Cefnogi dysgwyr i wneud dewisiadau gwybodus ar gyfer y dyfodol. - Estyn

Cefnogi dysgwyr i wneud dewisiadau gwybodus ar gyfer y dyfodol.

Arfer effeithiol

Stanwell School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Stanwell yn ysgol gyfun sylfaen gymysg 11 i 19 cyfrwng Saesneg, sydd wedi’i lleoli ym Mhenarth, Bro Morgannwg. Mae 1,984 o ddisgyblion ar y gofrestr (Rhagfyr 2021), y mae tua 470 ohonynt yn y chweched dosbarth. Mae’r ysgol yn gwasanaethu cymunedau Penarth a Sili, a hefyd yn denu tua thri o bob 10 disgybl o’r tu allan i’r dalgylch. Mae tua 6% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd ymhell islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 17.5%. Mae ychydig dros 6% o ddisgyblion yn byw yn y 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae gan ryw un o bob 10 disgybl angen addysgol arbennig. Mae tua 15% o ddisgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol heblaw gwyn Prydeinig. Caiff cyfran fechan o ddisgyblion gymorth i ddysgu Saesneg fel iaith ychwanegol (4%). Mae 3% o ddisgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan Ysgol Stanwell amserlen gydlynus i roi arweiniad a chyngor i fyfyrwyr, a phrosesau trylwyr i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cynorthwyo’n llawn i wneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â phynciau, gyrfaoedd a dewisiadau yn y dyfodol. Mae gwaith Cynghorwyr Gyrfaoedd, Cydlynydd Addysg yn Gysylltiedig â Gwaith ac arweinwyr bugeiliol wedi cael ei drefnu’n ofalus a’i gynllunio’n strategol i sicrhau bod dysgwyr a’u rhieni / gofalwyr yn cael gwybodaeth ddefnyddiol mewn modd amserol, a’u bod yn gallu cael arweiniad teilwredig i ddilyn amrywiaeth o ddiddordebau. Mae’r ddarpariaeth hon yn amlwg ym mhob cyfnod allweddol ac yn cynorthwyo disgyblion ar wahanol adegau yn eu haddysg trwy ddarparu arweiniad cyfoes a defnyddiol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae gweithgareddau yn yr ysgol yn cynnwys trafodaethau un i un am opsiynau disgyblion ar ddiwedd cyfnodau allweddol 3 a 4, a neilltuir tiwtor personol profiadol a hyfforddedig i bob myfyriwr chweched dosbarth i’w cefnogi trwy broses UCAS a phrosesau ymgeisio eraill. Mae’r ysgol wedi penodi Cydlynydd Addysg Uwch profiadol sy’n darparu rhaglen strwythuredig sy’n galluogi myfyrwyr i ystyried gyrfaoedd, llwybrau addysg uwch posibl, ac yn eu cynorthwyo nhw a’u tiwtoriaid i ysgrifennu datganiadau personol a CVau. Yn ychwanegol, mae Cynghorydd Gyrfa Cymru dynodedig ar gyfer myfyrwyr y chweched dosbarth, a threfnir ffug gyfweliadau rheolaidd, sy’n cael eu cynnal gan gyflogwyr a phobl broffesiynol leol, i sicrhau bod myfyrwyr wedi eu harfogi i ymdopi â’r cam nesaf. Caiff ffeiriau yn gysylltiedig â gwaith a ffeiriau gyrfaoedd ar gyfer pob cyfnod allweddol eu trefnu ar ôl gweithgareddau llais y dysgwr i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu manteisio ar yr arbenigedd mwyaf perthnasol a’u bod yn gallu archwilio llwybrau posibl yn y dyfodol. Yn ychwanegol, mae’r ysgol yn cynnal nifer o Nosweithiau Opsiynau lle gall dysgwyr a rhieni / gofalwyr gyfarfod â staff yr ysgol i archwilio’r ystod eang o bynciau a chymwysterau a gynigir gan yr ysgol. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae cyfraddau presenoldeb eisoes wedi cael eu hadfer yn sylweddol i rywle yn agos at lefelau cyn y pandemig, sy’n awgrymu bod y cynnig cwricwlwm a’r dewisiadau opsiynau pwnc yn briodol i ddiddordebau ac anghenion dysgwyr. Yn yr un modd, mae deilliannau’n parhau i fod yn uchel iawn ar gyfer y rhan fwyaf o ddisgyblion, ac mewn gweithgareddau llais y dysgwr, dywed y rhan fwyaf ohonynt eu bod yn teimlo bod y cyngor, yr arweiniad a’r cymorth a roddir iddynt yn eu paratoi’n dda ar gyfer symud ymlaen i’r cam nesaf yn eu dysgu a’u gyrfaoedd.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Ar hyn o bryd, mae Ysgol Stanwell yn Ysgol Rhwydwaith Dysgu ar gyfer y GCA ac yn Ysgol Arweiniol Dysgu Proffesiynol CCD, sy’n rhannu enghreifftiau o arfer dda yn y rhanbarthau, a thu hwnt.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn