Cefnogi grwpiau o ddisgyblion agored i niwed
Quick links:
Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector
Mae Cathays High School wedi’i lleoli ger canol Caerdydd ac mae’n gwasanaethu ardaloedd Cathays a’r Rhath. Fodd bynnag, daw 61% o’r disgyblion o rannau eraill o Gaerdydd ac mae 27% o’r disgyblion hyn yn byw yn wardiau mwy difreintiedig y ddinas. Mae hawl gan oddeutu 37% o ddisgyblion gael prydau ysgol am ddim, sy’n llawer uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, ac sy’n sylweddol uwch na ffigurau holl aelodau eraill y teulu o ysgolion tebyg.
Ar hyn o bryd, mae 903 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 191 yn y chweched dosbarth. Mae gan yr ysgol drosiant uchel iawn ym mhoblogaeth y disgyblion, sef tua 26%. Roedd tua 100 o’r disgyblion presennol ym Mlynyddoedd 7 i 11 yn newydd-ddyfodiaid i’r Deyrnas Unedig pan ddechreuont yn yr ysgol. Mae lleiafrif sylweddol o’r holl ddisgyblion yn ymarferol anllythrennog pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol. Daw tua 75% o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig heblaw Gwyn Prydeinig, sef Somali, Roma Tsieciad neu Slofacaidd, Bangladeshaidd neu Bacistanaidd yn bennaf. Ar hyn o bryd, siaredir 63 o ieithoedd gwahanol fel mamiaith yng nghartrefi’r disgyblion. Mae Saesneg yn iaith ychwanegol i fwy na 70% o’r disgyblion, ac mae lefel caffael Saesneg tua 36% ohonynt yn llai na chymwys. Mae hyn yn llawer uwch na’r ffigur ar gyfer yr ail uchaf yn y teulu o ysgolion tebyg. Nid oes unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.
Ar hyn o bryd, mae gan 42% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sy’n llawer uwch na chyfartaledd Cymru. Mae gan bedwar y cant o ddisgyblion ddatganiadau o anghenon addysgol o gymharu â 2.6% yn genedlaethol. Mae’r ysgol yn cynnig darpariaeth arbennig i ddisgyblion ag awtistiaeth. Oherwydd nifer uchel y disgyblion syddâ Saesneg yn iaith ychwanegol, newyddddyfodiaid i’r DU a’r rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae’r ysgol yn rhoi pwys mawr ar olrhain cynnydd a chyflawniad y grwpiau hyn o ddisgyblion. Mae’r ysgol yn defnyddio’r data olrhain hwn i dargedu ymyriadau er mwyn gwella’r deilliannau ar gyfer y grwpiau hyn. Caiff effaith yr ymyriadau hyn ei monitro a’i gwerthuso’n fanwl sy’n arwain at fireinio a datblygu’r camau hyn. Mae hyn yn golygu bod ein harfer wedi esblygu dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi datblygu nifer o wahanol strategaethau ac ymatebion effeithiol i fodloni anghenion grwpiau o ddisgyblion agored i niwed, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, disgyblion a gyrhaeddodd y DU yn ddiweddar a’r rhai sy’n wynebu risg dadrithio yng nghyfnod allweddol 4. Rydym yn rhoi pwyslais penodol ar weithio gyda rhieni disgyblion o’r grwpiau hyn i nodi a dileu unrhyw rwystrau rhag iddynt ymgysylltu.
Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector
Trwy system rheoli gwybodaeth yr ysgol, mae pob athro, pennaeth adran, pennaeth blwyddyn a’r cyswllt uwch reoli yn cael gwybodaeth am gefndir cymdeithasol a chyrhaeddiad blaenorol disgyblion. Mae hyn wedi arwain at gynllunio manwl ar gyfer dilyniant i bob disgybl, gan gynnwys grwpiau agored i niwed ar lefel yr ystafell ddosbarth ac ar lefel adran. Mae hyn wedi sicrhau mwy o gysondeb o ran targedu a chefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion.
Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw hi i gynnwys rhieni yn nysgu eu plant a meithrin partneriaethau y mae rhieni’n ymddiried ynddynt ac yn eu gwerthfawrogi rhwng y cartref a’r ysgol. Rydym yn cynnal digwyddiadau fel ‘Nosweithiau Agored’ a ‘Diwrnod Dewch â Rhiant i’r Ysgol’, ac mae nifer dda yn mynychu’r rhain. Gall rhieni gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu teuluol yn ystod y gwyliau hanner tymor. Mae’r ysgol hefyd yn cynnig ‘Cyfweliadau Teuluol’ i bob disgybl a’u rhieni ym Mlwyddyn 7, Blwyddyn100 a Blwyddyn 11. Mae’r cyfweliadau hyn yn canolbwyntio ar gynnydd disgyblion unigol ac maent yn ffordd ddefnyddiol o gasglu adborth gan rieni am waith a bywyd yr ysgol.
Fe wnaeth cyfres o gyfarfodydd gyda grwpiau o rieni ein galluogi ni i nodi rhai rhwystrau penodol y mae rhieni o’r farn eu bod yn eu hatal rhag chwarae rhan lawn yn addysg eu plant. Ymhlith y meysydd a nodwyd oedd problem ieithyddol mewn digwyddiadau allweddol fel Nosweithiau Rhieni. O ganlyniad, rydym bellach yn defnyddio cynorthwywyr addysgu dwyieithog, a staff eraill, i roi gwybod i rieni am ddigwyddiadau ac i fod yn gyfieithwyr. Mae rhieni disgyblion sy’n cael cymorth mewn Saesneg a mathemateg yng nghyfnod allweddol 4 wedi’u gwahodd i’r ysgol a rhoddwyd cyngor penodol iddynt ynghylch sut i helpu a chefnogi eu plant wrth iddynt baratoi ar gyfer arholiadau allanol.
Mae’r ysgol yn defnyddio arbenigedd o’r cymunedau gwahanol, er enghraifft, mae’r ysgol wedi cydweithio â grŵp cymunedol Somali lleol i ddarparu mynediad at ardaloedd astudio gyda’r nos ac ar benwythnosau. Rydym wedi cyflogi aelod o’r gymuned Roma Tsieciad i feithrin perthnasoedd gwell a gwella presenoldeb a deilliannau addysgol i’r disgyblion hyn. Mewn ymateb i geisiadau mynych gan rieni i gael gwybod yn fwy rheolaidd am gynnydd eu plant, mae’r ysgol yn darparu adroddiadau interim bob tymor erbyn hyn.
Mae disgyblion yn ymuno â’r ysgol o’r tu allan i’r DU drwy gydol y flwyddyn academaidd.
Mae hyn yn gofyn i ni fabwysiadu ymagwedd hyblyg at y cwricwlwm a’r cyrsiau a’r cymwysterau a gynigir i fodloni eu hanghenion. Yng nghyfnod allweddol 3 a Blwyddyn 10, y nod yw sicrhau bod disgyblion sy’n dod i’r ysgol heb unrhyw Saesneg yn cymryd rhan mewn rhaglen sefydlu i’w cynorthwyo i gyrraedd lefel o Saesneg a fydd yn eu galluogi i gymryd rhan mewn gwersi prif ffrwd o fewn chwe wythnos ac amserlen lawn o fewn 12 wythnos. Yn achos disgyblion sy’n cyrraedd ar ddiwedd Blwyddyn 10, Blwyddyn 11 neu yn ystod y chweched dosbarth, caiff ymagwedd fwy hyblyg ei mabwysiadu, er bod ganddi ffocws cryf ar ennill ystod addas o gymwysterau, o gyrsiau lefel mynediad i lefel 2.
Rydym hefyd yn mabwysiadu ymagwedd hyblyg tuag at ddisgyblion sy’n wynebu risg dadrithio yng nghyfnod allweddol 4. Mae Cathays High School yn cyflogi cydlynydd sy’n cydweithio â darparwyr allanol ac sy’n gallu ymweld â disgyblion yn rheolaidd yn eu lleoliadau i sicrhau eu bod ar y trywydd cywir. Yn yr ysgol, mae’r disgyblion hyn yn astudio TGAU Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth, yn ogystal â gweithio tuag at gymwysterau Sgiliau Hanfodol (Cymru). Caiff pynciau eraill eu trefnu’n hyblyg yn yr amserlen er mwyn galluogi disgyblion i ennill cymwysterau gwerthfawr mewn pynciau y maen nhw’n eu mwynhau.
Os oes angen, rydym yn cofrestru cartrefi disgyblion a mannau eraill fel canolfannau arholi ar gyfer disgyblion sy’n gwrthod dod i’r ysgol.
Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr
At ei gilydd, mae perfformiad ar y trothwy lefel 2 gan gynnwys Saesneg a mathemateg wedi cynyddu naw pwynt canran i 41% yn 2012. Mae’r perfformiad hwn ymhell uwchlaw disgwyliadau wedi’u modelu ac mae’n rhoi’r ysgol yn chwarter uchaf yr ysgolion tebyg.
Yn 2012, gwelwyd gwelliannau ar lefel 1 hefyd. Mae nifer y disgyblion sy’n gadael heb gymhwyster cydnabyddedig wedi gostwng dros y tair blynedd diwethaf ac, yn 2012, fe wnaethom haneru canran y disgyblion nad ydynt mewn addysg, yflogaeth neu hyfforddiant ar ôl Blwyddyn 11. O ganlyniad i ddatblygu perthnasoedd da rhwng y cartref a’r ysgol, mae presenoldeb mewn Nosweithiau Rheini wedi cynyddu’n sylweddol.
Llwyddiant arbennig yw bod presenoldeb rhieni Somali wedi cynyddu 50% ar gyfartaledd, i 88%, ac wedi’i gynnal dros dair blynedd. Mae presenoldeb rhieni disgyblion o’r gymuned Roma Tsieiciad a Slofacaidd wedi cynyddu fwy nag 20%. Mae gwaith cynorthwywyr bugeiliol yn ymgysylltu â’r teuluoedd hyn yn eu cartrefi hefyd wedi gweld cynnydd arwyddocaol ym mhresenoldeb disgyblion o 88% yn 2011 i 91.2% yn 2013. Mae presenoldeb bellach yn cymharu’n dda ag ysgolion tebyg.