Cabinet Disgyblion yn hybu annibyniaeth ac yn cefnogi bywyd ysgol - Estyn

Cabinet Disgyblion yn hybu annibyniaeth ac yn cefnogi bywyd ysgol

Arfer effeithiol

Ysgol Gymraeg Gwenffrwd


 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Sefydlwyd amrywiol grwpiau i’r dysgwyr arwain o fewn yr ysgol er mwyn iddynt leisio’u barn a chael y cyfle i newid trywyddion o fewn yr ysgol.  Er enghraifft drwy’r cyngor ysgol,  yr eco bwyllgor,  ‘Mêts-Grêt’, ‘Ffrindiau Ffreutur’,  ‘E-Cadets’,  ‘Dewiniaid Digidol’,  ‘Criw Heartstart’,  ‘Llysgenhadon Iaith’,  a ‘Chwaraewyr Da’.  Cysylltodd y cyngor ysgol gyda swyddfa’r Comisiynydd Plant er mwyn cydweithio gyda’r prosiect ‘Llysgenhadon Gwych’.  Gan fod y cyngor ysgol a’r ‘E-Cadets’ eisoes yn adolygu ambell bolisi allweddol ar gyfer y Corff Llywodraethol, teimlwyd bod angen ffurfio ‘cabinet llais y dysgwyr’ i gael cynrychiolaeth o’r holl grwpiau gyda’i gilydd bob hanner tymor.  Pwrpas hyn oedd i gael trefn well o rannu gwybodaeth ymysg y grwpiau a’r disgyblion o fewn yr ysgol.  Bu’r Cabinet yn llwyddiant mawr.  Mae’n cael ei redeg yn llwyr gan y disgyblion, gyda chofnodion pwrpasol a thargedau gweithredu effeithiol ar gyfer pob tymor.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r amrywiol grwpiau o fewn Ysgol Gwenffrwd yn parhau i gyfarfod a thargedu eu meysydd cyfrifoldeb hwy, ond,  drwy weithgaredd y Cabinet, gellir cydgordio prosiectau yn well gan sicrhau nad oes gor-gyffwrdd ac nad oes cyfnodau sy’n rhy ‘drwm’ o ran gweithgareddau allgyrsiol-  drwy amseru effeithiol, a rhannu syniadau ac adnoddau.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Yr effaith mwyaf amlwg yw annibyniaeth y disgyblion.  Gallant baratoi a chofnodi cyfarfodydd yn hollol annibynnol, gan ‘wthio’ targedau a gytunwyd arnynt ac adrodd nôl i’w grwpiau cychwynnol.  Yn dilyn hynny, yn aml mae’r hyder hwn yn ymdreiddio i’w gwaith ar lawr y dosbarth, y tu allan i’r cwricwlwm arferol ac wrth gyfathrebu ac eraill, gan gynnwys ymwelwyr i’r ysgol.  O ganlyniad, mae  ‘llais y dysgwyr’ yn amlwg iawn yn holl lwyddiannau Gwenffrwd.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae ymwelwyr i’r ysgol yn cael eu tywys gan y disgyblion, ac os oes trafodaeth ar bolisi, yn cynnal y drafodaeth gyda’r disgyblion.  Mae’r Cabinet yn cynnal cyfarfod bob hanner tymor, ac mae drws agored i unrhywun eistedd i arsylwi.  Ceir cynrychiolaeth o’r Cabinet (neu’r is-grwpiau) i weithio gyda’r llywodraethwyr, grwp rhieni ac athrawon, neu’r uwch dîm arwain i drafod, addasu neu greu polisi a gweithdrefnau.

Mae’r ysgol a’r disgyblion wedi cydweithio fel hyn ar greu y polisi cydraddoldeb, ac wrth greu ‘Dyddiadur Bwyd a Ffitrwydd ‘Byw yn Iach’ maent yn rhannu copiau gydag ysgolion eraill sydd â diddordeb.

Wedi i ddisgyblion Gwenffrwd weithio ar bolisiau a chyflwyniadau, er enghraifft pan yn gweithio ar y 7 Llinyn Marc Ansawdd Cenedlaethol Ysgolion Iach, byddant yn cael eu rhannu a swyddogion Sir y Fflint – i gymhell a chefnogi’r ysgolion a fydd yn barod i ymgeisio am y Marc Ansawdd yn y dyfodol.