Cefnogi iechyd meddwl ‘cymuned’ yr ysgol - Estyn

Cefnogi iechyd meddwl ‘cymuned’ yr ysgol

Arfer effeithiol

Bryn Teg Primary


Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Ysgol Bryn Teg yn gwasanaethu ardal Llwynhendy, Llanelli, yn Sir Gaerfyrddin. Mae’n ardal ag amddifadedd uchel (MALlC 2019): yn y 10% uchaf o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig ar gyfer incwm, cyflogaeth, iechyd ac addysg. Mae hefyd yn y 30% uchaf ar gyfer diogelwch cymunedol. Mae’r lefel cyrhaeddiad a’r gwaelodlin ar yr adeg y bydd disgyblion yn dechrau ymhell islaw deilliannau disgwyliedig yn gysylltiedig ag oedran ar gyfer carfannau 2020 a 2021.

Mae tua 280 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae dros 40% o ddisgyblion yr ysgol yn cael prydau ysgol am ddim, ac mae angen cymorth ychwanegol ar lefel uchel o deuluoedd ar incwm isel. Nodwyd bod gan ddau ddeg y cant o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig, gyda lleoliad arbenigol lleferydd ac iaith sy’n darparu ar gyfer disgyblion ar draws yr awdurdod lleol. 
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae’r ysgol gymunedol glòs hon yn credu yng ngwerth y teulu a’r gymuned, gan roi pwyslais mawr ar y bartneriaeth sy’n bodoli rhwng y cartref, yr ysgol a’r gymuned. Mae craffter y pennaeth i gyflogi Swyddog Cynnwys Teuluoedd (Swyddog Cynnwys Teuluoedd er 2017) wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran cefnogi’r weledigaeth hon. 

Nododd staff yr ysgol a’r gwasanaeth seicoleg addysg fod angen cynyddol am gymorth iechyd meddwl trwy gydol cyfnodau clo. Yn sgil y galw cynyddol, anhawster yn cael cymorth ar gyfer iechyd meddwl plant a gwasanaethau cwnsela, cyflogwyd Ymarferwr Iechyd Meddwl gan y pennaeth.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r Ymarferwr Iechyd Meddwl wedi dod yn ganolog i iechyd meddwl a lles disgyblion yn yr ysgol, er ei fod yn gymharol newydd. Mae saith disgybl yn cael sesiwn un i un wythnosol gyda’r Ymarferwr Iechyd Meddwl. Mae disgyblion yn mynychu sesiynau gyda’r Ymarferwr Iechyd Meddwl yn ystod amser chwarae ac amser cinio, a 26% o ddisgyblion ar draws yr ysgol yn mynychu. Mae dau ddisgybl wedi cwblhau sesiynau, a phump o blant yn cael mwy i gefnogi’r anghenion. 
Darparwyd cymorth teilwredig ar gyfer y teuluoedd sy’n cael eu herio fwyaf trwy’r Ymarferwr Iechyd Meddwl i deuluoedd. Mae un teulu wedi cael cymorth trwy sesiynau wythnosol, ac mae ail deulu wrthi’n mynd trwy’r broses hon. Mae’r Ymarferwr Iechyd Meddwl wedi darparu hyfforddiant a goruchwyliaeth ar gyfer staff, gan gynnwys hyfforddiant sy’n ystyriol o drawma.
Mae’r Swyddog Cynnwys Teuluoedd a’r Ymarferwr Iechyd Meddwl wedi cyflwyno sesiynau i rieni yn yr ysgol i gynorthwyo iechyd meddwl plant, a mynychodd 11 o rieni’r sesiwn gyntaf. Mae sesiynau ar hunanreoleiddio ar gyfer rhieni i gefnogi iechyd meddwl disgyblion a rhieni yn parhau.
Caiff Arolwg PASS ei weinyddu ddwywaith y flwyddyn i nodi plant sydd angen cymorth. Mae arweinwyr yr ysgol, h.y. y pennaeth, y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CydADY), yr Ymarferwr Iechyd Meddwl, a’r arweinydd Iechyd a Lles, yn cyfarfod i adolygu’r canfyddiadau. Cyfeirir disgyblion sy’n peri pryder at yr Ymarferwr Iechyd Meddwl ar gyfer sesiynau un i un. Nododd canlyniadau arolwg Agweddau Disgyblion Atyn Nhw eu Hunain a’r Ysgol (PASS) fod llawer (88%) o ddisgyblion y cyfnod sylfaen yn parchu hunan-werth dysgwyr. Mae gan fwyafrif o ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 (60%) lawer o hunan-barch fel dysgwyr. Mae strategaethau i gefnogi hunan-werth dysgwyr wedi cael eu rhannu gyda staff i gynorthwyo disgyblion.

Yn ystod y cyfnodau clo, cyflwynodd y Swyddog Cynnwys Teuluoedd sawl gweithdy rhianta ar-lein i gynorthwyo rhieni a theuluoedd ag iechyd meddwl. O ganlyniad i sefydlu trefn a hyrwyddo strategaethau ymddygiad cadarnhaol, mynychodd saith o rieni. Gwnaed saith atgyfeiriad gan y Swyddog Cynnwys Teuluoedd i’r Tîm o Amgylch y Teulu er mis Rhagfyr 2021. Mae holiaduron wedi cael eu llenwi gyda rhieni gan y Swyddog Cynnwys Teuluoedd i sefydlu eu blaenoriaethau ar gyfer sesiynau cymorth pellach. Mae arolygon dilynol yn caniatáu ar gyfer adborth, ac achubir ar gyfleoedd i gynnwys lles meddyliol.

Ers dychwelyd, mae’r Swyddog Cynnwys Teuluoedd yn cyfarfod â chymuned yr ysgol bob bore yn ystod amseroedd gollwng disgyblion. Mae hyn yn darparu cymorth cynnar ac anffurfiol. Mae’r ysgol wedi meithrin perthnasoedd cryf gyda’r feithrinfa breifat, Camau Tirion a darpariaeth Dechrau’n Deg yn y Ganolfan Integredig i Blant, gan sicrhau bod teuluoedd yn cael cymorth da o gychwyn cyntaf eu taith yn Ysgol Bryn Teg. Mae’r Swyddog Cynnwys Teuluoedd wedi arwain ffeiriau amlasiantaethol, gan alluogi rhieni i fanteisio ar wybodaeth, adnoddau a chymorth hanfodol yn eu cymuned, fel Cymorth i Fenywod. Mae’r ysgol wedi gweithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan Integredig i Blant hefyd, yn cefnogi Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Haf (SHEP) lle gwnaeth 40 o ddisgyblion yn 2021, ac 87 o ddisgyblion yn 2019, elwa ar y rhaglen dair wythnos. 

Mae partneriaethau gweithio agos gyda’r llywodraethwyr cymunedol wedi sicrhau cymorth parhaus i deuluoedd yn ystod cyfnodau o galedi, fel COVID-19 a’r Nadolig. Gwnaed cyfraniadau ariannol at Fanc Bwyd Llwynhendy/Pemberton, lle gall rhieni/gofalwyr gael nwyddau hanfodol pan fydd angen. Yn ystod Nadolig 2021, cynorthwyodd yr ysgol 20 o deuluoedd trwy roi basgedi bwyd Nadolig iddynt. Caiff teuluoedd mewn angen eu cynorthwyo yn lleol. Mae busnesau lleol wedi darparu rhoddion am y pum mlynedd ddiwethaf. Gweithiodd yr ysgol gyda siop adrannol fawr, a galluogodd y bartneriaeth hon i’r ysgol ddarparu rhoddion sy’n cael eu danfon â llaw gan staff bob Nadolig. Yn 2021, fe wnaeth 47 o blant elwa ar y bartneriaeth hon. Dywedodd rhieni eu bod yn hapus iawn ac yn gwerthfawrogi’r caredigrwydd a ddangoswyd. Mae’r uchod wedi rhoi’r canlyniadau canlynol:

  • Gwelwyd safonau gwell mewn darllen ac ysgrifennu ar draws yr ysgol. Yn 2018-2019, roedd tua hanner y disgyblion yn gwneud y cynnydd disgwyliedig mewn darllen ac ysgrifennu; erbyn hyn, mae bron pob un o’r disgyblion yn gwneud cynnydd da, o leiaf. Er enghraifft, roedd lleiafrif o ddisgyblion yn gallu ysgrifennu patrymau brawddeg sylfaenol yng Nghyfnod Allweddol 2. Fodd bynnag, erbyn hyn, mae llawer o ddisgyblion yn defnyddio ystod eang o dechnegau ysgrifennu a geirfa fentrus.
  • Mae gostyngiad sylweddol yn nifer a hyd y gwaharddiadau wedi sicrhau bod bron pob un o’r disgyblion yn cael addysg. Ategir hyn gan bolisi perthnasoedd hynod effeithiol yr ysgol, arfer hynod lwyddiannus o ran cynhwysiant a chydweithio gwerthfawr ar draws cymuned yr ysgol. 
  • Mae gwelliannau sylweddol wedi bod yn lles a safonau disgyblion. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

  • Mae’r Swyddog Cynnwys Teuluoedd wedi rhannu arfer orau gyda staff o ysgolion lleol ar y ddarpariaeth anogaeth.
  • Mae ein Cydlynydd ADY wedi rhannu arfer dda trwy gyfarfod â Chydlynwyr ADY eraill yn y clwstwr. 
  • Mae’r ysgol yn cysylltu ag ysgolion / sefydliadau / gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau lleol eraill.
  • Mae’r pennaeth yn gweithio ar fforymau iechyd meddwl yr awdurdod lleol a rhai cenedlaethol.
  • Mae’r arweinydd iechyd a lles wedi cydweithio ag ysgolion clwstwr i ddatblygu’r cwricwlwm newydd a rhannu arfer dda cynnig ysgol gyfan yr ysgol i gefnogi iechyd meddwl a lles.