Cefnogi dysgu plant a phobl ifanc o deuluoedd ceiswyr lloches a ffoaduriaid
Quick links:
Gwybodaeth am yr awdurdod lleol
Mae Cyngor Caerdydd yn ninas Caerdydd, ac mae ganddo boblogaeth o 369,000. Mae’r awdurdod lleol yn cynnal 126 o ysgolion. Mae 101 o ysgolion cynradd, gan gynnwys 17 sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg a thair ysgol feithrin a gynhelir. Mae 18 ysgol uwchradd, gan gynnwys tair ysgol cyfrwng Cymraeg. Yn ychwanegol, mae saith ysgol arbennig, ac un uned cyfeirio disgyblion.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Caerdydd sydd â’r boblogaeth fwyaf amrywiol yng Nghymru, gan ei bod yn cynnwys y crynhoad mwyaf o boblogaeth nad ydynt yn bobl wyn o ran niferoedd a chanrannau gwirioneddol unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru. Mae mwy na 40% o boblogaeth Cymru nad ydynt yn bobl wyn yn byw yng Nghaerdydd. Yn fwy arwyddocaol, mae tua 55% o grwpiau pobl dduon sy’n byw yng Nghymru yn byw yng Nghaerdydd.
Mae poblogaeth Caerdydd, sy’n amrywiol o ran ethnigrwydd, o ganlyniad yn rhannol i’w chysylltiadau masnachu yn y gorffennol a mewnfudo ar ôl y rhyfel. Cyrhaeddodd llawer o grwpiau o bobl ac ymgartrefu yn y degawdau dilynol. Mae Caerdydd wedi bod yn ardal wasgaru i geiswyr lloches ers dros ddegawd. Roedd y Cyngor yn rhan o’r Cynllun Adsefydlu Syriaid (SRVSP) cyn pandemig COVID-19 ac, ar adeg yr arolygiad, roedd ganddo deuluoedd ar gynllun y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid (ARAP), sy’n aros i gael eu gwasgaru. Mae’r Cyngor yn darparu addysg ar gyfer plant sy’n rhan o’r cynlluniau hyn, hyd yn oed os ydynt yn y ddinas am gyfnod byr yn unig. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae gwladolion yr UE wedi cyrraedd, ynghyd â niferoedd mawr o fyfyrwyr o bob cwr o’r byd sy’n mynychu prifysgolion lleol ac yn dod â’u teuluoedd gyda nhw. Mae hyn yn creu heriau i ysgolion wrth i’w poblogaeth gynyddu a dod yn fwy amrywiol, yn aml ar fyr rybudd.
Mae’r Cyngor yn derbyn cyllid ychwanegol trwy’r grant Lleiafrifoedd Ethnig / Sipsiwn, Roma a Theithwyr (ME/GRT) i gefnogi disgyblion o gymunedau ethnig lleiafrifol a’r rhai sy’n siarad Cymraeg neu Saesneg fel iaith ychwanegol. Er 2015, mae mwyafrif y cyllid hwn wedi cael ei ddirprwyo i ysgolion. Mae’r awdurdod yn cynnal tîm canolog bach sy’n cynnwys pum swyddog ‘cau’r bwlch’ sy’n goruchwylio cymorth ar gyfer ysgolion ledled y ddinas a thîm bach o athrawon a chynorthwywyr addysgu. Rhoddir cymorth ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae cymorth y tîm canolog wedi canolbwyntio’n bennaf ar gefnogi ysgolion nad ydynt yn draddodiadol wedi cael disgyblion sy’n geiswyr lloches, yn ffoaduriaid neu’n fudwyr, ac nad oes ganddynt arbenigedd sefydledig mewn gweithio gyda disgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Mae’r penderfyniad i ddirprwyo mwyafrif y grant Lleiafrifoedd Ethnig / Sipsiwn, Roma a Theithwyr (ME/GRT) i ysgolion a chynnal tîm canolog bach wedi cynorthwyo staff ysgol i wella eu darpariaeth ar gyfer disgyblion o ystod amrywiol o gefndiroedd. Er bod cymorth ar gael o hyd trwy’r tîm canolog, nid yw ysgolion yn gyfan gwbl ddibynnol ar y cymorth allanol hwn mwyach, ac mae staff ysgolion yn fwy hyderus yn darparu profiadau dysgu sy’n diwallu anghenion amrywiaeth gynyddol eu poblogaethau ysgol.
Mae’r tîm canolog yn trefnu digwyddiadau hyfforddi a fforymau rheolaidd ar gyfer staff ysgol i gefnogi’r gwaith hwn, er enghraifft ar ymgysylltu o’r newydd â disgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY) ar ôl cau ysgolion yn sgil y pandemig, a chefnogi lles ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Mae’r tîm yn defnyddio’r digwyddiadau hyn yn effeithiol i rannu arfer dda rhwng ysgolion. Mae aelodau’r tîm yn darparu deunyddiau ac adnoddau i gynorthwyo ysgolion, gan gynnwys ar gyfer wythnos ffoaduriaid a Mis Hanes Pobl Dduon.
Mae’r tîm wedi creu pecyn sefydlu ar gyfer ysgolion i gefnogi’r broses o dderbyn ffoadur, ceisiwr lloches neu fudwr nad yw’n meddu ar lawer o Gymraeg neu Saesneg. Rhoddir cymorth i’r holl rieni newydd lenwi ffurflenni derbyn a’u helpu i ddarparu gwybodaeth am brofiadau blaenorol eu plentyn, gan gynnwys cefndir ieithyddol, diddordebau personol, addysg flaenorol ac unrhyw wybodaeth berthnasol am y teulu. Darperir cyfieithwyr a deunyddiau wedi’u cyfieithu ar gyfer teuluoedd pan fydd angen. Trosglwyddir y wybodaeth hon i athrawon dosbarth / pwnc cyn i’r plentyn ddechrau yn yr ysgol. Mae ysgolion yn sicrhau bod gan ddisgyblion newydd wisg ysgol cyn eu diwrnod cyntaf.
Cydnabuwyd yn swyddogol bod Caerdydd yn Ddinas Noddfa yn 2014. Mae ysgolion yng Nghaerdydd yn arddel hyn, ac wedi dod yn rhan o’r rhwydwaith sy’n tyfu o Ysgolion Noddfa ledled y Deyrnas Unedig. Mae ysgolion yn creu diwylliant o groeso a chynhwysiant tra’n codi ymwybyddiaeth am y materion sy’n wynebu ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Caiff y rhaglen ei gyrru gan y tîm canolog, a thrwy Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yr awdurdod lleol.
Mae’r tîm EMTAS yn gweithio gyda staff ysgolion i sicrhau bod safbwyntiau disgyblion sy’n geiswyr lloches ac yn ffoaduriaid am ddarpariaeth a chymorth yr ysgol yn cael eu hystyried. Mae’r tîm canolog wedi hwyluso hyfforddiant ar arfer orau o ran ymgysylltu â theuluoedd, ac mae’n parhau i weithio gydag asiantaethau allanol i geisio arfer orau wrth gyrraedd teuluoedd sy’n anodd eu cyrraedd. Sicrhaodd swyddogion gymorth gwerthfawr gan awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr ynglŷn â sut i wella ymgysylltu â theuluoedd.
Mae cefnogi ysgolion y mae eu demograffeg yn newid yn allweddol i waith y tîm canolog. Mae gan rai ysgolion yng Nghaerdydd arferion eithriadol o sefydledig, ac mae angen cymorth ar ysgolion eraill i sefydlu eu harfer. Ble bynnag y bo modd, anogir cymorth a rhwydweithio rhwng ysgolion. Yn y pedair blynedd ddiwethaf, mae un ysgol uwchradd yng Nghaerdydd wedi treblu nifer ei dysgwyr SIY i 16% o gyfanswm poblogaeth yr ysgol, gyda 36 o ieithoedd hysbys yn cael eu siarad. Mae’r pennaeth wedi gweithio gydag aelodau o’r EMTAS i sefydlu tîm cymorth bach i sicrhau bod dysgwyr dwyieithog yn ymgyfarwyddo’n gyflym â bywyd ysgol ac yn cael eu herio i gyrraedd eu llawn botensial.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae llawer o ddisgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol yn cyflawni’n dda o gymharu â’u cyfoedion, yn enwedig erbyn diwedd cyfnod allweddol 4.
Mae ysgolion yn y rhwydwaith Ysgolion Noddfa wedi nodi bod eu plant wedi gwella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth am ystyr ffoadur a beth mae’n ei olygu i chwilio am loches. Mewn rhai achosion, dangosodd tystiolaeth fod plant, ar y dechrau, yn betrusgar am y cysyniad ac yn ei ystyried trwy ganolbwyntio ar ei effaith arnyn nhw, a sut mae’n effeithio ar eu bywydau. Wrth iddynt ymgysylltu’n fwy ag archwilio ystyr ffoadur, datblygodd eu dealltwriaeth hefyd o’r heriau a oedd yn wynebu ffoaduriaid, a symudodd y pwyslais i un lle roedd empathi cynyddol tuag at y rhai sy’n chwilio am loches.
O ganlyniad i ddarpariaeth a chymorth ar gyfer disgyblion a theuluoedd unigol, mae disgyblion yn ymgynefino’n dda mewn ysgolion ac mae llawer ohonynt yn gwneud cynnydd da wrth ddysgu Saesneg.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae fforymau SIY tymhorol wedi hen ennill eu plwyf yn yr awdurdod lleol erbyn hyn ac maent yn darparu cyfle i rannu arfer dda o ysgolion yng Nghaerdydd ac o awdurdodau lleol eraill.
Sefydlwyd y rhwydwaith Ysgolion Noddfa ac mae ysgolion wedi gallu rhannu arfer arloesol a’u teithiau fel ysgol noddfa. Mae ysgolion yng Nghaerdydd wedi dysgu oddi wrth ysgolion yn Lloegr ac mae’r rhwydwaith bellach yn hygyrch i bob awdurdod lleol ledled Cymru.
Mae swyddogion wedi rhannu llawer o agweddau ar ein harfer ar draws awdurdodau yng Nghymru, wedi rhannu adnoddau ac wedi cefnogi datblygiadau mewn awdurdodau lleol eraill.