Cael yr hinsawdd yn gywir
Ysgol 3-19 oed ddwyieithog yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, yw Ysgol Bro Pedr. Mae’r ysgol yn derbyn disgyblion i’r adran gynradd yn dair oed. Mae disgyblion o ysgolion cynradd partner eraill yn yr awdurdod lleol a thu hwnt yn ymuno â’r adran uwchradd yn 11 oed. Mae tua 1,050 o ddisgyblion ar y gofrestr, gyda thua 360 o ddisgyblion yn yr adran gynradd a 151 yn y chweched dosbarth. Sefydlwyd yr ysgol trwy uno dwy ysgol flaenorol, sef Ysgol Gynradd Ffynnonbedr ac Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan. Mae ‘Canolfan y Bont’, sef adnodd yr awdurdod lleol ar gyfer disgyblion oedran uwchradd ag anghenion dwys, yn rhan annatod o’r ysgol hefyd. Ceir uned arbenigol hefyd ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol dwys a disgyblion sy’n agored i niwed sydd ag anghenion ymddygiadol.
Mae tua 14% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.Mae’r ysgol yn nodi bod gan dros 40% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol.Mae gan ryw 5% o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.Daw tua 60% o ddisgyblion o gartrefi di-Gymraeg.Mae dros 8% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol, sy’n llawer uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.
Penodwyd y pennaeth ym mis Ionawr 2016. Ar yr adeg honno, roedd gan yr ysgol un dirprwy bennaeth a dau bennaeth cynorthwyol. Yn dilyn cyfnod o ailstrwythuro, mae ganddi ddau ddirprwy bennaeth a thri phennaeth cynorthwyol cyfwerth ag amser llawn erbyn hyn. Mae gan bob un o’r uwch staff gyfrifoldebau penodol sy’n ymwneud â datblygu’r ysgol yn gymuned ddysgu effeithiol.
Mae’r ysgol yn ysgol arloesi ar hyn o bryd ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau sy’n ymwneud â’r cwricwlwm a dysgu proffesiynol arall.
Strategaeth a chamau gweithredu
Mae gan y pennaeth weledigaeth glir sy’n seiliedig ar yr egwyddor fod ‘Pob plentyn yn cyfrif yn Ysgol Bro Pedr’.
Fel rhan o’i gwaith fel ysgol arloesi, mae’r ysgol yn ystyried beth yw’r ffordd orau i ddatblygu’r 12 egwyddor addysgegol a ddyfynnir yn Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015).
Y flaenoriaeth gyntaf yng nghynllun datblygu’r ysgol ar gyfer 2016-2017 oedd ‘Codi safonau dysgu ac addysgu er mwyn gwella cynnydd a chyflawniad disgyblion 2017-2018.
Wrth ddechrau’r gwaith fel ysgol arloesi, nododd arweinwyr fod angen:
- Sefydlu hinsawdd briodol i alluogi athrawon i addysgu’n llwyddiannus ac i ddisgyblion gyflawni hyd eithaf eu gallu
- Arfarnu effeithiolrwydd yr addysgu
- Sicrhau cysondeb, rhannu arfer dda a datblygu addysgeg
1 Sefydlu hinsawdd briodol i alluogi athrawon i addysgu’n llwyddiannus ac i ddisgyblion gyflawni hyd eithaf eu gallu.
I ddechrau, cafodd staff drafodaeth gynhyrchiol am y prif rwystrau a oedd yn eu hatal rhag addysgu’n effeithiol a chyflwyno’r gwersi roeddent wedi’u cynllunio ar gyfer disgyblion. Daethant i’r casgliad mai treulio amser yn delio â mân achosion o gamymddwyn oedd y prif rwystr ar draws yr ysgol. Codwyd problemau’n ymwneud â lles disgyblion gan athrawon yn y sector cynradd hefyd.
Er mwyn sicrhau ei bod yn rhoi cyfle i athrawon addysgu heb orfod delio â’r problemau ymddygiadol parhaus hyn, rhoddodd yr ysgol gamau gweithredu priodol ar waith.
Yn y sector cynradd, penderfynodd arweinwyr gael ystafell gymorth ddynodedig lle gallai disgyblion fynd os oeddent yn tarfu’n ormodol ar ddysgu. Penododd yr ysgol aelod o staff cymorth lefel 3 yn gydlynydd yr ystafell gymorth. Os bydd disgybl yn tarfu ar wersi’n ormodol mewn dosbarth cynradd, bydd aelod o staff yn mynd ag ef i’r ystafell gymorth. Bydd cydlynydd yr ystafell gymorth yn trafod y materion gyda’r disgybl dan sylw ac yn ceisio datrys ei broblemau ac yn mynd i’r afael ag unrhyw bryderon. O dan oruchwyliaeth y cydlynydd, mae’r disgyblion yn cwblhau’r tasgau y byddai wedi eu gwneud yn y dosbarth. Pan fydd angen, mae’r cydlynydd yn cysylltu â rhieni hefyd i geisio datrys unrhyw broblemau gwaelodol neu broblemau ymddygiadol a allai fod gan y disgybl.
Yn y sector uwchradd, mae’r ysgol wedi sefydlu cod ymddygiad y mae’n ei alw yn ‘Hawl i Ddysgu Bro Pedr’. Mae’r cod yn amlinellu rheolau ymddygiad clir ar gyfer disgyblion ac yn eu gwneud yn gyfrifol am y dewisiadau y maent yn eu gwneud ynglŷn â’u hymddygiad eu hunain yn yr ystafell ddosbarth ac o gwmpas yr ysgol. Mae athrawon yn cofrestru disgyblion ar ddechrau pob gwers ac yn rhoi gradd i bob disgybl ar ddiwedd pob gwers. Mae’r graddau’n mynd o un i bedwar. Mae gradd un am waith rhagorol neu ymddygiad da tuag at ddysgu, mae gradd dau am yr ymddygiad disgwyliedig, mae gradd tri yn golygu bod yr athro wedi rhoi rhybudd ac mae gradd pedwar yn golygu bod y disgybl wedi cael ei dynnu o’r ystafell ddosbarth i gwblhau ei waith yn yr ystafell gymorth. Mae staff yn defnyddio system gofrestru electronig i gofnodi gradd pedwar ac yn cofnodi’r rhesymau pam y gwnaethant y penderfyniad i dynnu disgybl o’r ystafell ddosbarth. Mae arweinwyr yn dadansoddi’r wybodaeth hon yn effeithiol i fynd i’r afael â chamymddwyn parhaus a nodi patrymau ymddygiad disgyblion.
O ganlyniad i gyflwyno’r systemau hyn, buan y dywedodd staff fod gwelliant sylweddol yn ymddygiad disgyblion a gwelliant yn eu lles personol. Roedd athrawon yn gallu addysgu trwy gydol y wers heb i rywun darfu, ac roedd cynnydd gwell gan ddisgyblion yn amlwg, nid yn unig ymhlith disgyblion a oedd wedi camymddwyn yn y gorffennol, ond ymhlith eu cyfoedion hefyd.
2 Arfarnu effeithiolrwydd yr addysgu
Mae arweinwyr yn gosod targedau rheoli perfformiad i athrawon ac yn seilio eu harfarniadau am effeithiolrwydd addysgu trwy farnu ansawdd safonau disgyblion. Mae gan bob athro o leiaf un targed meintiol sy’n ymwneud â deilliannau disgwyliedig grŵp o ddisgyblion ar ddiwedd y cyfnod allweddol perthnasol. Mae arweinwyr yn sicrhau bod pob un o’r athrawon yn gyfarwydd â’r safonau proffesiynol cenedlaethol ac yn eu rhoi ar waith yn gyson. Mae arweinwyr yn disgwyl i athrawon ddefnyddio data disgyblion i lywio eu cynlluniau gwersi a’r adnoddau addysgu a baratowyd ganddynt. Mae hyn yn cynnwys gosod gwaith dosbarth diddorol, gwahaniaethol a heriol a thasgau gwaith cartref sy’n galluogi pob disgybl i wneud cynnydd priodol.
Mae’r ysgol yn darparu cymorth unigol ychwanegol ar gyfer athrawon sy’n derbyn barn ddigonol neu’n is mewn dau arsylwad ystafell ddosbarth neu fwy.
3 Sicrhau cysondeb, rhannu arfer dda a datblygu addysgeg
Gan fod yr ysgol yn ysgol arloesi ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i arwain gwaith yn ymwneud â dysgu proffesiynol, rhoddir blaenoriaeth i ddatblygu addysgeg effeithiol yn Ysgol Bro Pedr.
Penderfynodd arweinwyr ddefnyddio triawdau proffesiynol i ddatblygu’r 12 egwyddor addysgegol a ddyfynnir yn Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015). Mae’r ysgol yn credu bod y triawdau yn ffordd effeithiol o arsylwi arfer dda, rhannu syniadau, magu hyder a chynorthwyo staff. Mae triawdau proffesiynol yn cynnwys tri athro yn gweithio gyda’i gilydd dros gyfnod i gynllunio, rhoi cynnig ar syniadau newydd, arsylwi, addysgu ac arfarnu arfer ei gilydd.
Cylch cynllunio triawdau proffesiynol
Cyfarfod 1: Mae’r tri athro yn cynllunio ar y cyd, ac mae un o’r tri ohonynt yn addysgu’r wers, tra bod y ddau athro arall yn arsylwi. Wedyn, maent yn llenwi taflen arsylwi gwers.
Cyfarfod 2: Mae’r athrawon yn rhoi adborth ar eu harsylwadau o’r wers gyntaf ac wedyn yn cyd-gynllunio’r wers nesaf. Mae’r ail athro o’r triawd yn addysgu a’r ddau athro arall yn arsylwi. Wedyn, maent yn llenwi taflen arsylwi gwers.
Cyfarfod 3: Mae’r athrawon yn rhoi adborth ar eu harsylwadau o’r ail wers ac wedyn yn cyd-gynllunio’r wers nesaf. Mae’r athro olaf o’r triawd yn addysgu a’r ddau athro arall yn arsylwi. Wedyn, maent yn llenwi taflen arsylwi gwers.
Cyfarfod 4: Mae’r athrawon yn rhoi adborth ar eu harsylwadau o’r drydedd wers ac yn llenwi ffurflen adborth ar y cyd y maent yn ei chyflwyno i’r tîm arweinyddiaeth.
Mae’r adborth gan athrawon yn rhoi trosolwg strategol i uwch arweinwyr o ba mor dda y mae’r system driawdau yn gweithio ac mae’n eu helpu i wneud penderfyniadau am y ffordd orau o addasu’r system wrth iddi gael ei hymgorffori ar draws yr ysgol.
Mae’r triawdau wedi eu trefnu yn y ffyrdd canlynol:
- tri athro sydd â’r un lefel o gyfrifoldeb
- athrawon amhrofiadol yn gweithio gydag athrawon profiadol
- triawdau ar draws pynciau
Yn y cylch cyntaf, canolbwyntiodd y triawdau ar un o’r egwyddorion addysgegol canlynol:
- meddylfryd a grym ymdrech
- asesu ar gyfer dysgu
- diben cyffredinol
Eleni, mae pob un o’r triawdau yn canolbwyntio ar egwyddor addysgu cyfunol. Mae’r ysgol wedi penderfynu defnyddio’r agwedd hon i wella medrau athrawon er mwyn eu helpu i ddatblygu cymhwysedd digidol ar draws yr ysgol.
Mae rhai o’r triawdau, ac athrawon unigol, yn cofnodi eu gwersi gan ddefnyddio offer fideo i’w galluogi i arfarnu eu hunain a’u cymheiriaid. Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn.
I sicrhau cysondeb a gwella addysgu ar draws yr ysgol, mae pob un o’r staff yn dilyn polisïau cytûn yr ysgol ar arfer ystafell ddosbarth. Mae’r rhain yn cynnwys defnyddio cod marcio cyffredin, athrawon yn trafod gwaith disgyblion gyda nhw yn hytrach na rhoi adborth ysgrifenedig iddynt yn unig, ac athrawon yn rhoi mwy o ystyriaeth i lais y disgybl mewn gwersi i sicrhau lefel well o her i bawb.
I gynorthwyo athrawon i ddarparu her briodol i bob disgybl, mae’r ysgol wedi creu llawlyfr staff ar wahaniaethu. Mae’r llawlyfr yn cadarnhau pwysigrwydd creu gwersi sy’n mynd i’r afael ag anghenion pob disgybl i sicrhau dysgu effeithiol ym mhob dosbarth. Mae’n rhoi esboniad clir i athrawon am yr hyn y mae’r ysgol yn ei olygu wrth y term gwahaniaethu ac mae’n darparu syniadau, strategaethau ac enghreifftiau defnyddiol iddynt eu defnyddio yn eu gwersi. Mae’r rhain yn cynnwys cyngor ar y canlynol:
- cyflwyno, arddangos a thrafod geiriau allweddol
- modelu sgyrsiau
- cynlluniau eistedd
- rhoi enghreifftiau o atebion
- dangos enghreifftiau o waith da
- gwahaniaethu yn ôl canlyniad
- tasgau estynedig
- sicrhau cyflymdra priodol i wersi
- gwaith grŵp
- rhoi amser i feddwl
- holi medrus
- defnyddio fframiau ysgrifennu
Mae athrawon, gan gynnwys staff cyflenwi, yn gwerthfawrogi’r llawlyfr. Maent yn meddwl ei fod yn adnodd gwerthfawr, sy’n eu helpu i wella ansawdd eu haddysgu ac yn codi safonau dysgu disgyblion.
I sicrhau bod arferion yn y sector cynradd ac uwchradd mor gyson ag y bo modd, mae’r ysgol yn datblygu elfen thematig yr addysgu a ddefnyddir gan y sector cynradd yn rheolaidd ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 mewn pynciau fel hanes, daearyddiaeth a TGCh. Mae hyn yn hwyluso’r cyfnod pontio ar gyfer disgyblion ac yn paratoi staff a disgyblion yn effeithiol i fodloni gofynion y Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Deilliannau
Un o’r prif ddeilliannau yw’r gwelliant yn ymddygiad disgyblion mewn dosbarthiadau. Mae disgyblion yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu hymddygiad, yn canolbwyntio’n well ac yn dangos ymrwymiad gwell i ddysgu. Yn annisgwyl, mae hunanhyder llawer o ddisgyblion a oedd wedi camymddwyn yn hanesyddol wedi cynyddu, ac maent yn dechrau sylweddoli y gallant lwyddo mewn tasgau. O ganlyniad, mae ganddynt ddyheadau uwch ar gyfer eu dyfodol. Mae athrawon wedi adrodd am safonau cyflawniad gwell, nid yn unig ar gyfer disgyblion sydd wedi camymddwyn yn y gorffennol, ond hefyd ar gyfer y disgyblion eraill yn eu dosbarthiadau. Bu cynnydd yng nghyrhaeddiad disgyblion yn y mwyafrif o ddangosyddion ar ddiwedd y cyfnodau allweddol.
Mae lles staff wedi gwella. Mae athrawon yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn gallu canolbwyntio ar addysgu trwy gydol eu gwersi, yn hytrach na gwastraffu amser yn delio â chamymddwyn a thanberfformio.
Mae athrawon yn gweld gwerth gweithio mewn triawdau ac yn teimlo bod arweinwyr yn eu cynorthwyo’n barhaus i wella eu harfer addysgu.
Mae gan arweinwyr ddealltwriaeth dda o safon yr addysgu a dysgu ar draws yr ysgol, ac maent yn cydnabod bod cysondeb ac arfer well mewn addysgu erbyn hyn.
Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol
- Sicrhau bod systemau i wella addysgu a dysgu yn cael eu hymgorffori
- Gwella gallu athrawon ymhellach i asesu ansawdd eu harfer eu hunain, ac arfer eu cymheiriaid
- Sicrhau bod athrawon yn gwybod pa agweddau ar ddysgu disgyblion y mae angen eu gwella i’w galluogi i gyrraedd eu potensial