Cau’r bwlch rhwng cyrhaeddiad bechgyn a merched mewn ysgolion – Mawrth 2008
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai ysgolion:
- ddyfeisio polisi ysgol gyfan cydlynus ar gyfer gwella cyrhaeddiad bechgyn;
- canolbwyntio ar wella llythrennedd bechgyn; a
- dod o hyd i ffyrdd o fodloni anghenion dysgu disgyblion unigol trwy olrhain eu cynnydd a thargedu cymorth lle mae ei angen fwyaf.
Dylai awdurdodau lleol:
- roi blaenoriaeth uchel i raglenni llythrennedd sy’n gwella medrau llythrennedd bechgyn;
- sicrhau bod ysgolion yn gosod targedau ar gyfer gwella cyrhaeddiad bechgyn; a
- rhoi data perfformiad i ysgolion ar gyrhaeddiad cymharol bechgyn a merched o’i gymharu â normau cenedlaethol a normau wedi’u meincnodi.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- ddatblygu strategaeth genedlaethol ar gyfer gwella cyrhaeddiad bechgyn; a
- chomisiynu ymchwil i pam mae asesiadau athrawon yn tueddu i ffafrio merched yn fwy na phrofion ac arholiadau allanol.