’r ysgol yn cynnal y gwasanaeth cynghori ariannol, lle y gall teuluoedd gyfarfod â chynghorwyr dros goffi a sgwrs. Mae’r teuluoedd sydd wedi manteisio ar y sesiynau galw heibio cyfrinachol hyn wedi’u gwerthfawrogi.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae teuluoedd yn fwy hyderus a chyfforddus i droi at staff am gyngor neu gyfeirio ynghylch arian neu unrhyw bryderon eraill sydd ganddynt. Mae gan staff ysgol fwy o ymwybyddiaeth o anghenion teuluoedd unigol a sut i gyfeirio teuluoedd orau.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn