Cefnogi llesiant emosiynol disgyblion - Estyn

Cefnogi llesiant emosiynol disgyblion

Arfer effeithiol

Woodlands Community Primary School


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Woodlands yng Nghwmbrân Uchaf yn Nhorfaen.  Mae 342 o ddisgyblion ar y gofrestr.  Mae hyn yn cynnwys 41 o ddisgyblion rhan-amser yn nosbarth meithrin yr ysgol.  Mae’r ysgol yn trefnu disgyblion yn ganolfan ddysgu ar gyfer disgyblion ag anghenion cymhleth, ac yn 11 dosbarth; pum dosbarth oedran cymysg, a chwe dosbarth un oedran.  Mae ymwelwyr iechyd yn gweithio yn yr ysgol, ac mae Canolfan Integredig i Blant ar y safle.

Y cyfartaledd tair blynedd ar gyfer disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yw tua 28%.  Mae’r ffigur hwn uwchlaw cyfartaledd Cymru, sef 18%.  Daw bron pob un o’r disgyblion o gartrefi lle siaredir Saesneg fel mamiaith.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan ryw 21% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig.  Mae hyn gyfwerth â chyfartaledd cenedlaethol Cymru, sef 21%.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol yn rhagweithiol o ran cefnogi lles disgyblion, ac mae’n ymwybodol iawn o’r materion lles posibl y gallai rhai disgyblion eu hwynebu.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae’r ysgol yn darparu ystod gynhwysfawr o strategaethau i gefnogi lles disgyblion o’r cyfnod cyn-ysgol i Flwyddyn 6, gan gynnwys cymorth i ddatblygu lles emosiynol, gwydnwch a dyfalbarhad plentyn.  Mae hyn yn helpu cynorthwyo’r plentyn, er enghraifft i ymdopi â thrawma, a cheir rhwydwaith cymorth ar gyfer y teulu cyfan wrth ddelio ag amgylchiadau anodd.  Mae’r ysgol yn defnyddio gwahanol dechnegau i gefnogi datblygiad emosiynol a chymdeithasol disgyblion.  Caiff disgyblion eu cefnogi ymhellach gan raglenni teilwredig i ddatblygu eu hunan-barch a’u medrau cymdeithasol, i’w helpu i reoli eu teimladau a hyrwyddo empathi.  Gwneir defnydd da o asiantaethau allanol i gefnogi’r gwaith hwn ymhellach, a darparu cymorth dwys ar gyfer disgyblion penodol, yn ôl yr angen.  Caiff teuluoedd eu cefnogi o’r adeg y mae eu plant yn fabanod a thrwy gydol eu bywyd ysgol, trwy gyfuniad o gyngor, hyfforddiant a chyfeirio trwy gysylltiadau cryf ag asiantaethau allanol.  Caiff disgyblion hŷn eu hannog i ‘hunangyfeirio’ neu godi pryderon am broblemau gyda’u ffrindiau.  Mae hyn wedi galluogi’r ysgol, er enghraifft, i gynorthwyo disgyblion â gorbryder neu broblemau hunan-niweidio.  Caiff hyn ei gyfoethogi ymhellach gan y cyfle i ddisgyblion ymarfer technegau myfyrio ac ymlacio.  Yn yr un modd, caiff teuluoedd eu hannog i geisio cymorth gan yr ysgol trwy amrywiaeth o ddigwyddiadau, er enghraifft gan alluogi’r ysgol i gynorthwyo teuluoedd â phroblemau tai ac sy’n cael prydau ysgol am ddim.  Yn ychwanegol, mae’r ysgol yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol i gynorthwyo teuluoedd sy’n byw mewn tlodi trwy ddarparu gwybodaeth reolaidd, gyfoes am sut i gael cymorth a chyngor.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r ysgol yn nodi gwelliannau mesuradwy mewn presenoldeb, ymddygiad, lles a chyflawniad disgyblion.  Dyma ychydig o enghreifftiau:

  1. Rhoddwyd ymyrraeth benodol i grŵp o fechgyn a oedd yn mynd i helynt ar yr iard yn barhaus, ar ffurf medrau cymdeithasol, ymgyfarwyddo â rheolau maes chwarae, trwy chwarae mewn grwpiau bach, a chymryd cyfrifoldeb am ddisgyblion iau sy’n fwy agored i niwed.  O ganlyniad, trwy eu hailgyflwyno i’r iard yn raddol gyda chymorth a monitro manwl, bu gwelliant yn eu hymddygiad, gan arwain at lai o ddigwyddiadau difrifol a chynnydd gwell yn eu dysgu a’u lles.
  1. Roedd disgybl a oedd yn cael ei addysgu y tu allan i’r dosbarth yn ei ysgol flaenorol yn dangos lefelau uchel o ymddygiad gorbryderus.  Yn aml, roedd hyn yn arwain at ddigwyddiadau difrifol   pan oedd angen cymorth anogol dwys.  Wedi iddo gyrraedd yr ysgol, roedd yn cael croeso cynnes gan bob un o’r staff a byddai’n cael ychydig o amser cymdeithasol yn sicrhau bod ganddo’r agwedd meddwl gywir i fynd i’r dosbarth.  Rhoddwyd man diogel iddo yn y dosbarth ar gyfer adegau gorbryderus.  Defnyddiwyd gweithgareddau meddylgarwch yn rheolaidd.  Yn ychwanegol, defnyddiwyd cyfiawnder adferol, hanesion cymdeithasol a dulliau meddylfryd twf i fynd i’r afael ag unrhyw ddigwyddiad difrifol.  O ganlyniad, caiff y disgybl ei addysgu yn y dosbarth yn bennaf erbyn hyn, ac fe gaiff unrhyw ddigwyddiadau eu hatal yn gyflym heb effeithio rhyw lawer ar drefniadaeth yr ysgol.  Mae’r disgybl ar y trywydd iawn i gyflawni’r lefel ddisgwyliedig ar ddiwedd y sector cyfnod allweddol.
  1. Rhoddwyd sesiynau anogaeth yn ystod y clwb brecwast i bump o blant a oedd yn amharod i ddod i’r ysgol, a defnyddiwyd eu diddordebau fel cymhellion.  O ganlyniad, mae eu hagwedd at ddod i’r ysgol a’u presenoldeb wedi gwella’n fawr.
  1. Fe wnaeth chwech o deuluoedd a ddaeth i’r ysgol am gymorth i reoli ymddygiad eu plant gartref adrodd am welliant sylweddol ar ôl manteisio ar gymorth, ac yn dilyn y cyngor a gynigiwyd.  Fe wnaeth sefydliadau allanol gynorthwyo’r teuluoedd oedd â phlant ag anhwylder y sbectrwm awtistig (ASA).  Gwnaed amserlenni gweledol ar gyfer y cartref, a defnyddiwyd dull cynllunio yn canolbwyntio ar yr unigolyn i alluogi rhieni i gynorthwyo eu plentyn.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhannwyd elfennau arfer â nifer o ysgolion ar draws yr awdurdod lleol, a thu hwnt.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn