Cefnogaeth i teuluoedd - Estyn

Cefnogaeth i teuluoedd

Arfer effeithiol

Western Learning Federation Ty Gwyn Special School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Tŷ Gwyn yn rhan o Ffederasiwn Dysgu’r Gorllewin sy’n gweithio ochr yn ochr ag Ysgol Riverbank ac Ysgol Woodlands. Mae Ysgol Tŷ Gwyn yn ysgol arbennig yn awdurdod lleol Caerdydd. Mae 222 o ddisgyblion 3-19 oed ar y gofrestr. Nodwyd bod gan bob un o’r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Mae anghenion dysgu ychwanegol disgyblion yn amrywiol; mae tua 36% o ddisgyblion yn awtistig ac mae gan 35% yn fwy ohonynt anawsterau corfforol a meddygol. Mae gan weddill y disgyblion amrywiaeth o anawsterau dysgu, gan gynnwys anawsterau dysgu dwys a lluosog, anawsterau dysgu difrifol, anawsterau dysgu cymedrol a chyffredinol. Yn ychwanegol, mae gan ychydig o ddisgyblion namau synhwyraidd.

Mae 29 o ddosbarthiadau yn yr ysgolion, y mae un o’r rhain yn ddosbarth meithrin. Mae 45.8% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Mae 32% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol, sydd gryn dipyn uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 6%.

Cyd-destun a chefndir

Agorwyd Canolfan Deuluol Tŷ Gwyn yn 2007 i ddarparu lle i rieni fanteisio ar gymorth, ffurfio perthnasoedd â rhieni eraill a chael mynediad at chwarae a gweithgareddau arbenigol ar gyfer eu plant. Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael i unrhyw deulu yn ardal Caerdydd sydd â phlant cyn-ysgol ag anghenion dysgu ychwanegol.

Ar ôl cael adborth, datblygwyd y ganolfan deuluol i gynnwys cyrsiau i rieni, fel ‘Y Blynyddoedd Anhygoel’ (‘The Incredible Years’) a ‘Bwyta’n Iach’ (‘Healthy Eating’) wedi’u hwyluso gan y staff.

Gall ymglymiad rhieni â’r ganolfan deuluol ddechrau trwy atgyfeiriadau neu argymhelliad o’r adeg y caiff plant eu geni. Wedyn, gallant gael mynediad at y ganolfan trwy daith addysgol eu plentyn hyd nes bydd yn gadael Tŷ Gwyn yn 19 oed.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

  • Mae’r ganolfan deuluol yn cynnig cymorth i rieni i’w cynorthwyo i gefnogi dysgu a lles eu plant. Mae’n ymatebol i deuluoedd ac yn aml dyma’r pwynt cyswllt cyntaf rhwng yr ysgol a’r teuluoedd.
  • Mae’n darparu amgylchedd lle gall rhieni alw i mewn a derbyn cyngor, cymorth ac arweiniad.
  • Mae darparu cyfleoedd i rieni gyfarfod a rhannu profiadau.
  • Mae’n darparu cyrsiau mewn Saesneg fel iaith ychwanegol. Yn sgil hyn, dechreuodd rhieni gymryd rhan mewn cyrsiau eraill, fel gwnïo a bwyta’n iach.
  • Mae cyfle i droi at gwnselydd mewnol yn rhad ac am ddim. Mae’r gwasanaeth yn benagored ac yn gwbl gyfrinachol. Mae cwnselydd yr ysgol hefyd ar gael i gynorthwyo ac eirioli ar gyfer rhieni yn ystod cyfarfodydd CDU ac archwiliadau meddygol.

Yn ychwanegol, mae’r ganolfan deuluol:

  • wedi datblygu ac yn hwyluso rhwydweithiau cymorth ar gyfer rhieni.
  • yn cynnal boreau coffi thema sy’n canolbwyntio ar destunau fel cwsg, cyllid a rheoli gwyliau. Mae gweithgareddau fel y rhain yn canolbwyntio ar dargedau a nodwyd ar gyfer disgyblion.
  • yn arddangos ac yn cynnal sesiynau mewn storïau synhwyraidd, therapi cyffwrdd a chwarae â ffocws. O ganlyniad, mae gan rieni ddealltwriaeth well o’r dulliau a ddefnyddir gan staff yr ysgol gyda’u plentyn.
  • yn defnyddio technoleg ar-lein i gyfathrebu â rhieni a darparu gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd ar fin cael eu cynnal. Gall rhieni ddefnyddio’r dechnoleg i gyflwyno gwybodaeth yn eu dewis iaith.

Effaith

Mae rhieni:

  • wedi dweud bod cael mynediad at grwpiau a chyrsiau yn y ganolfan deuluol wedi’u helpu i ddatblygu medrau y gallant eu defnyddio gartref, gan effeithio’n gadarnhaol ar les, hyder, ac ymgysylltiad.
  • wedi dod yn fwy hyderus o ran rhannu eu barn; o ganlyniad i hyn, mae plant a theuluoedd yn cael cymorth mwy teilwredig.
  • sy’n mynychu dosbarthiadau SIY yn sgwrsio, yn gwneud gramadeg, darllen ac ysgrifennu. Mae eu medrau Saesneg yn parhau i wella, ac maent yn mwynhau dod i’r dosbarthiadau. Mae rhai rhieni wedi mynd ymlaen i elwa ar ddosbarthiadau Saesneg fwy datblygedig yn y gymuned, hyd yn oed pan maent wedi symud i fyw mewn gwlad arall.
  • a oedd yn mynychu’r grŵp gwnïo wedi datblygu cyfeillgarwch cryf ac wedi ffurfio grŵp o’r enw Gwniwyr Tŷ Gwyn (Tŷ Gwyn Stitchers). Maent yn anfon negeseuon at ei gilydd yn rheolaidd, gan gadw mewn cysylltiad a rhannu prosiectau. Mae sawl un o’r rhieni wedi symud ymlaen i grŵp gwnïo ar gyfer pwythwyr profiadol, erbyn hyn. Yn dilyn llwyddiant y grŵp hwn, mae grŵp gwnïo arall wedi cael ei sefydlu ar gyfer dechreuwyr, ac mae dwy sesiwn wnïo yn cael eu cynnal bob wythnos yn ystod y tymor erbyn hyn. Dywedodd rhieni fod ganddynt hyder cynyddol i ymgymryd â’u prosiectau eu hunain gartref.
  • a ddechreuodd fynychu’r ganolfan deuluol cyn i’w plant ddechrau yn yr ysgol, wedi parhau i’w defnyddio trwy gydol cyfnod eu plentyn yn yr ysgol, gan fynychu boreau coffi yn rheolaidd a manteisio ar amrywiaeth y dosbarthiadau a gynigir.

Yn ychwanegol:

  • Mae cwnsela wedi galluogi rhieni i sylwi ar batrymau ac ymddygiadau a oedd yn deillio o brofiadau plentyndod, a mynd i’r afael â nhw, gan ennill dealltwriaeth ohonyn nhw eu hunain ac o fywyd yn gyffredinol. O ganlyniad, mae lles y teuluoedd wedi cael ei effeithio’n gadarnhaol, ar y cyfan.
  • Mae’r ganolfan deuluol yn trefnu trip diwylliannol blynyddol lle gall rhieni fwynhau amser yn dysgu am ddiwylliant Cymru.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

  • Mae gwybodaeth am y ganolfan deuluol a dysgu i’w gweld ar wefan yr ysgol.
  • Mae ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill wedi ymweld i ddysgu mwy am ymagweddau Tŷ Gwyn at weithio gyda rhieni. Yn ychwanegol, mae staff wedi darparu cymorth i rieni plant cyn-ysgol ag anghenion dysgu ychwanegol o ysgolion eraill yng Nghaerdydd.
  • Mae staff y ganolfan deuluol yn cymryd rhan mewn grwpiau llywio ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned a sefydliad sy’n achredu ysgolion am y gwaith a wnânt gyda theuluoedd.
  • Gweithio rhwng ysgolion gyda gweithwyr eraill cymorth i deuluoedd.
  • Mae’r llywodraethwyr yn ymwybodol o waith y ganolfan deuluol ac wedi ymweld â hi.
  • Mae nyrsys yr ysgol a gweithwyr eraill iechyd proffesiynol hefyd yn ymwybodol o waith y ganolfan deuluol.

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn