Cefnogi dysgu proffesiynol - Estyn

Cefnogi dysgu proffesiynol

Arfer effeithiol

Cwmtawe Community School


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gymunedol Cwmtawe yn ysgol 11-16 yng Nghastell-nedd Port Talbot, sy’n gwasanaethu rhan isaf Cwm Tawe.  Daw’r rhan fwyaf o’r disgyblion o Bontardawe a’r ardal gyfagos, ac mae tua 50% yn dewis mynychu’r ysgol o’r tu allan i’r dalgylch arferol.  Mae 1,232 o ddisgyblion ar y gofrestr.  Mae gan yr ysgol ddwy uned addysgu arbenigol ar y safle, sef un i ddysgwyr dyslecsig a’r llall yn arbenigo mewn anhwylderau ar y sbectrwm awtistig.

Mae 17.4% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae 40% o ddisgyblion ar gofrestr anghenion addysgol arbennig yr ysgol, ac mae gan tua 4% ohonynt ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.

Daw tua 5% o ddisgyblion o grwpiau lleiafrifoedd ethnig a daw ychydig iawn o ddisgyblion o gartrefi lle nad ydynt yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf.  Mae tua 14% o ddisgyblion yn rhugl yn y Gymraeg.

Mae’r tîm arweinyddiaeth yn cynnwys y pennaeth, a benodwyd yn 2014, dau ddirprwy bennaeth, dau bennaeth cynorthwyol a rheolwr busnes.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan yr ysgol draddodiad cryf o ddatblygu staff yn broffesiynol ar bob cam yn eu gyrfa.  Mae’r pennaeth, dau ddirprwy bennaeth, un pennaeth cynorthwyol, y rhan fwyaf o’r arweinwyr canol a llawer o gynorthwywyr addysgu wedi elwa ar raglenni datblygiad proffesiynol amrywiol yr ysgol i symud ymlaen yn eu gyrfa.  Mae’r rhaglenni hyn yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer achrediad trwy raglenni hyfforddiant ar gyfer athrawon a chynorthwywyr addysgu rhagorol, athrawon sy’n gwella a chyfleoedd i gysgodi swyddi mewnol.  Mae staff yn cymryd yr awenau’n rheolaidd wrth gyflwyno sesiynau HMS i rannu arfer effeithiol.  Mae pob un o’r athrawon yn annog ac yn cynorthwyo ei gilydd i gynllunio gwersi a myfyrio.     

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yn ystod tymor yr haf, mae’r uwch dîm arweinyddiaeth yn nodi rolau cysgodi swyddi ar sail blaenoriaethau ysgol gyfan.  Caiff y rolau cysgodi swyddi eu hysbysebu i’r holl staff wneud cais amdanynt yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, a chânt eu cynnal am un i ddwy flynedd, gan ddibynnu ar natur y rôl.  Mae enghreifftiau o’r rolau yn cynnwys asesu, cofnodi ac adrodd; pontio cynradd; annog yng nghyfnod allweddol 3; cynllunio’r cwricwlwm ac arwain pwnc.  Caiff deiliaid rolau cysgodi swyddi eu cynorthwyo gan aelod staff arweiniol penodedig, er enghraifft uwch arweinydd neu arweinydd canol, sy’n gweithredu fel anogwr a mentor drwy gydol y broses.  Ar ddiwedd y cylch, mae deiliad y swydd gysgodi yn cyfarfod â’r aelod staff arweiniol i fyfyrio ar brofiadau a chael adborth ysgrifenedig, sydd wedi’i integreiddio ym mhroses rheoli perfformiad yr ysgol.

Gall pob un o’r athrawon a’r cynorthwywyr addysgu fanteisio ar raglenni hyfforddiant achrededig, sy’n cael eu hwyluso’n fewnol.  Mae’r rhai sy’n dyheu am swyddi arweinyddiaeth wedi cymryd rhan mewn rhaglenni allanol yn cydweithio â’r consortiwm lleol a sefydliadau addysg uwch i ennill achrediad.

Mae staff yn aml yn chwarae rhan flaenllaw o ran rhannu arfer effeithiol yn ystod diwrnodau HMS yr ysgol.  Mae athrawon newydd gymhwyso wedi arwain sesiynau ar y safonau proffesiynol newydd a’r cwricwlwm newydd i Gymru; ac mae staff eraill wedi arwain gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddulliau addysgegol a’r fframwaith cymhwysedd digidol.

Mae’r dirprwy bennaeth sy’n gyfrifol am ddatblygiad proffesiynol wedi strwythuro rhaglen ar gyfer cynllunio gwersi, arsylwi a myfyrio, lle caiff athrawon eu rhoi mewn triawdau o fewn eu Meysydd Dysgu a Phrofiad.  Mae’r triawd hwn yn cynnwys yr athro/athrawes y mae ei (g)wersi yn cael ei harsylwi, yr arweinydd pwnc neu uwch arweinydd, a chydweithiwr o faes pwnc arall sy’n annog yr athro/athrawes, trwy roi cymorth i gynllunio a myfyrio.  Caiff amser cynllunio ei ddyrannu er mwyn i’r athro/athrawes a’r anogwr gyfarfod â’i gilydd.  Wedi i’r anogwr a’r arweinydd pwnc/uwch arweinydd arsylwi’r wers, mae’r athro/athrawes yn llenwi ffurflen hunanfyfyrio.  Mae’r ffurflen hunanfyfyrio hon, ynghyd â’r arsylwad ysgrifenedig anfarnol sy’n cael ei gwblhau gan yr anogwr a’r arweinydd pwnc/uwch arweinydd, yn ffurfio ffocws ar gyfer trafodaeth yn y cyfarfod adborth.  Wedi i’r holl athrawon gael eu harsylwi, caiff sesiwn fyfyrio ei chynnal ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad, lle mae’r anogwyr yn cymryd yr awenau o ran hwyluso trafodaethau.   

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Trwy’r llwybrau datblygiad proffesiynol amrywiol, mae’r holl staff ar gamau gwahanol o’u gyrfa yn ennill profiadau gwerthfawr i arwain a dwyn perchnogaeth ar addysgu a dysgu yn yr ysgol.  Mae’r rhaglenni hyfforddiant achrededig a’r hyfforddiant mewnol wedi arfogi staff â’r strategaeth a’r medrau i ddod yn ymarferwyr mwy hyderus a bod yn fwy arbrofol wrth gynllunio.  Mae cynorthwywyr addysgu’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac maent yn fwy hyderus yn eu rôl hanfodol yn yr ystafell ddosbarth, yn gallu gweithio’n annibynnol ac yn llai dibynnol ar arweiniad athrawon.  Maent yn gwerthfawrogi’r cyfle i allu rhwydweithio â chydweithwyr yn ystod rhaglenni hyfforddiant, ac yn rhannu arfer dda a strategaethau.

Mae’r rolau cysgodi swyddi yn rhoi cyfleoedd i’r holl staff ennill cyfrifoldeb a phrofiad ysgol-gyfan neu adrannol ehangach.  Mae hyn wedi cynyddu hyder staff ac wedi galluogi cyfranogwyr i fod yn uchelgeisiol a gwneud ceisiadau llwyddiannus am swyddi y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol.

Mae staff â phrofiad amrywiol, sydd wedi arwain hyfforddiant ar ddiwrnodau HMS, yn gwerthfawrogi’r cyfle i rannu arfer effeithiol, ac mae ganddynt ymdeimlad o falchder gan fod eu gwaith yn cael ei werthfawrogi.

Mae defnyddio anogwyr sy’n ymgysylltu â chydweithwyr y tu allan i’w meysydd pwnc, a chael sgyrsiau manwl am gynllunio effeithiol a chreadigol, wedi profi’n un o gryfderau gwirioneddol yr ysgol.  Mae sesiynau adborth arsylwi gwersi mewn triawdau a Meysydd Dysgu a Phrofiad wedi amlygu ymhellach welliant mewn ansawdd a hunanfyfyrio craff, ac wedi ymchwilio i fanylion arfer effeithiol.  Mae ethos ‘drws agored’ yr ysgol, lle mae staff yn fodlon cael eu harsylwi er mwyn ategu datblygiad proffesiynol cydweithwyr y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol, yn ffynnu.  Mae arsylwadau gwersi’n dangos gallu athrawon i ddatblygu medrau metawybyddiaeth disgyblion, er mwyn annog hunanfyfyrio dyfnach a hybu disgyblion fel dysgwyr annibynnol.  Mae ansawdd uchel yr addysgu a dysgu yn yr ystafell ddosbarth a diwylliant bywiog dysgu proffesiynol wedi arwain at ddeilliannau cryf iawn i ddisgyblion dros gyfnod maith.   

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Trwy hwyluso rhaglenni achrededig, cynnal darpariaeth HMS a thrwy waith yr ysgol fel ysgol arloesi dysgu proffesiynol, rhannwyd arferion datblygiad proffesiynol yr ysgol o fewn yr awdurdod lleol, y consortiwm rhanbarthol ac yn genedlaethol.  Mae’r ysgol wedi helpu nifer o ysgolion uwchradd partner hefyd, a rhannwyd arfer â’r ysgolion cynradd yn y clwstwr. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn