Cefnogi datblygiad dysgu a lles disgyblion drwy gymorth Hwb Bugeiliol a Hwb Dysgu - Estyn

Cefnogi datblygiad dysgu a lles disgyblion drwy gymorth Hwb Bugeiliol a Hwb Dysgu

Arfer effeithiol

Ysgol Morgan Llwyd


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Morgan Llwyd yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg wedi’i lleoli yn ninas Wrecsam ac yn gwasanaethu dalgylch eang Sir Wrecsam. Mae 857 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 79 yn y chweched dosbarth. Daw 80% o’r disgyblion o gartrefi di-Gymraeg ac mae 20% yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim. Mae’r ysgol yn gymuned falch, groesawgar ble mae staff yn cyfleu eu  hangerdd dros allu pob unigolyn i gyflawni ei botensial a’i uchelgais, ac i ddatblygu i fod yn aelod hapus, hyderus, annibynnol a chyfrifol o’i gymdeithas.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r ysgol wedi gweld cynnydd yn y disgyblion sydd angen cynhaliaeth lles. Mewn ymateb i hyn, sefydlwyd Hwb Bugeiliol yn 2019 er mwyn sicrhau man canolog i ddisgyblion alw mewn i gael cymorth gydag unrhyw fater bugeiliol boed yn broblem iechyd corfforol neu feddyliol, problem gymdeithasol neu emosiynol. Ar ôl y pandemig, gwelwyd bod yr angen am gymorth o’r fath wedi dwysau a datblygwyd yr Hwb Bugeiliol ymhellach, er enghraifft drwy benodi ail swyddog lles sydd hefyd yn gyfrifol am gynorthwyo rhieni. Yn sgil y pandemig, dwysau hefyd wnaeth y galw am gymorth ac ymyrraeth academaidd i ddisgyblion ac felly fe sefydlwyd ail hwb, sef yr Hwb Dysgu i gynnig cefnogaeth i ddisgyblion gyda’u gwaith ysgol. Rhyngddynt, mae’r ddau hwb yn sicrhau cefnogaeth a gofal i bob disgybl sydd angen cymorth ychwanegol, beth bynnag fo natur a maint y broblem.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae tîm o staff yn yr Hwb Bugeiliol sy’n cynnwys pennaeth cynorthwyol lles ac ymddygiad, penaethiaid blynyddoedd 7-11, dau swyddog lles, swyddog cymorth cyntaf corfforol a meddyliol a swyddog gweinyddol. Rhyngddynt, maent yn cydweithio i sicrhau gofal ac arweiniad i bob disgybl. Mae’r gefnogaeth yn cynnwys sesiynau un i un i’r disgyblion mwyaf bregus, sesiynau galw i mewn, sesiynau grŵp a sesiynau cymorth gan asiantaethau allanol. 

Mae’r Hwb Dysgu yn hafan y gall disgyblion o bob oed ddod i weithio ynddi. Mae gofod i ddosbarthiadau cyfan yng nghanol yr hafan ac o amgylch yr ochrau mae ‘pods’ gwaith o amrywiol feintiau sy’n ddelfrydol ar gyfer astudio annibynnol, grwpiau ymyrraeth, gweithdai addysgol a chlybiau amser cinio. Mae tîm yr Hwb Dysgu’n cynnwys pennaeth cynorthwyol dysgu ac addysgu, pennaeth cynorthwyol asesu a Chynnydd, dau gydlynydd cynnydd, dau fentor dysgu a’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol. Drwy wefan yr Hwb Dysgu, gall ddisgyblion hunan-gyfeirio am gymorth academaidd cyffredinol neu bwnc penodol. Gall staff a rhieni gyfeirio disgyblion yn yr un modd ac mae tîm yr Hwb Dysgu’n cyfarfod yn wythnosol i drafod y cyfeiriadau a threfnu ymyrraeth bwrpasol. Gall hyn gynnwys sesiynau mentora, ymyrraeth gan adran benodol neu gymorth i ddal fyny gyda gwaith coll. Law yn llaw â’r ganolfan, sefydlwyd gwefan yr Hwb Dysgu sy’n cynnig cyfoeth o adnoddau i gynorthwyo disgyblion gyda’u gwaith ysgol ac annog dysgu annibynnol. Mae ynddi adran i rieni hefyd i gynnig arweiniad ar gefnogi plant ac adran i athrawon rannu arfer dda o ran dysgu ac addysgu.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae gwaith yr Hwb Bugeiliol yn cyfrannu at sicrhau bod gan y disgyblion agweddau iach at ddysgu a’u bod yn ymddwyn a pharch tuag at ei gilydd. Mae’r gefnogaeth a roddir i’r disgyblion mwyaf bregus yn golygu bod pob disgybl yn llwyddo i barhau a’u haddysg tan ddiwedd Blwyddyn 11. Yn ogystal â chreu amserlen wedi’i theilwra i amgylchiadau’r unigolyn, mae’r cymorth ac arweiniad a roddir i ddisgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol dwys yn un o’r rhesymau nad yw’r ysgol wedi gorfod gwahardd disgybl yn barhaol ers sefydlu’r Hwb Bugeiliol. Mae cyfradd presenoldeb yr ysgol yn gyson uwch na’r canran cenedlaethol.

Ers ei sefydlu, mae’r Hwb Dysgu wedi ymdrin â channoedd o gyfeiriadau gan ddisgyblion, staff a rhieni ac mae hyn wedi arwain at gynnydd academaidd pendant yn achos sawl disgybl. Gwelwyd cynnydd pwnc penodol gan rai disgyblion yn dilyn ymyrraeth tra bod eraill wedi gwneud cynnydd cyffredinol yn dilyn sesiynau mentora. Mae’r Hwb Dysgu wedi datblygu i fod yn ganolfan ddysgu effeithiol gyda gweithdai a chlybiau – sawl un ohonynt wedi’u trefnu gan y dysgwyr eu hunain – yn cynnig profiadau dysgu cyfoethog i ddisgyblion o bob oed a phob gallu. Rhwng y ganolfan a’r wefan bwrpasol, mae’r ysgol yn gallu rhoi pwyslais cynyddol ar feithrin dysgwyr annibynnol.
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Adnabod gwaith yr Hwb Bugeiliol fel arfer dda a arweiniodd at sefydlu ail hwb yn yr ysgol, sef yr Hwb Dysgu. Bellach, mae arweinwyr yn cydweithio er mwyn sicrhau bod arfer dda yn y naill hwb yn dylanwadu ar effeithiolrwydd y llall. Er enghraifft, mae gwefan yr Hwb Dysgu, sy’n cynnwys toreth o adnoddau i gefnogi dysgu a ffurflen gyfeirio syml at ddefnydd dysgwyr, staff a rhieni wedi cael ei hadnabod fel arfer dda y gall yr Hwb Bugeiliol ei hefelychu. Mae disgyblion a rhieni yn cael cyfle i ymweld â’r ddau hwb mewn nosweithiau agored. Mae gwefan yr ysgol yn cynnwys llawer o wybodaeth a chyswllt i wefan yr Hwb Dysgu ac rydym wrthi’n creu gwefan debyg ar gyfer yr Hwb Bugeiliol. Mae’r ysgol yn croesawu ymwelwyr o sefydliadau dysgu eraill i ddod i weld y ddau hwb ar waith.