Byw a Dysgu Gyda’n Gilydd: Cefnogi a Dysgu oddi wrth Deuluoedd sy’n Ceisio Lloches
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Gynradd Cadeirlan San Joseff yn ysgol gynradd Gatholig yng nghanol dinas Abertawe, sy’n gwasanaethu dalgylch amrywiol ac amlddiwylliannol.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Yn dilyn ceisiadau gan sawl rhiant i’r ysgol gefnogi ceisiadau ceiswyr lloches, sefydlodd y pennaeth grŵp cymorth ar gyfer rhieni y nodwyd eu bod yn geiswyr lloches neu’n ffoaduriaid. Ffocws y grŵp hwn oedd nodi anghenion y teuluoedd, cysylltu â gwasanaethau fel ‘Dinas Noddfa’ yn Abertawe, a galluogi rhieni i fanteisio ar gymorth cymheiriaid gan deuluoedd mewn sefyllfa debyg.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Yn dilyn cais llwyddiannus i’r British Council, ymwelodd staff o’r ysgol â Berlin i rannu arfer dda rhwng y DU a’r Almaen o ran integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y system addysg. Daeth datblygu dealltwriaeth o anghenion teuluoedd a gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau allanol yn ffocws gwaith ar ôl yr ymweliad.
Ar y cyd â’r coleg lleol, datblygodd yr ysgol ddosbarthiadau SIY (Saesneg fel iaith ychwanegol) ar gyfer rhieni, a chynnig cyfleoedd iddynt weithio fel gwirfoddolwyr yn yr ysgol. Gweithiodd gyda theuluoedd a phlant sy’n ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ddatblygu cyfleoedd dysgu creadigol am deithiau ac ymfudo, gan gynnwys yr holl ddisgyblion yn yr ysgol i’w galluogi i ddatblygu dealltwriaeth o oblygiadau gadael gwlad gartref am amrywiaeth o resymau. Helpodd hyn y disgyblion i ddeall beth mae’n ei olygu i fod yn geisiwr lloches a’r rhesymau pam mae ymfudo’n digwydd. Maent wedi datblygu medrau empathi, ac yn gallu trafod ag aeddfedrwydd beth allant ei wneud i gynorthwyo pobl eraill.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae’r gwaith yn y maes hwn yn golygu bod pob un o’r staff a’r disgyblion wedi datblygu dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae gweithio gyda theuluoedd i ddysgu Saesneg, a manteisio ar gymorth trwy ffrindiau a chymorth ar y ddwy ochr, wedi atgyfnerthu safle’r ysgol yng nghanol y gymuned. Mae wedi cryfhau dyhead ar gyfer teuluoedd a phlant. Mae safonau disgyblion wedi codi gan fod medrau rhieni wedi gwella, gan eu galluogi i gynorthwyo’u plant yn fwy effeithiol.
Trwy gydol y pandemig, mynychodd rhieni wersi byw ochr yn ochr â’u plant bob dydd, ac roedd dysgu ar y cyd yn nodwedd gref o ran parhad y polisi dysgu.
Gwahoddodd yr ysgol y disgyblion i fod yn gyfieithwyr ifanc er mwyn iddynt allu cynnig cymorth ymarferol i blant sy’n dechrau yn yr ysgol heb lawer o Saesneg, os o gwbl. Hyfforddwyd disgyblion i ddefnyddio iaith y corff ac ystumiau fel ffordd o gyfathrebu, ac arwain wrth gynorthwyo disgyblion newydd yn gymdeithasol ac yn academaidd.
Mae’r cwricwlwm yn adlewyrchu’r arfer gynhwysol hon ble bynnag y bo’n berthnasol; caiff ei hintegreiddio’n llawn mewn testunau addysg grefyddol a’r dyniaethau, a’i ddathlu trwy ddigwyddiadau penodol fel ‘Wythnos Ffoaduriaid’.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Trwy weithio gyda rhwydwaith SIY yr Awdurdod Lleol, mae’r ysgol wedi rhannu’r dulliau a ddefnyddir gyda theuluoedd a disgyblion bregus ag ysgolion eraill, ac wedi eu cynorthwyo i ddatblygu eu gwaith fel ysgolion noddfa. Mae wedi cysylltu â Chanolfan Ymfudo Prifysgol Abertawe, wedi gwneud cyflwyniadau mewn cynadleddau i’r British Council ac yn y gynhadledd ‘Towards a City of Sanctuary’ ym Melfast. Mae prosiect ‘Teithiau’ (‘Journeys’) yr ysgol, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, wedi cael ei osod yn y Senedd yng Nghaerdydd, ac yn y Tate Modern yn Llundain.