Cefnogi lles disgyblion - Estyn

Cefnogi lles disgyblion

Arfer effeithiol

Pencaerau Primary School


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Pencaerau ar gyrion Caerdydd.  Mae 273 o ddisgyblion 3-11 oed wedi eu cofrestru yn yr ysgol, gan gynnwys 60 o ddisgyblion sy’n mynychu’r dosbarth meithrin.  Mae naw dosbarth un oedran, gan gynnwys dau ddosbarth yn y meithrin.  Mae mwy na 40% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim ar gyfartaledd dros dair blynedd, sydd gryn dipyn yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 18%.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan 18% o’r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol.

Mae tua 78% o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig gwyn Prydeinig, a 22% o ddisgyblion o grwpiau ethnig lleiafrifol amrywiol.  Nid yw unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Yn Ysgol Gynradd Pencaerau, ceir model sefydledig cryf o weithio mewn partneriaeth sy’n cyfoethogi’r ddarpariaeth ar gyfer yr holl ddisgyblion.  Mae’r rhain yn gwneud cyfraniad rhagorol at godi safonau yn yr ysgol.  Rhoddir pwyslais cryf ar les staff, ac yn ogystal â darparu gweithgareddau allgyrsiol cyfoethogi ar gyfer disgyblion, mae amrywiaeth o glybiau lles ar gael i staff.  Mae’r rhain yn cynnwys Tai Chi, dawnsio a chadw’n heini.  I gydnabod yr ymdrech ychwanegol mae’r ysgol yn ei gwneud o ran lles, mae wedi ennill gwobr Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl yn ddiweddar.  Hon yw’r unig ysgol gynradd yng Nghymru i ennill y wobr ar hyn o bryd.

Mae Ysgol Gynradd Pencaerau wedi meithrin perthnasoedd gweithio cryf fesul blwyddyn gyda rhieni a gofalwyr.  Bu ymglymiad rhieni yn ffactor allweddol, ac mae wedi cynnal effaith gadarnhaol ar agweddau at ddysgu a balchder yn yr ysgol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

“Mae’r ysgol yn darparu amgylchedd heddychlon a chroesawgar ar gyfer yr holl ddisgyblion.  Mae’n gymuned eithriadol o hapus a gofalgar, y mae llawer o ddisgyblion yn ei hystyried yn ail gartref.”

Mae staff ymroddgar ac ymroddedig yn yr ysgol, sydd i gyd yn rhannu’r un egwyddorion ar gyfer datblygu hunan-barch disgyblion ac annog syniadau a meddwl dyheadol.  Ceir lefel uchel o agwedd ‘rhoi cynnig arni’ ac awydd i fentro o ran syniadau neu ddulliau newydd.  Mae hyn oherwydd bod pob un o’r staff yn rhan o’r cynllunio a’r trafodaethau am gysyniadau newydd, a gallant rannu meddyliau a syniadau yn agored, a nodi unrhyw betruster cyn eu rhoi ar waith.

Mae disgyblion yn rhan o’r broses hefyd, ac ymgynghorir â nhw yn rheolaidd.  Ystyrir eu syniadau a’u meddyliau wrth gynllunio gweithgareddau’r cwricwlwm a gweithgareddau allgyrsiol.  Er bod y broses hon yn mynd ymlaen trwy gydol y flwyddyn, mae’r ysgol yn cynnal Diwrnodau Arloesi ar wahân er mwyn i gymuned yr ysgol gyfan gymryd rhan yn y broses.

Mae gan ddisgyblion ymdeimlad gwych o falchder a pherthyn i’r ysgol gan fod eu barnau wedi cael eu hystyried yn ddiffuant, a rhoddir syniadau ar waith lle bo’n briodol.  Dros y blynyddoedd, mae Ysgol Gynradd Pencaerau wedi datblygu gwerthoedd craidd ar gyfer y dosbarth, sy’n cael eu datblygu a’u meithrin fesul blwyddyn.  Mae gan bob dosbarth werth penodol i’w archwilio yn ystod y flwyddyn academaidd honno.  Trwy wasanaethau a diwrnodau agored, mae’r dosbarthiadau’n rhannu gwybodaeth a chipolygon o werthoedd dosbarth gyda chymuned ehangach yr ysgol.  Mae hyn yn ymgorffori’r cysyniadau gwerth ac yn arwain at les cadarnhaol yn y pen draw.

“Mae gan yr ysgol bartneriaeth effeithiol iawn gyda rhieni, sy’n sylfaen gref i ddisgyblion ffynnu a dysgu.”

Mae Ysgol Gynradd Pencaerau yn rhoi pwys mawr ar feithrin perthnasoedd cadarnhaol rhwng y cartref a’r ysgol.  Mae gan yr ysgol arweinydd ymgysylltu â rhieni hynod fedrus sydd wedi rhoi nifer o weithdai a rhaglenni ar waith, sy’n datblygu medrau a diddordebau rhieni i gefnogi lles a dysgu eu plant gartref.  Mae’r ysgol wedi treulio sawl blwyddyn yn datblygu amrywiaeth eang o weithgareddau i annog rhieni i gymryd rhan.  Mae’n monitro llwyddiant ac effaith y rhaglenni, ac yn eu diweddaru’n rheolaidd i gynnal a denu diddordeb newydd.

Mae’r ysgol yn parhau i gael partneriaeth lwyddiannus â Phrifysgol Caerdydd, lle gall rhieni ddilyn cyrsiau mynediad dethol i’w galluogi i gofrestru ar gyfer cyrsiau yn y cam sylfaen yn y dyfodol.  Mae sawl un o’r rhieni wedi llwyddo i fanteisio ar y cyfle hwn.

Mae Ysgol Gynradd Pencaerau yn parhau i feithrin arfer lwyddiannus flaenorol.  Mae’r ysgol wedi datblygu ei chyfleoedd rhwydweithio ymhellach â sawl ysgol leol, genedlaethol a rhyngwladol.  Mae hyn wedi sicrhau bod mentrau a syniadau newydd yn parhau i lifo, a bod cyfleoedd i ddatblygu arfer dda ymhellach.  Mae’r ysgol wedi meithrin partneriaethau rhyngwladol cryf fel dilyniant i’w rôl o fewn prosiect Erasmus.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Ceir mwy o ymdeimlad o hunan-barch gan gymuned yr ysgol gyfan erbyn hyn, yn ogystal â datblygu mwy o wydnwch wrth ymdrin â syniadau a chysyniadau newydd.  Bu hyn yn amlwg yn y safonau uchel parhaus a gyflawnir, a’r gwerth ychwanegol, cryf o ddechrau yn yr ysgol hyd ddiwedd cyfnod allweddol 2 ar gyfer bron pob un o’r disgyblion.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol wedi parhau i ddatblygu ei phartneriaeth ryngwladol ac wedi cynnal ymweliadau pellach gan bobl o wledydd Ewropeaidd i gyfnewid syniadau ar gyfer cymorth â lles ac arweiniad.  Mae rhieni wedi arwain rhai o’r gweithdai, a bu tîm arweinyddiaeth yr ysgol yn cyfnewid arfer orau.  Rhannwyd arfer orau yn ystod diwrnodau hyfforddi’r consortiwm a’r awdurdod lleol hefyd.

Mae prosiectau niferus yr ysgol i ymgysylltu â rhieni wedi cael eu dathlu a’u rhannu trwy ddigwyddiad a groesawodd weithwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru.  Mae hyn yn diweddu â seremoni wobrwyo i ddathlu cyflawniadau diwedd blwyddyn y gweithdai a’r rhaglenni.  Mae disgyblion yn eithriadol o falch o weld eu rhieni’n cael eu gwobrwyo ar yr achlysuron hyn.  Sefydlwyd sawl un o’r rhaglenni i rieni weithio ochr yn ochr â’u plant, ac maent yn cwmpasu amrywiaeth o feysydd, er enghraifft te, tost a chwedlau, crochenwaith, a rhaglenni TG i ddechreuwyr.