Caiff rhaglenni dysgu unigol eu teilwra i gefnogi anghenion dysgwyr - Estyn

Caiff rhaglenni dysgu unigol eu teilwra i gefnogi anghenion dysgwyr

Arfer effeithiol

Coleg Elidyr


 

Gwybodaeth

Mae Coleg Elidyr yn goleg arbenigol annibynnol preswyl i bobl ifanc rhwng 18 a 30 oed sydd ag awtistiaeth, anawsterau dysgu ac anableddau. Mae’r holl ddysgwyr yn byw yn un o chwe thŷ preswyl y coleg, sydd wedi’u lleoli mewn 180 erw yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin.

Mae’r safle’n cynnwys ei siop groser, tyddyn a gardd gegin, man gwely a brecwast, a menter gwneud sebonau a bomiau bath. Hefyd, mae’n gartref i 27 o bobl ifanc eraill sydd ag anawsterau dysgu ac anableddau.

Cenhadaeth y coleg yw galluogi pobl ag anawsterau dysgu ac anableddau i ddatblygu’u gwybodaeth a’u medrau, a chyrraedd eu potensial llawn, gan fyw a gweithio mewn cymuned.

Cyd-destun a chefndir i’r ymarfer

Mae gan Goleg Elidyr dros ddeugain mlynedd o brofiad o ddefnyddio gweithgareddau pwrpasol amlsynhwyraidd i annog dysgu a datblygiad. Yn y coleg, cynigir crefftau traddodiadol gwehyddu, gwaith coed glas a gwaith saer ochr yn ochr â gwneud printiau, canhwyllau a sebon. I lawer o ddysgwyr, mae’r prosesau a’r rhythm sy’n gysylltiedig â chreu gwrthrychau crefft yn lleihau pryderon a gorlwytho synhwyraidd. Yn aml, mae natur gweithgareddau ailadroddol yn rhoi sicrwydd a rhagweladwyedd i fagu hyder dysgwyr yn eu hamgylcheddau. Wrth i lesiant a hunansicrwydd gynyddu, mae eu parodrwydd i dderbyn cyfleoedd dysgu yn cynyddu hefyd. Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau crefydd yn cynnig cyfleoedd anuniongyrchol am ryngweithiadau pwrpasol hefyd.

Mae’r ddealltwriaeth hon o sut mae gweithgareddau penodol iawn yn gallu gwella gallu unigolion i ymgysylltu â dysgu wedi llywio dull y coleg o greu rhaglenni dysgu sydd wedi’u gwahaniaethu’n sylweddol. Mae rhaglenni dysgu’n sicrhau bod gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch gofynion therapiwtig a chymorth dysgwyr yn cyfateb yn dda i’w hanghenion datblygu a’u dyheadau ar ôl gadael y coleg.

Ar gyfer dysgwyr unigol, mae hyn yn golygu bod gweithgareddau amlsynhwyraidd ystyrlon sy’n gwella llesiant wedi’u hintegreiddio i raglenni dysgu unigol (RhDU) yn y saith maes canlynol: dinasyddiaeth, iechyd a llesiant, hunaneiriolaeth, medrau dysgu annibynnol, medrau’r cartref, llythrennedd digidol, llythrennedd a rhifedd.

Mae tîm amlddisgyblaeth sy’n cynnwys tiwtoriaid, staff cymorth dysgu, cydlynwyr y cwricwlwm, rheolwyr tai a thîm therapiwtig sy’n cynnwys cydlynydd cyfathrebu cyflawn, therapydd galwedigaethol, a therapydd iaith a lleferydd yn cytuno ar Raglenni Dysgu Unigol, ac yn eu monitro a’u hadolygu.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer effeithiol neu arloesol

Yn dilyn asesiad gwaelodlin chwe wythnos cychwynnol o alluoedd dysgwyr yn holl feysydd y RhDU, mae’r tîm amlddisgyblaeth yn cytuno ar dargedau tymor byr a nodau tymor canol a hwy ym mhob maes y RhDU. Mae nodau dysgu yn cyfrif am ffactorau a nodwyd, fel anawsterau prosesu synhwyraidd, cyfyngiadau corfforol ac anghenion hunanreoleiddio, ac eir i’r afael â’r rhain trwy feysydd y cwricwlwm ynghyd ag yn ystod y nosweithiau a’r penwythnosau.

Yn ymarferol, er enghraifft, gall y therapydd galwedigaethol fod wedi nodi sut gallai dysgwr elwa o weithgareddau sy’n cynnwys ymwrthedd corfforol er mwyn caniatáu iddo hunanreoleiddio a rheoli’i bryderon. Ar yr un pryd, gallai’r therapydd iaith a lleferydd fod wedi argymell y byddai’r un dysgwr yn elwa o fwy o gyfleoedd i gychwyn cyfathrebu cymdeithasol. Trwy gynnwys yr argymhellion hyn i ategu datblygiad medrau ym mhob maes y RhDU, gallai dysgwr gael ei arwain i gymryd cyfrifoldeb am ddanfon llaeth o siop y coleg i’w dai preswyl. Trwy ddefnyddio whilber i ddanfon llaeth, caiff angen y dysgwr am weithgareddau ymwrthedd corfforol ei fodloni. Hefyd, bydd yn gofyn i’r dysgwr gymryd rhan mewn rhyngweithiadau cymdeithasol gyda dysgwyr a staff mewn tai wrth wneud y danfoniadau.

Hefyd, bydd yn cynorthwyo â datblygiad medrau yn holl feysydd y RhDU. Er enghraifft:

  • Dinasyddiaeth: trwy ddatblygu dealltwriaeth o’i hunan ac eraill, trwy gyfrannu at fyw’n gymunedol
  • Iechyd a llesiant: trwy ymarfer corff i hybu iechyd corfforol a llesiant meddyliol
  • Hunaneiriolaeth: trwy gyfathrebu â dysgwyr eraill a staff
  • Medrau dysgu annibynnol: trwy ddatrys problemau’n gysylltiedig ag ymgymryd â thasgau gydag annibyniaeth gynyddol
  • Medrau’r cartref: trwy ddatblygu dealltwriaeth o laeth fel nwydd y cartref
  • Llythrennedd digidol: fel y bo’n briodol i’r unigolyn, ond gallai gynnwys e-bostio i gadarnhau archebion llaeth
  • Llythrennedd a rhifedd: trwy ddeall a chofnodi faint o laeth ddylai gael ei ddanfon i bob tŷ

Wrth i ddysgwyr symud ymlaen yn eu rhaglenni, cânt gymorth i drosglwyddo medrau galwedigaethol a bywyd i’r gymuned ehangach, er enghraifft trwy weithio mewn archfarchnad neu gynllunio a phontio i fywyd ar ôl y coleg.

Yr effaith ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Mae’r coleg wedi datblygu prosesau trylwyr i gydnabod a chofnodi cynnydd sy’n dangos galluoedd dysgwyr yn glir a’r cynnydd a wnaed yn eu rhaglenni dysgu unigol. Mae’r dull hwn yn caniatáu am fesur y camau datblygiadol rhwng lefelau a theilwra cymorth. Hefyd, mae’n sicrhau bod ffocws i ddatblygiad medrau a’u bod wedi’u seilio mewn gweithgareddau pwrpasol.

Yn ei arolygiad diweddar o’r coleg yn Hydref 2019, nododd arolygwyr Estyn:

“Mae bron pob un o’r dysgwyr yn gwneud cynnydd rhagorol. O ran eu mannau cychwyn unigol, mae bron pob un o’r dysgwyr yn rhagori ar eu targedau personol ac yn gwneud cynnydd eithriadol o dda tuag at gyflawni eu potensial. O ganlyniad, maent yn gadael y coleg wedi eu paratoi’n well ar gyfer y cyfnod nesaf yn eu bywydau.”


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn