Argymhellion
Dylai cwmnïau Gyrfa Cymru:
- sicrhau bod Rhwydweithiau Dysgu yn glir ynglÅ·n â’r gwasanaethau y mae cwmnïau Gyrfa Cymru yn eu darparu yn eu cyllid craidd;
- gwella dealltwriaeth partneriaid o’r ffiniau rhwng rolau anogwyr dysgu ac ymgynghorwyr gyrfaoedd; ac
- adolygu, ar lefel strategol, y modd y gall cynlluniau busnes a modelau adnodd ymateb yn well i ddatblygiadau Llwybrau Dysgu.
Dylai Rhwydweithiau Dysgu:
- wneud y defnydd gorau o wybodaeth am y farchnad lafur a’r wybodaeth am gyrchfannau dysgwyr y mae cwmnïau Gyrfa Cymru yn eu llunio er mwyn cynllunio darpariaeth.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- sicrhau bod cyfatebiaeth briodol rhwng anghenion dysgwyr ac argaeledd dysgu yn y gwaith addas; a
- sefydlu canllawiau clir i egluro rôl anogwyr dysgu a gwella cysondeb y ddarpariaeth.