Nod yr adroddiad yw rhoi trosolwg i Lywodraeth Cymru o ba mor effeithiol y mae lleoliadau ac ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn addysgu a chefnogi caffael a datblygu medrau Cymraeg ymhlith dysgwyr rhwng tair ac un ar ddeg oed.
Argymhellion
Dylai lleoliadau nas cynhelir, ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd:
- A1 gynllunio’n ofalus ar gyfer dilyniant a pharhad mewn datblygu medrau dysgwyr o bob cefndir ieithyddol wrth iddynt gaffael y Gymraeg
- A2 darparu gweithgareddau gwrando a siarad rheolaidd i ddatblygu geirfa a phatrymau cystrawennol dysgwyr, a’u hannog i gymhwyso’r medrau newydd hyn mewn gweithgareddau ffurfiol a llai ffurfiol
- A3 olrhain cynnydd, datblygiad geirfa a chaffaeliad iaith grwpiau penodol o ddysgwyr yn drylwyr, gan gynnwys y rhai sy’n fwy abl
Dylai ysgolion cynradd:
- A4 gynnig cyfleoedd i ddysgwyr wrando ar, darllen a gwerthfawrogi llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg gan awduron o Gymru, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 2
- A5 sicrhau cyfleoedd rheolaidd i ddysgwyr ysgrifennu’n rhydd ac yn annibynnol
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
- A6 ddarparu hyfforddiant i ddwysau dealltwriaeth ymarferwyr o’r modd y mae dysgwyr yn caffael y Gymraeg, ac o fethodoleg effeithiol o ran trochi iaith
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A7 ddatblygu canllawiau cenedlaethol ar drochi iaith er mwyn cefnogi addysgu a dysgu wrth gaffael y Gymraeg